Datgelu bai

Gorffennaf 22, 2012

Wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mae’r dydd ar wawrio.  Prinder swyddogion diogelwch, tagfeydd traffig, streic gweithwyr y ffiniau mewn meysydd awyr, tocynnau heb eu gwerthu, streic gyrwyr trenau a thywydd gwlyb yw rhai o’r trafferthion y mae’r trefnwyr wedi gorfod ymgodymu â hwy ar drothwy Gemau Llundain.   

Ond nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â’r trafferthion a wynebai’r Mudiad Olympaidd yn Seoul yn 1988 ar ôl rownd derfynol ras 100 medr y dynion pan gafodd yr enillydd, Ben Johnson, ei wahardd am iddi ddod yn amlwg iddo gymryd cyffuriau anghyfreithlon.  Roedd yna raglen yn adrodd yr hanes hwnnw ar y teledu’r noson o’r blaen.

Un o’r pethau mwyaf diddorol a glywyd ar y rhaglen oedd yr hyn a ddywedodd un o’r gwyddonwyr a fu’n ymwneud â’r profion cyffuriau a wneir ar athletwyr.  Eglurodd fod y profion hyn yn gwella o hyd, ac yn dod yn fwy a mwy effeithiol o ran datgelu olion cyffuriau yn nŵr neu waed yr athletwyr.  Mae’r profion a wneir heddiw, meddai, yn gallu canfod ôl cyffuriau nad oedd yn bosibl i’r profion a wnaed flynyddoedd yn ôl eu canfod.  Ac aeth ymlaen i egluro ei fod wedi cadw samplau a gymerwyd oddi wrth athletwyr ugain a deng mlynedd ar hugain yn ôl.  A than y profion mwyaf diweddar hyn, meddai, roedd cyfran go fawr o’r samplau hynny yn amlwg ag olion cyffuriau ynddynt!  Doedd y profion oedd ar gael ar y pryd ddim wedi gallu canfod yr olion hynny.  Roedd hynny’n golygu y gellid dangos bod llawer iawn mwy o athletwyr na a ddaliwyd ar y pryd wedi defnyddio cyffuriau dros y blynyddoedd.  Wedi meddwl am y peth, penderfynu peidio gwneud dim pellach wnaeth y gwyddonydd am ei fod yn ofni y byddai’n codi nyth cacwn rhy fawr.

Mae llygaid Duw yn gweld pob dim, a pheth ofnadwy yw sylweddoli hynny.  A rhyw ddydd, medd y Beibl wrthym, fe gaiff pob dim ei ddwyn i’r amlwg.  Fe ddatgelir pob pechod, yn cynnwys y pethau hynny yr oeddem ni wedi tybio nad oedd neb wedi sylwi arnynt a’u bod wedi mynd yn angof.  Dyna fydd cywilydd mawr!  Pob gweithred, pob gair, pob meddwl wedi ei ddatgelu!  Pob anwiredd, pob amhuredd,  pob anffyddlondeb yn dod i’r amlwg.  Ac eto, i’r rhai sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, bydd y gwarth hwnnw wedi ei guddio.     

Does dim rhaid i’r sawl sy’n credu yn Iesu ofidio, oherwydd ynddo ef mae maddeuant am bob bai.  Y pechodau sy’n amlwg i bawb?  Maent wedi eu maddau.  Y pechodau na sylwodd neb arnynt?  Maent wedi eu maddau.  Y pechodau yr ofnwn y daw rhywun i wybod amdanynt?  Mae’r rheiny hefyd wedi eu maddau trwy Iesu Grist. 

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 22 Gorffennaf, 2012

 


Park Lane

Gorffennaf 22, 2012

Mae’r gêm Monopoly wedi sicrhau bod Park Lane yn un o strydoedd enwocaf Llundain.  Arferai fod yn stryd o dai moethus, a hynny a olygai mai dyma’r eiddo ail ddrutaf ar fwrdd Monopoly. Mae’n debyg bod Park Lane wedi newid cryn dipyn ers i’r gêm gael ei chreu a’i bod erbyn hyn yn stryd lydan brysur, tair lôn i bob cyfeiriad. Ond Park Lane arall oedd yn y newyddion yr wythnos ddiwethaf. Yn Llundain y mae Charlton Park Lane hefyd, a dyma’r stryd y gwelwyd naw o bonciau arafu (speed humps) yn cael eu codi oddi arni’r diwrnod o’r blaen ar gyfer y Gemau Olympaidd. Ar hyd y stryd hon y bydd athletwyr a phwysigion yn teithio i’r Royal Artillery Barracks yn Greenwich i rai o gystadlaethau saethu a saethyddiaeth y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Er mwyn hwyluso’u taith, a rhag i’r ponciau eu harafu, penderfynwyd gwario £50,000 i’w codi, a’u hailosod wedi i’r Gemau ddod i ben. Yn naturiol ddigon, mae’r bobl leol yn bryderus ynghylch y peth ac yn poeni am eu diogelwch hwy a’u plant os bydd cerbydau’n goryrru ar hyd y lôn heb ddim i’w rhwystro.

Un enghraifft yn unig yw hyn o’r modd y mae trefnwyr y Gemau’n rhoi lles y cystadleuwyr a’r swyddogion a’r noddwyr o flaen buddiannau’r bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Llundain.  Mae’n bosib iawn y bydd pwysigion y Gemau’n symud yn hwylus o fan i fan tra bydd gweithwyr a thrigolion lleol yn cael mwy o drafferth nag arfer i fynd o amgylch y ddinas.

Mor bwysig yw hi i’r eglwys ofalu nad yw’n gwneud peth tebyg trwy roi ei buddiannau hi ei hun o flaen lles pobl eraill. Y gwir yw ei bod mor hawdd gwneud hynny. Nid yw’r Eglwys yn bod er ei mwyn ei hun, Mae’n bod yn hytrach er mwyn yr Arglwydd lesu Grist, i’w wasanaethu ef a’i fawrygu. Mae’n bod er mwyn eraill, i’w caru a’i gwasanaethu yn enw’r Iesu.

Mor rhwydd yw dweud hynny, ond mor anodd ei weithredu. Nid ein lles ni sydd i ddod gyntaf, medd yr lesu wrthym, ond lles eraill. A’n braint yw gwasanaethu eraill yng nghariad Crist.  Beth yn union y mae hynny’n ei olygu, a sut yn union y gwnawn ni hynny yw dau o’r cwestiynau y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hwy bob dydd.  Yr hyn sy’n gwbl amlwg yw na lwyddwn ni i roi eraill yn gyntaf heb i hynny gostio i ni mewn amser a llafur ac adnoddau.
Ond cyn hynny hyd yn oed, lwyddwn ni ddim i roi eraill yn gyntaf heb i’n calonnau fod wedi eu cyffwrdd gan gariad Duw ac i ninnau brofi gwir gariad at eraill a gwir ofal am eu lles ysbrydol a chorfforol. Gobeithio nad yw codi’r ponciau yn Llundain yn golygu bod taith gyfforddus i bobl y Gemau yn bwysicach na diogelwch plant a phobl Charlton Park Lane.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 15 Gorffennaf, 2012