Flynyddoedd yn ôl yn y ganrif ddiwethaf, (er, mae’n rhaid cyfaddef, o fewn cof llawer ohonom) byddai dau Syr yn dod i’r golwg adeg y Nadolig. Mae’r ddau gyda ni o hyd, ond ni fyddwn yn clywed fawr ddim am un ohonynt yr adeg hon o’r flwyddyn erbyn hyn. Syr Cas a Syr Preis yw’r ddau dan sylw.
Oedd, roedd syrcas (Billy Smart fel arfer) yn rhan bwysig o arlwy’r Nadolig ar y teledu ers talwm, ond mae wedi ei hen ddisodli gan ffilmiau ac operau sebon ac ati. Mae’n siwr bod yna rai sy’n dal i hiraethu am y dyddiau da pan oedd y clown yn teyrnasu ar bnawn Dolig.
Ond diolch am hynny mae’r Syr arall mor boblogaidd ag erioed, ac y mae llawer ohonom yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael y syrpreis yn yr hosan Dolig fore Mawrth. Mae plant yn hoff o syrpreis; a thybed nad yw’r anrheg syrpreis y bydd Sion Corn yn ei adael yn fwy o hwyl yn aml na’r pentwr o deganau y byddan nhw wedi gofyn iddo amdanynt? Ac mae llawer o oedolion yn hoffi anrhegion syrpreis hefyd.
Tybed faint ohonom fydd yn rhuthro o siop i siop cyn amser cau bnawn yfory yn chwilio am anrheg i hwn a’r llall? Pwy fydd ymhlith torfeydd yr ‘impulse buy’, yn prynu anrheg heb feddwl amdano ymlaen llaw? Pwy gaiff eu denu i brynu rhywbeth y digwyddan nhw ei weld ar silff y siop? Yn aml iawn, mae’r anrheg lawn cymaint o syrpreis i’r sawl sy’n ei roi ag ydyw i’r un a fydd yn ei dderbyn!
Gall rhodd werthfawr y Nadolig fod yn syrpreis i bobl. A gobeithio’n fawr y bydd hynny’n wir eleni wrth i lawer o bobl sydd wedi arfer â Stori’r Geni ddod i weld am y tro cyntaf bod a wnelo’r stori ryfeddol hon â hwy. Syrpreis braf yw sylweddoli bod plentyn bach Bethlehem wedi dod i’r byd er ein mwyn ni’n bersonol.
Ond os yw’r Iesu, rhodd fawr Duw i ni, a’r hyn a wnaeth drosom yn ei fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad, yn medru bod yn syrpreis i ni, nid yw’n syrpreis o gwbl i Dduw. Does dim o’r ‘impulse buy’ ynglyn â’r rhodd hon sydd gan Dduw ar ein cyfer. Nid penderfynu rhoi Iesu i ni ar y funud olaf a wnaeth Duw. Nid hyd yn oed ymateb i’n hangen am waredwr a wnaeth Duw o weld y llanast a wnaeth pobl o’r byd ac o’u bywydau eu hunain.
Na, roedd y rhodd hon wedi ei bwriadu erioed. Bu trefnu a pharatoi gofalus ar gyfer dyfodiad Iesu i’r byd. A dyma a ddathlwn y Nadolig hwn. Hen drefniant oedd dyfodiad Crist. Gwyddai Duw yn dda beth fyddai ei rodd fwyaf i ni. Roedd wedi addo’r rhodd honno. A diolchwn ninnau bod y rhodd yn gwbl addas ar ein cyfer. ‘Y mae in Waredwr, Iesu Grist, Fab Duw.’
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23 Rhagfyr, 2012