Croeso

Mae’n bosibl, wrth gwrs, mai fi oedd ar fai, ac y dylwn i fod wedi gwneud mwy o ymdrech.  Ond yn ddistaw bach, mae’n bosib i mi ddal nôl yn fwriadol er mwyn gweld pa groeso gawn i.  Ac i bob pwrpas, yr ateb syml oedd … fawr o groeso o gwbl.

Doeddwn i ddim wedi ypsetio na dim, cofiwch.  Wedi’r cwbl, dwyf fi ddim yn debygol o fynd yno eto nac o weld neb oedd yno eto chwaith.  Ac a bod yn deg â hwythau, pam dylai’r un ohonyn nhw boeni’n ormodol am rywun na fyddai’n debygol o alw heibio eto? 

Wedi mynd i oedfa’r bore mewn eglwys fach yn yr Alban oeddwn i’r haf yma.  Doedd y gynulleidfa ddim yn fawr iawn, a ninnau mewn pentref cymharol fychan. Rwy’n tybio mai pobl leol oedd y mwyafrif o’r addolwyr y bore hwnnw.  Roedd yn oedfa dda, yr addoliad yn ddiffuant, a’r bregeth yn werthfawr, a’r cyfan yn ddigon tebyg i oedfa yn un o’n capeli yma yng Nghymru.  Ac yna, ar ddiwedd yr oedfa, allan â mi.  Wnes i ddim loetran yn ormodol, ond wnes i ddim rhuthro allan trwy’r drws chwaith.  Ond mi lwyddais i ddod oddi yno heb fod wedi torri gair â neb o gwbl.

Fel y dywedais, doeddwn i ddim yn poeni’n ormodol, a wnaeth y profiad ddim amharu ar y gwyliau o gwbl.  Ond fe wnaeth i mi feddwl am y croeso a gaiff pobl yma yn ein hoedfaon ni.  Ac mor braf yw gallu dweud bod pethau’n wahanol yma.  Prin fod yna bobl yn dod i’n hoedfaon heb gael rhyw fath o sgwrs â’u cydaddolwyr, ac mae’n siwr gen i na fydd ymwelwyr neu bobl a ddaw ond yn achlysurol i’r oedfa’n mynd oddi yno heb fod rhywun yn y gynulleidfa wedi eu croesawu a chael sgwrs fach efo nhw.  Ac mae hynny’n amlwg yn beth i’w ganmol ac i ddiolch amdano.  A hir y parhao.  Oherwydd  mae ysbryd croesawgar yn siwr o fod yn un o’r pethau pwysicaf i unrhyw gapel neu eglwys. 

Mae’n hawdd iawn cymryd rhai pethau’n ganiataol a lleihau eu gwerth.  Ac yn sicr mae cyfarch pobl ac estyn croeso iddynt yn un o’r pethau hynny y mae mor rhwydd anghofio mor werthfawr ydyw.  Heb os, mae’r ddawn o groesawu yn un o’r doniau pwysicaf yng ngweinidogaeth ein heglwysi.  Mae pobl yn fwy tebygol o ddod nôl i oedfa os byddant yn synhwyro fod croeso iddynt a’n bod ni’n falch o’u gweld.  Fwy na thebyg mai’r cynhesrwydd y croeso fydd y peth y bydd pobl yn ei gofio fwyaf am eu hymweliad cyntaf â’r capel, o flaen unrhyw beth a ddywedir neu a wneir yn yr oedfa ei hun.  Felly, wrth ddiolch i bawb ohonoch sydd wedi hen arfer ag estyn croeso cynnes a chyfeillgar i bawb a ddaw atom yn achlysurol neu’n rheolaidd, gweddiwn y bydd Duw’n defnyddio’r ysbryd hwnnw er ei glod.

 Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 02 Medi, 2012

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: