Be wnewch chi â rhwystrau ond ceisio eu symud? Dyna fu ein hanes ychydig dros wythnos yn ôl yng nghanol yr eira a ddaeth i’n rhwystro pobl rhag mynd i’r siop a’r gwaith a’r ysgol a’r capel a’r maes chwarae a llu o lefydd eraill. Bu llawer ohonoch yn brysur yn clirio’r eira oddi ar lwybr yr ardd neu oddi ar y lôn er mwyn gallu cerdded a gyrru’n ddiogel.
Mae’n ddigon posibl mai felly gwelai Eden Hazard bethau yn Abertawe nos Fercher diwethaf. Roedd yna rwystr yn ei ffordd yntau wrth iddo geisio cael y bêl yn ôl i’r cae chwarae ar Stadiwm Liberty. A cheisio symud y rhwystr a wnaeth Hazard, ond gwaetha’r modd, un o’r bechgyn ifanc a oedd yn gyfrifol am gasglu a dychwelyd y bêl i’r cae oedd y rhwystr. Ac wrth i hwnnw orwedd dros y bêl (mater arall, wrth gwrs, yw pam y dewisodd wneud hynny), ceisiodd Hazard gicio’r bêl oddi tano. Ie, pethau i’w symud yw rhwystrau.
Ac yn sicr, pethau i’w symud yw’r hyn sy’n ein rhwystro rhag dod at Dduw a bod mewn perthynas ag ef. Ond y gwaethaf yw bod y rhwystrau mor anodd eu symud. Maen nhw’n sicr yn fwy anodd eu symud nag eira neu fachgen ifanc 17 mlwydd oed sy’n benderfynol o beidio gollwng gafael ar bêl droed! Mae llawer o’r rhwystrau ynom ni ein hunain, gan mai ein methiant ni i garu Duw, a’n hanallu ni i gadw deddfau Duw sy’n ei gwneud yn amhosibl i ni blesio Duw a chael ein derbyn ganddo. Dyma’r rhwystrau sydd raid eu symud, ond nid yw symud yn rhwydd o gwbl. Nid yw ein holl ymdrechion i fyw’r bywyd glân a duwiol yn ein gwneud yn nes at deyrnas Dduw, gan mai perffeithrwydd y mae’r Brenin Mawr yn ei geisio gennym.
Ond cyhoeddwn o’r newydd heddiw fod y rhwystrau wedi eu symud, a bod ffordd glir, ddiogel i ninnau ei cherdded i mewn i bresenoldeb Duw. Nid ni a’u symudodd, wrth reswm. Gwaith Duw ei hun yw’r Efengyl, ac ef ei hun sydd wedi canfod ffordd i ddelio â’r pechodau a’r beiau sydd fel mur mawr cadarn yn ein rhwystro rhag dod yn agos at y Duw byw. Symudodd Iesu’r rhwystrau trwy godi’r holl bethau sydd yn ein hatal rhag dod at Dduw ar ei ysgwyddau ei hun, a chymryd y bai amdanynt.
Diolchwn ninnau, felly, am ymdrech a llafur mawr yr Iesu drosom. Nid gwaith hawdd oedd symud pob rhwystr oedd yn ein cadw ni draw oddi wrth y Duw byw. Ond trwy farw trosom ar Galfaria, dyna’n union a wnaeth ein Gwaredwr. Ie, eu symud yn llwyr, fel y gallwn ni adnabod a mwynhau cwmni Duw yn awr a hyd byth.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Ionawr, 2012