Ciw hir

Tachwedd 23, 2012

Hen brofiad diflas ydi bod mewn ciw.   Er enghraifft, ar ôl gwthio’r troli o amgylch yr archfarchnad, does neb eisiau sefyll am chwarter awr mewn ciw wrth y ddesg dalu!  Ond mae’n debyg nad oedd neb yn poeni’n ormodol am y ciw ar Ffordd Stonelaw yn Rutherglen amser cinio ddoe.

Tref yn yr Alban yw Rutherglen, nid nepell o Glasgow.  Does gen i ddim cof i mi glywed am y lle o’r blaen.  Ond erbyn deall, rydym yn gyfarwydd iawn ag un o gyn-drigolion y dref hon, sef Stan Laurel (o’r ddeuawd gomedi enwog Laurel a Hardy). Mae’n debyg iddo gael peth o’i addysg yn Rutherglen.  A gallasai’r hyn a ddigwyddodd yn Rutherglen ddoe fod yn olygfa ddoniol yn un o ffilmiau’r ddau hyn, oni bai am y ffaith nad oedd peiriannau twll-yn-wal wedi eu dyfeisio yn oes y ffilmiau du a gwyn.

Yn ôl y llun a welais, roedd cymaint â deugain o bobl yn y ciw y tu allan i gangen Banc yr Alban ar Ffordd Stonelaw ddoe; a phawb ohonyn nhw’n aros eu tro i dynnu arian o’r peiriant twll-yn-wal.  Pam y fath giw?  Am fod y peiriant yn rhoi mwy o arian nag a ddylai!  Roedd y si wedi mynd ar led fod arian ychwanegol i’w gael, ac roedd y ciw’n mynd yn fwy a mwy!

Nid dyma’r tro cyntaf i’r fath beth ddigwydd wrth gwrs.  Mae’r peiriannau hyn yn torri o bryd i’w gilydd, a chamgymeriadau’n digwydd.  Ond mae’n rhyfedd fel mae sefyllfaoedd o’r fath yn dod â’r gwaethaf ynom i’r amlwg.  Roedd yn gyfle rhy dda i’w golli i lawer o bobl: cyfle am arian am ddim ar draul y Banc.  Beth bynnag oedd ym meddwl y bobl hyn, twyll a lladrad oedd cael arian o’r peiriant hwn gan wybod yn iawn y byddai’r peiriant yn rhoi mwy iddynt nag a fyddai’n cael ei ddangos ar y sgrin neu ar y dderbynneb. 

Wn i ddim beth fydd yn digwydd i’r bobl hyn.  Fyddan nhw’n cael cadw’r arian?  Neu fydd hi’n bosibl i’r Banc ei hawlio nôl oddi wrthynt.  Mae’n bosib y bydd cofnod yng nghrombil y peiriant o faint o arian a roddwyd i bob cwsmer.  Ond go brin er hynny y caiff neb ei gyhuddo o unrhyw drosedd gan nad oes, hyd y gwn i, gyfraith yn erbyn defnyddio’r peiriannau pres hyn.   

Tybed beth fyddem ni wedi ei wneud pe byddem yn Rutherglen ddoe?  O wybod y byddai’r peiriant yn rhoi mwy o arian nag a ddylai, fydden ni wedi ei ddefnyddio a phocedu’r arian, ynteu fydden ni wedi mynd i chwilio am beiriant arall a oedd yn gweithio’n iawn?  Yn aml, mewn pethau bach fel hyn y dangoswn rinweddau Cristnogol fel gonestrwydd a thegwch.  Ond yn aml hefyd, y pethau bach yw’r pethau anodd.   

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Tachwedd, 2012

 

Advertisements

Faint o fet?

Tachwedd 23, 2012

O’r diwedd, mae Eglwys Loegr wedi dewis olynydd i Rowan Williams erbyn mis Mawrth nesaf.  Cyhoeddwyd ddydd Gwener mai Justin Welby, Esgob presennol Durham, fydd Archesgob newydd Caergaint.  Mae Cristnogion o wahanol enwadau a thraddodiadau’n dymuno’n dda iddo wrth iddo baratoi ar gyfer y gwaith o arwain Eglwys Loegr a’r holl eglwysi eraill sy’n rhan o’r gymuned Anglicanaidd.

Bu cryn ddyfalu ynghylch y penodiad hwn ers wythnosau.  Ond mae’n rhaid cyfaddef fod un peth a welwyd yr wythnos ddiwethaf wedi codi gwên, sef y ffaith fod pobl yn betio pwy fyddai’r Archesgob newydd. 

Byddai rhai’n llawenhau o weld fod yr holl fater yn ddigon pwysig i gael sylw’r byd a bod gan bobl ddigon o ddiddordeb i wneud y peth yn destun betio.  Wedi dweud hynny, onid yw popeth dan haul yn destun betio heddiw?  Ac eto, fedra i ddim dychymygu y bydd yr un o’r cwmniau betio’n agor llyfr y tro nesa bydd Undeb yr Annibynwyr neu’r Eglwys Bresbyteraidd eisiau Llywydd newydd!  A dioch am hynny. 

Yn ôl y sôn, fe ddechreuodd mwy nag un o bersoniaid Eglwys Loegr fetio yr wythnos ddiwethaf gan agor cyfrifon gyda’r cwmniau betio.  A’r awgrym yw bod mwy nag un ohonynt wedi gwneud hynny a hwythau wedi clywed erbyn hynny pwy fyddai’r Archesgob newydd!  Mae’n anodd gwybod beth i’w feddwl o beth felly.  Ar un ystyr, gellid dadlau nad betio ydoedd o gwbl gan nad oedden nhw’n mentro dim os oedden nhw’n gwybod yn iawn beth oedd y canlyniad.  Ai enghraifft oedd hyn o fod yn gall trwy ddefnyddio gwybodaeth yn gyfreithlon, neu o gamddefnyddio’r wybodaeth honno er elw personol, gydag elfen hyd yn oed o dwyll ac anonestrwydd a hwythau’n eisoes yn gwybod pwy a benodwyd?

Erbyn neithiwr, roedd Justin Welby ei hun wedi awgrymu y dylai pawb a enillodd arian trwy fetio mai fo fyddai’r Archesgob newydd roi’r arian hwnnw i’r Eglwys.  Trwy wneud hynny, byddent o leiaf yn osgoi’r cyhuddiad o fod wedi elwa’n bersonol yn anonest.  Ac mae’n debyg y gallent ddadlau mai mater o fuddsoddi yn hytrach na hapchwarae oedd ‘rhoi eu harian ar yr Archesgob newydd’.

Ydi, mae’r holl stori’n codi gwên am ei bod mor wirion.  Ond gwên o dristwch a siom yw hi hefyd o feddwl y caiff dydd penodi’r Archesgob newydd ei gysylltu fwy â betio nag â gweddi ac arweiniad Duw ym meddwl llawer o bobl.  Ac mae hynny’n drueni gan fod â wnelo’r Brenin Mawr fwy â’r penodiad na’r un bwci bach.  

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 11 Tachwedd, 2012