Balchder cenedl

Chwefror 25, 2013

Roedd y ddraig goch a’r cennin pedr yn amlwg yn Rhufain ddoe wrth i dîm rygbi Cymru guro’r Eidalwyr.  A byddant i’w gweld eto yn Llundain y pnawn ’ma pan fydd tîm pêl droed Abertawe yn ceisio ennill Cwpan y Gynghrair yn Wembley.  A bydd y ddraig a’r cennin pedr, ynghyd â’r genhinen a phob symbol arall o Gymreictod, yn amlwg ddydd Gwener, a hithau’n Ddydd Gŵyl Ddewi.  (Gyda llaw, gobeithio bydd sylwebwyr Cymraeg y teledu a’r radio, a chefnogwyr Abertawe, yn rhoi’r gorau  i sôn am y gêm hon heddiw fel ‘y tro cyntaf erioed i’r tîm gyrraedd rownd derfynol un o’r prif gwpanau’.  Ar bob cyfrif, dyweder mai dyma’r tro cyntaf i’r clwb gyrraedd rownd derfynol un o brif gystadlaethau Lloegr.  Ond ar drothwy Gŵyl Ddewi, dowch i ni gael digon o hunan barch i gofio bod clwb Abertawe wedi ennill Cwpan Cymru, prif gystadleuaeth cwpan ei wlad ei hun, ddengwaith, ac wedi bod yn y rownd derfynol ddeunaw gwaith i gyd.)

Mae Gŵyl Ddewi’n gyfle i ddathlu pob math o bethau mewn pob math o ffyrdd gan fod Cymreictod yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.  Cawl blasus, cymysgedd o ddiwylliant a chwaraeon a hanes a gwleidyddiaeth fydd ein dathliadau ddydd Gwener, a’r cyfan gobeithio’n cryfhau ein gwerthfawrogiad o’r genedl a’r iaith a gawsom yn rhagluniaeth Duw. 

Ond tra bydd enw Dewi ynghlwm wrth y dydd arbennig hwn, caiff y genedl ei hatgoffa o’r Ffydd Gristnogol a fu’n rhan mor amlwg o’i hanes am ganrifoedd lawer.  Beth bynnag y mae Dewi wedi dod i’w olygu i bobl erbyn hyn, mae’r gŵr ei hun yn dal i lefaru wrthym o bellafoedd y Chweched Ganrif am yr Efengyl a’r Gwaredwr a fu’n sylfaen i’w fywyd a’i waith.  Yr Arglwydd Iesu Grist oedd newyddion da Dewi i’w bobl.  Cyhoeddi’r Crist a wnâi ar ei deithiau trwy dde Cymru a gorllewin Lloegr, ac addoli Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist a wnâi’r gymdeithas fynachaidd a sefydlodd yn ardal Glyn Rhosyn, lle saif Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw.

Ychydig a wyddom am Dewi, a chwedlau yw llawer o’r storïau amdano.  Ond beth bynnag a wnawn ni o’r straeon am wyrthiau, fel honno am y ddaear yn codi dan ei draed wrth iddo bregethu un tro, yr un peth sy’n amlwg yw mai bywyd wedi ei gysegru i wasanaethu Duw oedd bywyd y gŵr hwn.  Ar Ŵyl Ddewi, fe gawn ein hannog unwaith eto i gredu’r Efengyl oesol hon, ac i ymgysegru o’r newydd i’r Duw a’n carodd ddigon nes iddo roi ei Fab i ni’n Waredwr.  Mae cylch y gwasanaeth yn wahanol ond ei natur yr un, a ninnau fel Dewi’n cael ein galw i garu ac addoli Duw yng Nghrist. 

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 24 Chwefror, 2013

Advertisements

Oscar Pistorius

Chwefror 25, 2013

Nid oes diwrnod heb i ni glywed am rywun yn rhywle’n cael ei ladd.  Boed ddamwain, salwch, rhyfel neu lofruddiaeth, mae’r cyfan mor gyfarwydd.  Ac eto, mae rhai achosion yn ein synnu, am iddynt ddigwydd o fewn cyrraedd i ni er enghraifft, neu fel y digwyddodd yr wythnos ddiwethaf am fod a wnelo rhywun enwog â hwy.  Chwe mis yn ôl, Oscar Pistorius oedd un o athletwyr mwyaf poblogaidd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.  Ond fore Iau, y stori fawr oedd bod y gŵr ifanc hwn wedi saethu ei gariad, Reeva Steenkamp, ganol nos am iddo wneud camgymeriad trasig a thybio bod rhywun wedi torri i mewn i’w dŷ.  O fewn ychydig oriau, fodd bynnag, daeth yn amlwg bod llawer mwy i’r stori na hynny, a chyhuddwyd Pistorius o lofruddio’i gariad.

Dros yr wythnosau nesaf, fe glywn lawer mwy am yr hyn a ddigwyddodd y noson o’r blaen ym Mhretoria, De Affrica.  Ond eisoes, fe’n hatgoffwyd nad yw llwyddiant ac enwogrwydd a chyfoeth yn diogelu neb rhag y drygioni a’r dioddefaint y gall y byd hwn ei ddwyn.  Fe’n hatgoffwyd hefyd am y cannoedd a’r miloedd o bobl anenwog sy’n cael eu lladd bob blwyddyn yn Ne Affrica a mannau eraill, a phob un ohonynt yn achos galar a loes i’w teuluoedd a’u cyfeillion. 

Beth bynnag a ddigwyddodd, fe’n hatgoffwyd o’r modd y gall pobl ein siomi.  Traed o glai sydd gan yr arwyr mwyaf a’r enwocaf o blant dynion.    Ac am fod cyfeillion hyd yn oed yn medru ein siomi, mae’n dda i ni gofio o’r newydd mai’r Arglwydd Iesu Grist yw’r cyfaill gorau na fydd fyth yn siomi’r sawl sy’n ymddiried ynddo.

Mae’r posteri enfawr o Oscar Pistorius eisoes yn cael eu tynnu i lawr.  Nid yw hynny’n golygu bod ei noddwyr o reidrwydd wedi cefnu arno; ond maent yn cydnabod nad yw’n briodol i’w lun fod ym mhobman ar hyn o bryd.  Ond cefnu wnaiff llawer, mae’n debyg, hyd yn oed pe digwyddai iddo gael ei ddyfarnu’n ddieuog.  Ond rhyfeddod yr Efengyl yw ei bod yn cyflwyno i ni Waredwr sy’n aros yn ffyddlon, ac yntau’n gwybod yn iawn am ein heuogrwydd ni.  Nid yw hwn yn cefnu arnom.  Yn hytrach, mae’n dadlau ein hachos, a hyd yn oed yn pledio drosom gan fynnu ein bod ni’n cael ein cyfrif yn ddieuog a’i fod yntau’n cael ei gyfrif yn euog yn ein lle.

Mae’r hyn a ddigwyddodd ym Mhretoria yn gwneud i ni gofio hefyd mor drist yw gweld pobl yn colli’r cyfan.  O’n cwmpas, mae yna bobl a gollodd, am wahanol resymau, enw da, cyfoeth, cyfeillion, rhyddid, hunan barch a llu o bethau eraill.  Gweddïwn dros bobl felly, pwy bynnag ydynt.

 Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Chwefror, 2013

 

 

 


Dewis a dethol

Chwefror 10, 2013

Mae tuedd ynom i ddewis a dethol.  O’m rhan i, beth bynnag, bydd yr wythnos hon yn enghraifft dda o hynny wrth i mi wneud y gorau o ddydd Mawrth ac anwybyddu dydd Mercher.  Y ffaith i mi gael fy magu yn y capel sy’n gyfrifol am hynny.  Petawn i wedi fy magu yn yr Eglwys Anglicanaidd, byddai pethau’n wahanol. 

Rwy’n bwriadu mwynhau dydd Mawrth am mai dydd Mawrth Crempog ydi o.  Rwyf wastad wedi mwynhau’r diwrnod hwn, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef na wnes i erioed ystyried bod unrhyw arwyddocâd crefyddol iddo.  Diwrnod i flasu crempogau ydi o i mi, a dim mwy na hynny.  Ac rwy’n cyfaddef hefyd nad wyf yn disgwyl i ddydd Mercher yr wythnos hon fod yn wahanol i’r un dydd Mercher arall.

Nid felly mae hi i Eglwyswyr, mae’n debyg., gan fod i Ddydd Mawrth Ynyd (neu Ddydd Mawrth Crempog) a Dydd Mercher Lludw arwyddocâd arbennig.  Dydd Mercher Lludw yw diwrnod cyntaf tymor y Grawys, sef y deugain diwrnod cyn y Pasg.  Mae Cristnogion sy’n cadw’r Grawys yn ymatal rhag bwyta rhai pethau arbennig, fel math o ympryd i’w helpu i baratoi ar gyfer dathlu Gŵyl y Pasg.  Seiliwyd yr arfer ar y ffaith fod Iesu wedi ymprydio a gweddïo am ddeugain diwrnod cyn cychwyn ei Weinidogaeth.

Erbyn hyn, mae’n bosibl mai dewis peidio bwyta pethau fel siocled neu gacennau y bydd pobl sy’n cadw’r Grawys.  Ond yn draddodiadol, roedd bwydydd yn cynnwys saim a menyn ac wyau yn waharddedig yn ystod y tymor hwn.  A dyna darddiad yr arfer o wneud crempogau ddiwrnod cyn dechrau’r Grawys, er mwyn defnyddio’r bwydydd na ellid eu bwyta yn ystod y tymor  Gyda llaw, daw ‘ynyd’ o air Lladin sy’n golygu ‘cychwyn’, a dydd Mawrth Ynyd felly’n ddiwrnod o baratoi ar gyfer dechrau’r Grawys.  Yn Saesneg, mae ‘Shrove Tuesday’ yn cyfeirio at yr hen arfer o fynd i’r Eglwys y diwrnod cyn dechrau’r Grawys i gyffesu pechodau (ystyr ‘shrive’ yw ‘gwrando cyffes’ neu ‘faddau’ i rywun).  Mae’n amlwg felly, bod mwy nag un elfen i’r dydd Mawrth hwn, sy’n ddydd o gyffesu beiau ac o wledda cyn ympryd y Grawys.

Dewis a dethol – bwyta’r crempogau ac ymwrthod â’r ympryd – fydd fy hanes eleni eto ar ddechrau tymor y Grawys.  Gallaf wneud hynny am nad yw cadw’r gwyliau yn un o hanfodion y bywyd Cristnogol.  Ond pan ddof at ddiwedd y Grawys ac at Ŵyl y Pasg, bydd yna bethau na allaf eu dewis a’u dethol.  Yn fwy arbennig, caf f’atgoffa na chaf fi na neb arall gredu bod Iesu wedi marw ar groes heb gredu hefyd iddo godi’n fyw o’r bedd.       

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 10 Chwefror, 2013

 

 


Siwrnai

Chwefror 5, 2013

Rywsut, rywbryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma mae’r byd ar un siwrnai fawr.  O leiaf, dyna’r argraff a gawn o glywed pobl yn cyfeirio at y ‘siwrnai’ ryfeddol y buon nhw arni wrth gymryd rhan, dyweder, mewn rhaglenni teledu o bob math.  ‘Siwrnai’ gyffrous, er enghraifft, ydi’r gwahanol gystadlith dawnsio a chanu i bawb sy’n cymryd rhan ynddynt.  Yn yr un modd, ‘siwrnai’ anturus yw’r llwyddiant a ddaw i ran timau chwaraeon. 

O glywed cymaint o bobl yn defnyddio’r gair i ddisgrifio gwahanol brofiadau, mae’n werth i Gristnogion eu hatgoffa eu hunain i hwn fod yn ddarlun cyfarwydd iawn erioed i bobl y Ffydd.  Oherwydd fel siwrnai (neu ‘bererindod’) y bu Cristnogion yn disgrifio’r bywyd Cristnogol er blynyddoedd meithion.

Mae i bob siwrnai ei chyfeiriad a’i throeon amrywiol, ac y mae iddi hefyd ei chychwyn a’i diwedd.  A dyna sy’n gwneud siwrnai a phererindod yn eiriau arbennig o addas i ddisgrifio’r bywyd Cristnogol. 

Mae’n rhaid i bob siwrnai gychwyn yn rhywle, a dechrau’r bererindod Gristnogol yw credu yn yr Arglwydd Iesu Grist.  Ac er na all pob Cristion ddweud pryd y daeth i gredu – a phryd,  felly, y dechreuodd y ‘siwrnai’ – dod i gredu a wnaeth.  Oherwydd ni chafodd yr un ohonom ei geni yn gredinwyr.  Dod i gredu rywbryd a wnaeth pob un o ddilynwyr Iesu, boed hynny yn ifanc iawn fel na all gofio adeg pan nad oedd yn credu, neu yn nes ymlaen yn ei fywyd, ac yntau wedyn yn gallu cofio’r union funud y daeth at Grist, y Gwaredwr.  Y naill ffordd neu’r llall, bu cychwyn i’r daith.

Ac mae disgrifio’r Cristion fel un o ‘ddilynwyr Iesu’ yn cyfleu i’r dim beth yw hanfod y siwrnai, sef bywyd o ddilyn yr Arglwydd a’r Arweinydd hwn.  Mae i’r bererindod gyfeiriad pendant, o fyw yn debyg i’r Iesu; ac y mae i’r daith ei throeon amrywiol, wrth i ni lwyddo weithiau a gwyro dro arall oddi ar y llwybr, dros ddyddiau a blynyddoedd ein hoes.  A thrwy’r cyfan, dyma’r siwrnai fwyaf melys a chyffrous sy’n bod.

Ac oes, y mae i’r siwrnai hon ei phen draw sicr.  Oherwydd nid crwydro’n ddiderfyn fydd ein hanes.  Y mae i’r siwrnai hon, sydd – er mor felys a chyffrous – ar adegau hefyd yn galed a phoenus, ei phen draw eithaf ymhell y tu hwnt i’r byd a’r bywyd hwn.  Y nefoedd, y bywyd tragwyddol a phresenoldeb a chwmni Duw ei hun yw pen draw’r daith.  Wedi’r crwydro, wedi’r siwrnai hir, fe ddaw’r daith i’w therfyn gorfoleddus a buddugoliaethus yn y byd tu hwnt i’r llen.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Chwefror, 2013