Mae’n digwydd bob blwyddyn. Mae gan y Nadolig duedd i wneud hyn. Un funud mae’n edrych mor bell i ffwrdd, a’r funud nesaf mae wrth y drws. Ac arwydd o hynny yw’r ffaith fod oedfa Nadolig Ysgol Sul Deiniolen yn cael ei chynnal heddiw. Edrychwn ymlaen at ddathlu’r Ŵyl gyda’r plant yn yr oedfa honno ac yn Llanberis y Sul nesaf .
A thra’r ydym ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig yng nghwmni’r plant ar yr aelwyd ac yn y capel a’r ysgol yr wythnos nesaf yma, mor wahanol fydd hi yn Newtown, Connecticut wedi’r gyflafan yno ddydd Gwener. Gwir y dywedodd yr Arlywydd Obama bod yr Unol Daleithiau ‘wedi bod trwy hyn ormod o weithiau o lawer’. Ac mae enwau fel Virginia Tech, Nickel Mines a Columbine yn cadarnhau hynny, yn union fel y bydd yr enw Dunblane yn ein hatgoffa am y lladdfa a gafwyd mewn ysgol yn Yr Alban yn 1996. Tristwch pethau yw bod diwylliant gynnau’r Unol Daleithiau yn golygu ei bod yn annhebygol y gwneir unrhyw beth o bwys i leihau’r defnydd o ynnau yn y wlad honno, er gwaetha’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod o’r blaen.
Gweddïwn heddiw dros y teuluoedd a ddioddefodd yn Newtown; dros rieni a theidiau a neiniau a brodyr a chwiorydd a gollodd anwyliaid mewn ffordd mor greulon ac anghyfiawn a disynnwyr. Gweddïwn dros gymuned yr ysgol a phawb yn y dref hon a hyrddiwyd i sylw’r byd mor annisgwyl. Gweddïwn dros eglwysi sy’n gwasanaethu ac yn ceisio dwyn cysur yng nghanol y galar a’r anobaith presennol. Gweddïwn dros frawd a theulu’r dyn ifanc oedd yn gyfrifol am y lladdfa. Gweddïwn dros yr Arlywydd a’i fwriad i ddod â phobl at ei gilydd ‘i weithredu’n ystyrlon er mwyn atal y fath drasiedïau eto, beth bynnag yr ystyriaethau gwleidyddol’.
Ac yma yng Nghymru, mor agos atom â Machynlleth, mae teulu arall yn wynebu’r Nadolig mewn galar mawr oherwydd drygioni a chreulondeb un dyn at blentyn bach. Gweddïwn eto dros deulu April Jones yn eu poen a’u hiraeth a’u dryswch.
Yr un elfen o stori’r Nadolig y carem ddweud ein bod wedi cefnu arni ddwy fil o flynyddoedd wedi digwyddiadau Bethlehem yw’r hyn a wnaeth Herod wrth iddo ladd y bechgyn bach hyd at ddwyflwydd oed y dref a’r cyffiniau. Ond ni allwn ddianc rhag llinach Herod, oherwydd yr un yw’r byd o hyd, a’r un yw drygioni dyn. Ond i ganol byd tywyll y daeth Iesu’n oleuni ac yn obaith; ac i fyd felly y mae eto’n cynnig bywyd a maddeuant a chymod â Duw. Boed i’r goleuni hwnnw lewyrchu o’r newydd heddiw; ac yn nhrugaredd Duw, boed Efengyl Crist yn gysur gwyrthiol.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 16 Rhagfyr, 2012