Gras a ffydd yw dau o gyfeillion mwyaf y Cristion. Gras a ffydd yw calon a choron Cristnogaeth. Gras a ffydd yw cryfder y bywyd Cristnogol. Maent yn gwbl sylfaenol, a byddai Cristnogaeth yn peidio â bod hebddynt.
Gogoniant Cristnogaeth yw ei bod yn cynnig i ni berthynas real a bywiol â’r Duw mawr. Ac mae gras a ffydd wrth wraidd y berthynas honno. Trwy ras, yn hytrach na thrwy eu nerth a’u haeddiant eu hunain y daw pobl iddi. Trwy ffydd yn yr Iesu, ac nid trwy ddefodau a gweithgarwch crefyddol, y deuant at Dduw. Dyna ddywed Cristnogaeth, a dyna sy’n ei gwneud yn newyddion da o ryfeddod mawr i bawb sy’n ei derbyn. I weiniaid a phechaduriaid, mae gan Gristnogaeth neges syfrdanol, sef mai gras a ffydd sy’n rhoi gobaith a llawenydd. Y pethau hyn sydd wedi galluogi Cristnogion ar hyd yr oesoedd i fyw’r bywyd Cristnogol mewn rhyddid a llawenydd.
A chan mai’r berthynas hon â Duw yw man cychwyn y bywyd Cristnogol, mae gras a ffydd yn gymwynaswyr mawr i bopeth sydd ynglŷn â Christnogaeth. Oherwydd mae’r eglwysi a gwaith Cristnogol o bob math ar eu hennill wrth i’r berthynas â Duw lywio bywyd ac ymddygiad pobl.
Ond fe all gras a ffydd fod yn elynion y grefydd sy’n gosod capel ac eglwys ac oedfa a defod yng nghanol y bywyd Cristnogol; y grefydd gyfundrefnol sy’n rhoi mwy o bwys ar draddodiad a chyfundrefn ac adeilad a defod na’r berthynas fywiol â Duw. Mae gras a ffydd yn dweud nad yw’r pethau hyn yn angenrheidiol i Gristnogaeth, am nad trwyddynt hwy y ceir y bywyd newydd a’r gobaith am y bywyd tragwyddol. Trwy ffydd yn Iesu Grist y daw’r pethau hyn, ac nid trwy ddefod nac oedfa na theyrngarwch i gapel neu enwad neu gyfundrefn. A daw’r ffydd honno trwy ras Duw.
Pan fo golwg pobl ar ras a gafael pobl ar ffydd yn gwanio, mae Cristnogaeth yn ‘colli ei gafael’ ar bobl. Ac mae’n bosibl mai dyna a welwn yn nirywiad a gwendid ein heglwysi anghydffurfiol heddiw. Mae’r union byth sy’n rhoi grym i’r bywyd Cristnogol yn absennol os collwyd golwg ar ras a ffydd.
Fedrwn ni ddim mynnu bod pobl yn dod i’n hoedfaon, a ninnau’n credu mai peth gwirfoddol yw addoliad. Fedrwn ni ddim gorfodi pobl i gefnogi’r capel a’r gyfundrefn grefyddol, a ninnau’n credu mai o’r galon y daw’r awydd i wneud hynny. O ran y gyfundrefn a’i dyfodol, mae’n bosibl y byddai’n haws heb ras a ffydd! Ond gan nad defodau a chyfundrefnau sydd bwysicaf, ond gwir Gristnogaeth, mae gras a ffydd yn aros yn sail y Gristnogaeth honno a ddaw â bywyd.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23 Medi, 2012