Treth

Druan o Jimmy Carr.  Mi gafodd bryd a hanner o dafod gan y Prif Weinidog, David Cameron, y dydd o’r blaen.  Roedd Mr Cameron wedi clywed nad yw Mr Carr yn talu digon o dreth am ei fod yn defnyddio cwmniau a buddsoddiadau ar Ynys Jersey er mwyn medru arbed talu mwy nag sydd raid o dreth incwm.  Nid oes dim byd anghyfreithlon yn y trefniant, ond mater arall yw beth sy’n foesol gywir.

Mae’r stori a’r drafodaeth a ddeilliodd ohoni wedi dod â’r gwahaniaeth rhwng osgoi treth (tax avoidance) ac efadu treth (tax evasion) i’r amlwg. ‘Osgoi treth’ a wna pobl wrth ddefnyddio pob ffordd bosibl i beidio â thalu mwy nag sydd raid o dreth, a hynny’n cael ei wneud mewn ffyrdd cyfreithlon.  ‘Efadu treth’ yw defnyddio ffyrdd anghyfreithlon er mwyn peidio â thalu treth.  

Ddechrau’r wythnos, wedi i bapur newydd y Times dynnu sylw at faterion treth Jimmy Carr, roedd y comediwr yn ei gyfiawnhau ei hun trwy fynnu na ddymunai dalu ceiniog mwy nag sydd raid o dreth.  Ond daeth dan lach Mr Cameron, a’i cyhuddodd o fod yn foesol anghywir.  Ond amharod oedd y Prif Weinidog y diwrnod wedyn i feirniadu pobl eraill am yr un math o beth.  Doedd a wnelo’r ffaith fod un neu ddau ohonynt yn gefnogwyr y Blaid Geidwadol ddim â’r peth wrth gwrs!

Un peth oedd o blaid Jimmy Carr, chwarae teg iddo, oedd ei fod wedi syrthio ar ei fai erbyn diwedd yr wythnos a chyfaddef iddo wneud camgymeriad mawr.

Un peth y mae’r stori hon wedi ei wneud yw tanlinellu’r ffaith mai yn erbyn eu hewyllys y mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu trethi, boed hynny dreth incwm neu dreth cyngor neu dreth ar werth neu dreth ar dannwydd.  Ac eto, gwyddom fod rhaid wrth drethi er mwyn cynnal y gwahanol wasanaethau y dibynnwn arnynt.

Mor aml y bydd pobl yn glynu’n dynn wrth arian gan fynnu mai nhw sydd pia fo.  Pam ddylai neb arall, yn cynnwys y llywodraeth, gael ei ddwylo arno?  Ac fe all yr un feddylfryd reoli’r ffordd y meddyliwn am ein cyfraniadau at waith yr eglwys a theyrnas Dduw.  Ein harian ni ydyw, a pham dylai neb – yn cynnwys Duw –   gael ei ddwylo ar hwn hefyd?  Mae peidio rhoi i Dduw, o’n hamser a’n doniau yn ogystal â’n heiddo, yn debycach i efadu nac osgoi, gan mai Duw bia’r cyfan prun bynnagm a’n bod ninnau i fod i roi o’n gorau iddo bob amser. 

Rhoddion Duw yw’r cyfan sydd gennym,. Fe gawsom ddoniau a bendithion o bob math er mwyn eu defnyddio yng ngwasanaeth ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 24 Mehefin, 2012

Dameg y wê nôl

Mi ddylai pethau fod yn rhwyddach yr wythnos hon!  Mae’r cyswllt â’r rhyngrwyd wedi ei adfer, a’r cyfrifiadur a’r argraffydd yn bihafio’n dda.  Dim ond rhoi trefn ar gynnwys y rhifyn hwn (a’i sgwennu) sydd ei angen heno.  Fe ddylai’r gweddill fod yn ddidrafferth.  Ac ni fydd raid i chithau graffu ar brint llai nag arfer fel yr wythnos ddiwethaf.

Fel y soniais y Sul diwethaf, doedd y we ddim yn gweithio acw.  Ac mi barodd hynny am ddau ddiwrnod cyfan.  Roedd hynny nid yn unig yn niwsans ond yn drafferthus ac yn rhwystredig.  Mi ffoniais am help, fel sydd raid efo’r pethau hyn, sawl gwaith, ond yn ofer.  Doedd pethau ddim gwell.  Yn ôl pob sôn, roedd rhyw nam yn y gyfnewidfa ffôn yn wreiddiol.  Ond wedyn, roedd rhywbeth yn bod ar ein llinell ni.  Roedd rhywun neu rywrai’n ceisio’i thrwsio, ond doedd pethau’n gwella dim nes i’m hachos gael ei drosglwyddo i sylw rhywun ar ‘Lefel 2’.  Rŵan, dwn i ddim beth yn union yw ‘Lefel 2’, ond mae’n amlwg fod y ‘dyn Lefel 2’ y bum i’n siarad ag o’n dallt y dalltings.  O fewn dim i mi ei ffonio roedd o’n sylweddoli beth oedd y broblem, ac mi roddodd gyfarwyddiadau manwl i mi eu dilyn er mwyn ei datrys.  Ac wrth wneud yn union beth oedd o’n ei ddeud wrthyf a theipio’r llythrennau a’r rhifau priodol, o fewn dim o dro roedd y cyfan  yn ôl i drefn, a’r nam a barodd am ddeuddydd cyfan wedi ei gywiro.

Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn mewn trafferth efo’i gyfrifiadur.  Ni all ddatrys y broblem ei hunan, ac ni all ei ffrindiau na’i deulu ei helpu.  Mae’n ffonio am gymorth ond i ddim diben.  O’r diwedd, mae’n dod o hyd i ddyn Lefel 2 sy’n deud wrtho beth sy’n bod a beth i’w wneud.  Mae’n rhaid  iddo gredu bod dyn Lefel 2 yn medru ei helpu. Ac er iddo chwilio am help ym mhob cyfeiriad, a chael ei siomi mewn mwy nag arbenigwr a ddylasai fod wedi ei helpu, mae’n barod i ymddiried yn y dyn Lefel 2.  Mae’n ei roi ei hun yn ei ofal ac yn gwneud popeth y mae’n ei ddweud wrtho.  A’r munud y mae’n gwneud hynny, mae’r dyn Lefel 2 yn cydymdeimlo ag o ac yn ei arwain ac yn delio â’r broblem gan drwsio’r nam ac adfer y cysylltiad â’r we.  Mae’r dyn oedd yn drist wrth ei fodd ac yn diolch i ddyn Lefel 2, ac yn ei ganmol wrth bawb o’i ffrindiau.

Un o’r camau cyntaf i’r bywyd Cristnogol yw sylweddoli bod Duw’n gwybod i’r dim beth sy’n bod arnom.  Ac am ei fod yn gwybod beth sy’n bod yr anfonodd Duw ei Fab.  Trwy ymddiried yn y Mab y cawn ni ein dwyn i berthynas gywir â Duw.  Ac o ymddiried ynddo y down i brofi’r bywyd newydd ac i wybod am gariad rhyfeddol Duw atom ni.  Ac y mae pawb a brofodd y bywyd newydd hwn yn rhoi’r clod a’r diolch i Dduw ac yn ei ganmol yng ngŵydd eraill.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Mehefin, 2012

We’n ôl!

O’r diwedd, wedi deuddydd cyfan (wel, roedd yn teimlo felly!) o ffonio am help i ailgysylltu â’r We (gweler erthygl 10 Mehefin), dyma lwyddo i osod Gronyn yr wythnos ddiwethaf a’r wythnos hon ar y wefan.  Ddylwn i fod wedi ei wneud fel arfer ddechrau’r wythnos, ond wnaed mo hynny.  Ymddiheuriadau i bawb fu’n chwilio’n ofer am fanylion yr wythnos ddiwethaf ar y wefan.

Dim We

Dwi wedi methu cysylltu â’r rhyngrwyd ers bore ddoe, ac mae’n bnawn Sadwrn erbyn hyn.  Yn ôl a ddywedwyd wrthyf neithiwr, roedd y gwasanaeth i fod wedi ei adfer am 6.00 o’r gloch y bore ’ma,  ond erbyn hyn, mae hynny wedi ei newid i 3.00 o’r gloch y pnawn.  Dyma’r eildro o fewn y mis diwethaf i ni gael trafferthion tebyg.  Mae’r cyfan yn tanlinellu’r ffordd y daethom i arfer â’r rhyngrwyd a gwasanaethau o’r fath.  Yn gam neu’n gymwys, yr ydym fwy a mwy dibynnol arnynt i wneud ein gwaith, heb sôn am y defnydd a wnawn ohonynt ar gyfer adloniant a chymdeithasu.

Daw cryn dipyn o’r negeseuon a gaf trwy’r e-bost, ac mae’r gwasanaeth hwnnw’n prysur ddod mor bwysig â’r post a’r ffôn erbyn hyn.

Mae’r rhyngrwyd hefyd yn debyg i lyfrgell a storfa gwybodaeth am bob math o bynciau, ac yn hwylus iawn wrth chwilio am atebion i bob math o gwestiynau.

Ac mae gwefan yr Ofalaeth yn debyg i hysbysfwrdd sy’n dangos y manylion am ein hoedfaon a’n cyfarfodydd.  Mae methu diweddaru’r wybodaeth fel dal i ddangos hen boster ymhell wedi cynnal y gweithgarwch y mae’n sôn amdano.

Ydw, dwi’n teimlo’n rhwystredig ac ar goll braidd heb y We.  Mae bod hebddo am ddiwrnod yn f’atgoffa o’r ffordd y mae’r dechnoleg hon yn hwyluso ein gwaith.

Felly, diolchwn i Dduw am bopeth sy’n gwneud bywyd yn braf a hwylus, a pheidio am un eiliad eu cymryd yn ganiataol.  Mae gennym drydan a dŵr glân a system garthffosiaeth, ond mae’r cyfan yn dibynnu ar allu pobl i’w cynnal a’u cadw.  Ac yn y pen draw, mae’r cyfan yn ddibynnol ar yr elfennau, a gall  gwynt a glaw yn rhwydd iawn ddrysu’r cyfan.  Gwelwyd ddoe ddiwethaf yn ardal Aberystwyth y difrod y gall llifogydd eu gwneud mor sydyn.

Mae’r ffin rhyngom ni yn ein digonedd a thlodion a newynog ein byd yn llawer teneuach nag a feddyliwn yn aml.  Fe ddylai hynny gryfhau ein cydymdeimlad ag eraill yn eu dioddefaint. Diolchwn am yr holl isadeiledd sy’n sicrhau i ni fywyd cyfforddus a braf, yn arbennig o gofio am y bobl sy’n byw yng nghanol tlodi a budreddi  oherwydd diffyg dŵr glân a phethau sylfaenol o’r fath.

O gofio mor freintiedig ydym, beth yw diwrnod o fod heb y We?  Ond er dweud hynny, mae arna i ofn mai cwyno fyddaf fi eto ymhen yr awr os na fydd y we wedi ei drwsio, a minnau’n dal i fethu gwneud yr hyn sy’n galw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 10 Mehefin, 2012

Ffydd

Mae’r Full Gospel Apostolic House of the Lord Jesus yn Matoaka, Mercer County, West Virginia yn yr Unol Daleithiau yn ddi-weinidog ers wythnos.  Bu farw Mark Wolford, bugail yr eglwys honno’n sydyn nos Sul diwethaf yn 44 mlwydd oed.  Doedd o ddim wedi bod yn wael ac roedd o wrth ei waith fel arfer yr wythnos ddiwethaf, ond bu farw ychydig oriau wedi iddo arwain oedfa.  Yr hyn sy’n gwneud y stori hon yn fwy trist fyth yw bod tad Mark Wolford wedi marw dan yr un amgylchiadau’n union yn 1983, yn 39 mlwydd oed.  Roedd yntau’n ddyn iach ac wedi arwain oedfa rai oriau cyn ei farwolaeth.  A’r gwir yw na fyddai’r un o’r ddau wedi marw fel gwnaethon nhw petaen nhw heb arwain yr oedfaon hynny! 

Gwaith peryglus iawn ydi arwain oedfa i bobl fel Mark Wolford gan ei fod ef a’i debyg yn credu bod gafael mewn nadroedd gwenwynig yn un ffordd bwysig o ddangos cryfder eu ffydd.  Dyna oedd o’n ei wneud ddydd Sul.  Ond wedi gafael yn y neidr, a’i rhoi i’w fam, ac i aelod arall o’r gynulleidfa iddynt hwythau afael ynddi, fe osododd Wolford y neidr ar lawr ac eistedd wrth ei hymyl, ac fe’i brathwyd ganddi.  Dyna’n union a ddigwyddodd i’w dad hefyd yn ôl pob tebyg.

Roedd Mark Wolford yn credu ei fod yn profi realiti ei ffydd yn Nuw trwy afael yn y neidr, ac fe wnai hynny’n rheolaidd yn ei oedfaon.  Roedd yn credu fod Duw eisiau iddo wneud hyn, ac mai arwydd o ddiffyg ffydd oedd peidio â’i wneud.  Ac roedd yn seilio’i gred ar eiriau a welir ar ddiwedd Efengyl Marc: ‘gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt’ (Marc 16:18).

Nid yw’n hawdd deall y geiriau hynny, ond mae’r hyn a wnai Mark Wolford ohonynt yn dangos y perygl o wneud geiriau anodd a thywyll yn sail i’n ffydd a’n hymddygiad. Beth bynnag yw ystyr y geiriau, fe ddylai fod yn amlwg nad gorchymyn i Gristnogion ufuddhau iddo ydynt. (Mae’n bosibl bod Iesu’n cyfeirio yma at rywbeth anghyffredin a ddigwyddai unwaith yng nghyfnod yr Eglwys Fore.)  Mor bwysig yw deall y Beibl yn ei oleuni ei hun a gadael iddo’i esbonio’i hun i ni.  Oherwydd pan demtiwyd Iesu Grist i roi prawf o’i ffydd yn Nuw trwy ei daflu ei hun oddi ar dŵr uchaf y deml er mwyn i Dduw ei warchod, gwrthod gwneud hynny a wnaeth ef a dweud, ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf’ (Mathew 4:7).  Bob tro mae pobl fel Mark Wolford yn rhyfygu trwy gydio mewn nadroedd maent yn herio Duw i wneud pethau mawr, gan weithredu’n gwbl groes i’r Arglwydd Iesu.  Marwolaeth drist, ddiangen oedd un Mark Wolford, heb fod a wnelo  ddim â gwir ffydd yn Nuw’r Beibl.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Mehefin, 2012