Gweddio bob munud

Nos Sul ddiwethaf, roedd rhaglen Songs of Praise yn trafod gweddi wrth ymateb i lofruddiaeth y ddwy blismones ifanc ym  Manceinion ychydig ddyddiau’n gynharach, a’r ffaith fod un o brif-swyddogion yr heddlu wedi cyfeirio at y cymorth a fu ei ffydd Gristnogol iddo yn wyneb y trychineb hwnnw.

Yn ystod y rhaglen, cafwyd cyfweliad â dwy leian a soniai am eu bywyd gweddi. Sonient am weddi fel peth yr oeddent yn ei wneud trwy’r dydd, ac ar unwaith dychmygem y merched hyn ar eu gliniau trwy’r dydd, bob dydd.  Ac a bod yn onest, mae’n anodd meddwl am y fath beth.  Ond yna fe soniodd y ddwy am bethau eraill a wnaent, yn cynnwys gwaith prifathrawes yn achos un ohonynt.  A daeth yn amlwg nad oedd ’gweddïo trwy’r dydd’ yn golygu eu bod yn gweddïo gweddïau ar eu gliniau trwy’r dydd o gwbl.  Sôn oedd y ddwy am ysbryd gweddigar yn hytrach na gweddïo geiriau.  Roedd yna adegau o ddefosiwn, pan fyddai’r lleianod yn gweddïo yn ffurfiol, un ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill.  Ond wrth sôn am ‘weddïo trwy’r dydd’, sôn a wnaent am wneud pob dim gan ddibynnu ar Dduw i’w harwain a’u nerthu i wneud eu gwaith er clod i Dduw.  Doedden nhw ddim yn llythrennol yn gweddïo bedair awr ar hugain bob dydd.  Yr hyn a olygent, mae’n debyg, oedd eu bod yn gwneud pob dim o ddydd i ddydd yn nerth Duw.

Faint ohonom ni, tybed, allai ddweud yr hyn a ddywedai’r lleianod?  Mae eu geiriau’n sicr yn her i ni.  Ydym ni’n gwneud pob dim yn weddigar?  Yng ngwaith yr eglwys, yn ein gwahanol swyddi bob dydd, yn y gymdogaeth, o fewn ein teuluoedd, yn ein perthynas â phobl eraill, ydym ni’n ymwybodol o’n hangen am nerth a chymorth Duw, ac yn pwyso arno yn y cyfan a wnawn?  Ydym ni’n gofyn i Dduw ein helpu? Ydym ni’n cyfaddef ein gwendid a’n hanallu?  Ydym ni’n cyflwyno pob dydd i’w ofal?  Ac yng nghanol ein prysurdeb, ydym ni rywsut yn pwyso ar Dduw (er na allwn ni fynegi hynny mewn geiriau fel y cyfryw) bob munud, bob awr? 

Ynteu, oes raid i ni gyfaddef ein bod yn aml yn gweithredu’n gwbl groes?  Ydi hi’n bosibl mai gweddi (boed eiriau gweddi neu ysbryd gweddi) yw’r peth pellaf o’n meddwl?  Rywsut, gall hynny fod, a ninnau’n byw heb unrhyw ymwybyddiaeth o’n hangen.  Mor rhwydd yw anghofio mai ar Dduw ei hun y mae pob dim yn dibynnu, ac na allwn ni wneud dim hebddo.  Ac os oes rhaid i ni gyfaddef bod hyn yn wir, waeth i ni heb â’n cystwyo ein hunain chwaith am ein diffygion mewn gweddi.  Gwell fyddai diolch fod ein Duw trugarog yn galw arnom o’r newydd i bwyso arno er gwaethaf (neu oherwydd) ein methiant mewn peth mor sylfaenol â gweddi hyd yn oed. 

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 30 Medi, 2012

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: