Manylion

Bu ond y dim i mi gael siwrnai seithug y p’nawn yma. Fyddwn i ddim wedi mynd yn bell – dim ond i Gaernarfon –  ond byddai wedi bod yn niwsans ac yn dipyn o embaras, mae’n debyg.  Mi ges i lythyr yn ystod yr wythnos i ddweud fy mod yn pregethu yng nghapel Salem am 4 o’r gloch, ac yn gofyn i mi anfon yr emynau erbyn nos Wener.  Y peth cynta wnes i oedd sbio yn y dyddiadur i wneud yn saff fy mod wedi addo mynd yno, a dyna lle’r oedd enw’r capel a 4.00 o’r gloch.  Fedrwn i ddim deall pam mod i wedi addo mynd yno rhwng yr oedfa yn Rehoboth am 2.00 o’r gloch ac oedfa MOLI yn Capel Coch am 5.00.  Ond dyna fo, addewid oedd addewid, a byddai rhaid mynd.  Doedd neb adra pan ffoniais i roi’r emynau nos Wener na bore Sadwrn. Cefais well hwyl arni neithiwr, a dyna pryd y sylweddolais mai pythefnos i heddiw yr ydw i fod i bregethu yn Salem!Roeddwn wedi darllen y llythyr, ac wedi sbio yn fy llyfr, ond rywsut wnes i ddim sylweddoli mod i’n sbio ar y Sul anghywir.  Mae’r manylion yn bwysig mewn pethau fel hyn, ac mae’n rhaid rhoi sylw iddyn nhw, neu mi wnawn ni bob math o gamgymeriadau. 

Ond weithiau, mae gormod o sylw i’r manion bethau’n gallu bod yn beryglus, a dyna’n sicr oedd un o’r pethau y byddai’r Arglwydd Iesu Grist yn ei bwysleisio o hyd.  Roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr wneud pethau’n gywir ac yn y ffordd orau posib, wrth gwrs.  Ond yr hyn y byddai’n ei feirinadu oedd pwysleisio’r manylion lleiaf a cholli golwg ar y pethau pwysicaf.  Soniai am yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn ‘talu degwm o fintys ac anis a chwmni, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio’r lleill’ (Mathew 23:23).  Ac mae ei eiriau yn dal yn rhybudd i ni heddiw, rhag i ninnau fethu â gwneud y pethau mwyaf wrth roi sylw i’r pethau lleiaf.

Rhoi’r pethau cyntaf yn gyntaf, dyna fyrdwn neges Iesu.  Nid rheolau na deddfau na gorchymynion o bob math sy’n bwysig, meddai ond bod yn gywir a dangos trugaredd a bod yn ffyddlon, ac mae a wnelo’r pethau hynny â’n perthynas ni â Duw yn ogystal â phobl eraill.  Dymuniad i fod yn ufudd a ffyddlon i Dduw, ac i garu Duw sydd i nodweddu ein bywyd, a hynny wedyn yn ein gwneud yn gyfiawn a thrugarog at eraill ac yn ffyddlon i’n gilydd.  Gall y pethau hyn, medd Iesu, fynd ar goll rywsut os ydym yn cychwyn efo’r rheolau, yn arbennig os byddwn ni, fel yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, yn creu pob math o reolau y mae’n rhaid i ni a phawb arall eu dilyn.  Yn y bywyd o ddilyn Iesu, mae’r egwyddor yn bwysicach na’r rheol.   

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 14 Hydref, 2012

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: