Dim ond un peth allai fod yn destun y golofn hon heddiw, a’r dŵr yw hwnnw. Beth bynnag oeddem wedi ei glywed am y glaw mawr yr oeddem i fod i’w gael ddydd Iau, doedd neb ohonom wedi dychmygu’r llifogydd a gafwyd yma yn Llanberis a’r difrod a gafwyd yng Nghlwt y Bont.
Yn sicr doedd neb wedi meddwl y byddai llifogydd mewn mwy nag un rhan o’r pentref yn uno i droi’r Stryd Fawr yn afon. Daeth y llifogydd o fwy nag un cyfeiriad ar ochr ucha’r Stryd Fawr, ac Afon Goch yn gorlifo’i glannau wedyn i greu un afon wyllt a lifai i’r ddau gyfeiriad ar hyd y Stryd Fawr ac i’r lonydd bychain yr ochr isaf iddi. Gwelsom lifogydd mewn rhannau o’r pentref fwy nag unwaith o’r blaen, gwaetha’r modd, ond hyd y gwn i does neb yn cofio dim byd tebyg i’r hyn a gafwyd ddydd Iau.
Diolch i ddechrau i bawb a wnaeth eu gorau glas i’n gwarchod yng nghanol yr argyfwng. Diolch i griw’r frigâd dân a phawb arall a fu’n brysur trwy’r pnawn a’r nos. Diolch i weithwyr y Cyngor a’r asiantaethau eraill a fu’n brysur yn glanhau’r strydoedd ers bore Gwener. Ac wrth gwrs, diolch i bawb a fu’n rhuthro yma ac acw yng nghanol y llif yn helpu hwn ac arall.
Cydymdeimlwn â phawb y daeth y dŵr i mewn i’w tai a’u siopau a’u heiddo. Gobeithio’n fawr y bydd modd iddyn nhw adfer eu cartrefi a’u busnesau mor fuan â phosibl. Dymunwn y gorau yn arbennig i’r teuluoedd sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi am fod y difrod mor ddrwg.
Roedd grym y llif mor gryf ar y Stryd Fawr hyd yn oed. Mae’n siŵr ei fod ddeg gwaith gwaeth i lawr y llethrau a’r gelltydd. Gobeithio bod pawb erbyn hyn yn dechrau dod dros y braw a’r sioc o weld a chlywed y dŵr yn rhuthro heibio’u cartrefi. Fe welsom luniau’r difrod a achoswyd gan lifogydd mewn rhannau eraill o Gymru a gwledydd Prydain yn ddiweddar, ond doedden ni ddim yn disgwyl y bydden ni yn yr un sefyllfa ein hunain. Cawsom ein hatgoffa eto nad ydym yn feistri ar ein hamgylchiadau. Wrth gydnabod hynny o’r newydd, diolchwn, er y niwed a wnaed, na laddwyd ac na anafwyd neb yn ein hardal yng nghanol y llifogydd.
Mor hawdd y gallasem fod wedi gweld pethau gwaeth fyth y dydd o’r blaen. Gallwn ddiolch hefyd nad effeithiwyd ar y cyflenwad trydan, nwy, dwr a charthffosiaeth ddydd Iau, gan ein bod yn gwybod am y difrod a achoswyd i’r gwasanaethau hynny mewn mannau eraill mewn amgylchiadau tebyg. Yng nghanol y trafferthion i gyd, diolchwn i Dduw am bob trugaredd.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 25 Tachwedd, 2012