Dywedir yn aml heddiw mai dydd pen blwydd yr Eglwys yw’r Sulgwyn neu’r Pentecost. Mae’n hawdd deall pam fod pobl yn dweud hynny gan fod y Pentecost arbennig hwnnw pan dywalltodd Duw ei Ysbryd Glân ar y disgyblion yn fath o gychwyn newydd. O gael eu llenwi â nerth yr Ysbryd, aeth yr apostolion i gyhoeddi’r Efengyl, ac mae pregeth fawr Pedr ar Ddydd y Pentecost yn gychwyn effeithiol i’r cyhoeddi hwnnw. Llanwyd hwy â’r Ysbryd, a dechreuasant bregethu Crist mewn ffordd nerthol iawn. Ond nid dyma gychwyn pethau chwaith, ac nid dyma mae’n debyg ddydd geni’r Eglwys.
Roedd yr Eglwys yn bod cyn hynny. Oherwydd beth yw’r Eglwys ond pobl arbennig Duw? Yr Eglwys yw’r bobl y mae Duw wedi eu galw i fod yn deulu iddo’i hun. Felly, roedd yr Eglwys yn bod cyn Dydd y Pentecost. Roedd yn bod pan oedd y disgyblion disgwylgar gyda’i gilydd ar ôl i’r Iesu esgyn i’r nefoedd. Roedd yn bod pan oedd y disgyblion dryslyd gyda’i gilydd wedi’r atgyfodiad. Roedd yn bod pan oedd y disgyblion ofnus gyda’i gilydd wedi’r Croeshoeliad. Roedd yn bod pan oedd y deuddeg disgybl a’r gwragedd ac eraill yn dilyn Iesu gyda’i gilydd. Roedd yn bod pan ddechreuodd Iesu alw’i ddisgyblion ar ddechrau’i weinidogaeth. Ond roedd yn bod ymhell cyn hynny hefyd. Roedd yr Eglwys yn bod yng nghyfnod yr Hen Destament, yn nyddiau’r proffwydi, yn nyddiau’r brenhinoedd, yn nyddiau’r barnwyr, yn nyddiau’r anialwch ac yn nyddiau’r Aifft. Roedd hi’n bod o leiaf ers dyddiau Jacob ac Isaac ac Abraham. Byth ers i Dduw wneud cyfamod ag Abraham, ac addo y byddai hwnnw a’i ddisgynyddion yn bobl arbennig iddo, bu Eglwys Dduw yn dwyn ei thystiolaeth i ffyddlondeb a chariad y Tad Nefol.
Oherwydd hanfod yr Eglwys yw ei bod yn bobl arbennig i’r Arglwydd Dduw. A’r peth mawr a wnaed yn amlwg y Pentecost bythgofiadwy hwnnw yn Jerwsalem oedd bod terfynau’r Eglwys i gael eu hymestyn. Yn hytrach na bod yn gymdeithas o bobl a oedd yn perthyn i un genedl yn unig, daw’r Eglwys i gynnwys pobl o bob cenedl dan haul.
Yr hyn a ddathlwn heddiw yw nid yn gymaint ddechreuad yr Eglwys a’i geni, ond ei lledaeniad i gynnwys yr holl genehedloedd. Nid edrych yn ôl at ddechreuadau’r Eglwys a wnawn ond edrych ymlaen at weld yr Eglwys – trwy nerth yr Ysbryd a dywalltwyd ar Ŵyl y Pentecost – yn cryfhau eto fel bod mwy a mwy o bobl, o bob cenedl, yn dod yn rhan ohoni. Boed i derfynau’r Eglwys gael eu hymestyn yn ein hoes ac yn ein plith ni yn yr Ofalaeth hon yn nerth yr Ysbryd Glân.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Mai, 2012