Roeddwn mewn cyfarfod ddechrau’r wythnos yn gwrando ar ŵr ifanc yn traddodi anerchiad. Ond er ei fod yn ddieithr, roedd yna rywbeth hynod gyfarwydd amdano. Ac er mai dyma’r tro cyntaf i mi ei glywed, gwyddwn yn iawn pam ei fod mor gyfarwydd. Rwy’n adnabod ei dad. Ac roedd y mab mor debyg iddo o ran maint ac wyneb a llais ac osgo.
Mi wn am weinidogion sy’n swnio fel rhyw weinidog arall a fu’n ddylanwad arnynt neu’n dipyn o arwr iddynt. Maen nhw’n rhoi’r argraff eu bod wedi eu modelu eu hunain arno, gan siarad yn debyg iddo neu ddefnyddio’r un ystumiau ag ef wrth bregethu. Gall yr un peth ddigwydd mewn meysydd eraill wrth gwrs, efo gwleidyddion neu gomediwyr neu ohebwyr ac ati, lle gwneir ymdrech fwriadol i swnio fel y person arall.
Ond mae’n anodd gen i gredu fod hynny wedi digwydd yn achos y gŵr ifanc a glywais i’r diwrnod o’r blaen. Nid wedi gwneud ymdrech i fod yn debyg i’w dad oedd o; nid mynd ati a wnaethai i gopïo osgo ei dad; nid penderfynu ceisio siarad fel ei dad a wnaethai. Roedd o’n naturiol yn debyg i’w dad. Doedd dim rhaid ymdrechu i fod yn debyg iddo. Y gwir yw na fedrai o beidio â bod yn debyg iddo. Gall pawb ohonom feddwl am bobl yr ydym ninnau’n eu hadnabod sydd mor debyg i’w gilydd o fewn teuluoedd: merch fel mam, ŵyr fel taid, a brawd fel brawd. Maen nhw’n debyg o’r crud.
Mae arnom angen mwy o ymdrech na hynny i fod yn debyg i’r Arglwydd Iesu Grist. Ond bod yn debyg iddo yw’r nod i bob un sy’n credu ynddo. Golyga hynny ddilyn ei esiampl ac ufuddhau i’w orchmynion. Golyga edrych yn fanwl ar Iesu, a cheisio meddwl a gweddïo a siarad ac ymddwyn yn union fel Iesu. Nid yw hynny’n hawdd gan ein bod ni yn naturiol mor wahanol iddo. Roedd holl fryd Iesu ar wneud ewyllys Duw; roedd yn ymddiried yn Nuw â’r cyfan oedd ynddo; ac roedd yn caru pobl hyd yr eithaf. Mae’n berffaith amlwg nad dyna sut rai ydym ni’n naturiol.
Ac eto, oherwydd gras Duw a dawn yr Ysbryd Glân, mae yna rywbeth ym mhob Cristion sy’n ei wneud o neu hi yn debyg i Grist. Trwy gael ei eni o’r newydd, mae wedi derbyn ‘anian newydd’, y duedd newydd i garu Duw a bod yn ffyddlon iddo. Nid rhywbeth y mae’r Cristion wedi ei gynhyrchu ydyw, ond rhywbeth a roddwyd yn rhodd gan Dduw. Ond nid yw’n golygu bod y Cristion yn union fel y Gwaredwr, ac yn sicr does dim peryg i neb gamgymryd y Cristion am Iesu Grist. Ond y nod yw efelychu Crist a’i ddilyn er mwyn dod yn fwy tebyg iddo bob dydd.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 21 Hydref, 2012