We’n ôl!

Mehefin 10, 2012

O’r diwedd, wedi deuddydd cyfan (wel, roedd yn teimlo felly!) o ffonio am help i ailgysylltu â’r We (gweler erthygl 10 Mehefin), dyma lwyddo i osod Gronyn yr wythnos ddiwethaf a’r wythnos hon ar y wefan.  Ddylwn i fod wedi ei wneud fel arfer ddechrau’r wythnos, ond wnaed mo hynny.  Ymddiheuriadau i bawb fu’n chwilio’n ofer am fanylion yr wythnos ddiwethaf ar y wefan.

Advertisements

Dim We

Mehefin 10, 2012

Dwi wedi methu cysylltu â’r rhyngrwyd ers bore ddoe, ac mae’n bnawn Sadwrn erbyn hyn.  Yn ôl a ddywedwyd wrthyf neithiwr, roedd y gwasanaeth i fod wedi ei adfer am 6.00 o’r gloch y bore ’ma,  ond erbyn hyn, mae hynny wedi ei newid i 3.00 o’r gloch y pnawn.  Dyma’r eildro o fewn y mis diwethaf i ni gael trafferthion tebyg.  Mae’r cyfan yn tanlinellu’r ffordd y daethom i arfer â’r rhyngrwyd a gwasanaethau o’r fath.  Yn gam neu’n gymwys, yr ydym fwy a mwy dibynnol arnynt i wneud ein gwaith, heb sôn am y defnydd a wnawn ohonynt ar gyfer adloniant a chymdeithasu.

Daw cryn dipyn o’r negeseuon a gaf trwy’r e-bost, ac mae’r gwasanaeth hwnnw’n prysur ddod mor bwysig â’r post a’r ffôn erbyn hyn.

Mae’r rhyngrwyd hefyd yn debyg i lyfrgell a storfa gwybodaeth am bob math o bynciau, ac yn hwylus iawn wrth chwilio am atebion i bob math o gwestiynau.

Ac mae gwefan yr Ofalaeth yn debyg i hysbysfwrdd sy’n dangos y manylion am ein hoedfaon a’n cyfarfodydd.  Mae methu diweddaru’r wybodaeth fel dal i ddangos hen boster ymhell wedi cynnal y gweithgarwch y mae’n sôn amdano.

Ydw, dwi’n teimlo’n rhwystredig ac ar goll braidd heb y We.  Mae bod hebddo am ddiwrnod yn f’atgoffa o’r ffordd y mae’r dechnoleg hon yn hwyluso ein gwaith.

Felly, diolchwn i Dduw am bopeth sy’n gwneud bywyd yn braf a hwylus, a pheidio am un eiliad eu cymryd yn ganiataol.  Mae gennym drydan a dŵr glân a system garthffosiaeth, ond mae’r cyfan yn dibynnu ar allu pobl i’w cynnal a’u cadw.  Ac yn y pen draw, mae’r cyfan yn ddibynnol ar yr elfennau, a gall  gwynt a glaw yn rhwydd iawn ddrysu’r cyfan.  Gwelwyd ddoe ddiwethaf yn ardal Aberystwyth y difrod y gall llifogydd eu gwneud mor sydyn.

Mae’r ffin rhyngom ni yn ein digonedd a thlodion a newynog ein byd yn llawer teneuach nag a feddyliwn yn aml.  Fe ddylai hynny gryfhau ein cydymdeimlad ag eraill yn eu dioddefaint. Diolchwn am yr holl isadeiledd sy’n sicrhau i ni fywyd cyfforddus a braf, yn arbennig o gofio am y bobl sy’n byw yng nghanol tlodi a budreddi  oherwydd diffyg dŵr glân a phethau sylfaenol o’r fath.

O gofio mor freintiedig ydym, beth yw diwrnod o fod heb y We?  Ond er dweud hynny, mae arna i ofn mai cwyno fyddaf fi eto ymhen yr awr os na fydd y we wedi ei drwsio, a minnau’n dal i fethu gwneud yr hyn sy’n galw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 10 Mehefin, 2012


Ffydd

Mehefin 10, 2012

Mae’r Full Gospel Apostolic House of the Lord Jesus yn Matoaka, Mercer County, West Virginia yn yr Unol Daleithiau yn ddi-weinidog ers wythnos.  Bu farw Mark Wolford, bugail yr eglwys honno’n sydyn nos Sul diwethaf yn 44 mlwydd oed.  Doedd o ddim wedi bod yn wael ac roedd o wrth ei waith fel arfer yr wythnos ddiwethaf, ond bu farw ychydig oriau wedi iddo arwain oedfa.  Yr hyn sy’n gwneud y stori hon yn fwy trist fyth yw bod tad Mark Wolford wedi marw dan yr un amgylchiadau’n union yn 1983, yn 39 mlwydd oed.  Roedd yntau’n ddyn iach ac wedi arwain oedfa rai oriau cyn ei farwolaeth.  A’r gwir yw na fyddai’r un o’r ddau wedi marw fel gwnaethon nhw petaen nhw heb arwain yr oedfaon hynny! 

Gwaith peryglus iawn ydi arwain oedfa i bobl fel Mark Wolford gan ei fod ef a’i debyg yn credu bod gafael mewn nadroedd gwenwynig yn un ffordd bwysig o ddangos cryfder eu ffydd.  Dyna oedd o’n ei wneud ddydd Sul.  Ond wedi gafael yn y neidr, a’i rhoi i’w fam, ac i aelod arall o’r gynulleidfa iddynt hwythau afael ynddi, fe osododd Wolford y neidr ar lawr ac eistedd wrth ei hymyl, ac fe’i brathwyd ganddi.  Dyna’n union a ddigwyddodd i’w dad hefyd yn ôl pob tebyg.

Roedd Mark Wolford yn credu ei fod yn profi realiti ei ffydd yn Nuw trwy afael yn y neidr, ac fe wnai hynny’n rheolaidd yn ei oedfaon.  Roedd yn credu fod Duw eisiau iddo wneud hyn, ac mai arwydd o ddiffyg ffydd oedd peidio â’i wneud.  Ac roedd yn seilio’i gred ar eiriau a welir ar ddiwedd Efengyl Marc: ‘gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt’ (Marc 16:18).

Nid yw’n hawdd deall y geiriau hynny, ond mae’r hyn a wnai Mark Wolford ohonynt yn dangos y perygl o wneud geiriau anodd a thywyll yn sail i’n ffydd a’n hymddygiad. Beth bynnag yw ystyr y geiriau, fe ddylai fod yn amlwg nad gorchymyn i Gristnogion ufuddhau iddo ydynt. (Mae’n bosibl bod Iesu’n cyfeirio yma at rywbeth anghyffredin a ddigwyddai unwaith yng nghyfnod yr Eglwys Fore.)  Mor bwysig yw deall y Beibl yn ei oleuni ei hun a gadael iddo’i esbonio’i hun i ni.  Oherwydd pan demtiwyd Iesu Grist i roi prawf o’i ffydd yn Nuw trwy ei daflu ei hun oddi ar dŵr uchaf y deml er mwyn i Dduw ei warchod, gwrthod gwneud hynny a wnaeth ef a dweud, ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf’ (Mathew 4:7).  Bob tro mae pobl fel Mark Wolford yn rhyfygu trwy gydio mewn nadroedd maent yn herio Duw i wneud pethau mawr, gan weithredu’n gwbl groes i’r Arglwydd Iesu.  Marwolaeth drist, ddiangen oedd un Mark Wolford, heb fod a wnelo  ddim â gwir ffydd yn Nuw’r Beibl.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Mehefin, 2012