Wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mae’r dydd ar wawrio. Prinder swyddogion diogelwch, tagfeydd traffig, streic gweithwyr y ffiniau mewn meysydd awyr, tocynnau heb eu gwerthu, streic gyrwyr trenau a thywydd gwlyb yw rhai o’r trafferthion y mae’r trefnwyr wedi gorfod ymgodymu â hwy ar drothwy Gemau Llundain.
Ond nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â’r trafferthion a wynebai’r Mudiad Olympaidd yn Seoul yn 1988 ar ôl rownd derfynol ras 100 medr y dynion pan gafodd yr enillydd, Ben Johnson, ei wahardd am iddi ddod yn amlwg iddo gymryd cyffuriau anghyfreithlon. Roedd yna raglen yn adrodd yr hanes hwnnw ar y teledu’r noson o’r blaen.
Un o’r pethau mwyaf diddorol a glywyd ar y rhaglen oedd yr hyn a ddywedodd un o’r gwyddonwyr a fu’n ymwneud â’r profion cyffuriau a wneir ar athletwyr. Eglurodd fod y profion hyn yn gwella o hyd, ac yn dod yn fwy a mwy effeithiol o ran datgelu olion cyffuriau yn nŵr neu waed yr athletwyr. Mae’r profion a wneir heddiw, meddai, yn gallu canfod ôl cyffuriau nad oedd yn bosibl i’r profion a wnaed flynyddoedd yn ôl eu canfod. Ac aeth ymlaen i egluro ei fod wedi cadw samplau a gymerwyd oddi wrth athletwyr ugain a deng mlynedd ar hugain yn ôl. A than y profion mwyaf diweddar hyn, meddai, roedd cyfran go fawr o’r samplau hynny yn amlwg ag olion cyffuriau ynddynt! Doedd y profion oedd ar gael ar y pryd ddim wedi gallu canfod yr olion hynny. Roedd hynny’n golygu y gellid dangos bod llawer iawn mwy o athletwyr na a ddaliwyd ar y pryd wedi defnyddio cyffuriau dros y blynyddoedd. Wedi meddwl am y peth, penderfynu peidio gwneud dim pellach wnaeth y gwyddonydd am ei fod yn ofni y byddai’n codi nyth cacwn rhy fawr.
Mae llygaid Duw yn gweld pob dim, a pheth ofnadwy yw sylweddoli hynny. A rhyw ddydd, medd y Beibl wrthym, fe gaiff pob dim ei ddwyn i’r amlwg. Fe ddatgelir pob pechod, yn cynnwys y pethau hynny yr oeddem ni wedi tybio nad oedd neb wedi sylwi arnynt a’u bod wedi mynd yn angof. Dyna fydd cywilydd mawr! Pob gweithred, pob gair, pob meddwl wedi ei ddatgelu! Pob anwiredd, pob amhuredd, pob anffyddlondeb yn dod i’r amlwg. Ac eto, i’r rhai sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, bydd y gwarth hwnnw wedi ei guddio.
Does dim rhaid i’r sawl sy’n credu yn Iesu ofidio, oherwydd ynddo ef mae maddeuant am bob bai. Y pechodau sy’n amlwg i bawb? Maent wedi eu maddau. Y pechodau na sylwodd neb arnynt? Maent wedi eu maddau. Y pechodau yr ofnwn y daw rhywun i wybod amdanynt? Mae’r rheiny hefyd wedi eu maddau trwy Iesu Grist.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 22 Gorffennaf, 2012