Cliciwch ar CIC (ochr dde’r dudalen hon) i weld lluniau o Grand Prix CIC
Mis: Mawrth 2013
Pam palmwydd?
Ie, pam palmwydd? Pam nad rhyw ddail arall a daenwyd ar lawr ac a chwifiwyd y Sul hwnnw yr aeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn?
‘Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau’r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr Arglwydd eich Duw am saith diwrnod’ (Lefiticus 23:40). Rhan o’r cyfarwyddiadau ar gyfer dathlu Gŵyl y Pebyll sydd yma, a’r ŵyl ei hun yn goffâd o’r ffordd yr oedd Duw wedi achub pobl Israel o’r Aifft, a hwythau wedi byw mewn pebyll yn yr anialwch. Ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl, roedd chwifio’r palmwydd yn ffordd o ddangos eu llawenydd wrth gofio’r hyn a wnaeth Duw drostynt.
Ac wrth i Iesu farchogaeth i Jerwsalem roedd yn naturiol i bobl oedd yn gyfarwydd â gwyliau mawr y genedl ddangos eu llawenydd hwythau trwy chwifio canghennau palmwydd. Wedi’r cwbl, byddai gwneud hynny’n eu hatgoffa hwy eu hunain a phawb arall o’r llawenydd mawr a deimlent wrth groesawu eu Brenin i’r ddinas. Ac mae’r ffaith eu bod yn gweiddi ‘Hosanna’ (sef ‘Achub, ’rŵan’) yn dangos eu bod hwythau’n ymwybodol o’r ffaith fod Duw am eu hachub trwy’r Iesu hwn sy’n dod i mewn i’r ddinas. Mater arall, wrth gwrs, oedd pa fath o achub oedd dan sylw ganddynt.
Nid yr achubiaeth wleidyddol a milwrol y meddyliai’r dorf amdani fyddai Iesu yn ei dwyn, ond achubiaeth ysbrydol rhag pechod a’i ganlyniadau. O fewn llai nag wythnos i gynnwrf mawr Sul y Blodau byddai llawer o’r bobl hyn wedi gweiddi ‘Croeshoelier ef’, a’r Iesu wedi ei groeshoelio. Ond neges glir y Beibl yw mai trwy’r farwolaeth honno y deliodd Iesu Grist â’n pechodau ni. Fe gymerodd Iesu’r cyfrifoldeb am ein pechodau, a dioddef marwolaeth fel cosb am y pechodau hynny. Ac am iddo ef wneud hynny, yr ydym ni wedi ein gwneud yn rhydd. Nid yw Duw’n ein dal ni’n gyfrifol am ein pechodau am fod Iesu wedi derbyn y cyfrifoldeb amdanynt. Yn lle hynny, mae Duw yn edrych arnom fel petaem heb bechu o gwbl. Mae’n delio â ni fel petaem ni’n bobl gyfiawn a pherffaith.
A thybed nad oes yna arwyddocâd pellach felly i’r palmwydd? Mae’r coed palmwydd tal, syth a hardd yn symbol o gyfiawnder pobl Dduw i’r Salmydd: ‘Y mae’r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd’ (Salm 92:12). Heb yn wybod iddi ei hun, o bosibl, wrth chwifio’r palmwydd a gweiddi ‘Hosanna’ roedd y dyrfa’n cydnabod mai’r gŵr a ddeuai ar gefn yr asyn oedd yr un a fyddai’n cynnig cyfiawnder Duw i bawb a fyddai’n ei wir groesawu trwy ei dderbyn yn frenin ac achubydd.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 24 Mawrth, 2013
Mor amlwg
Am unwaith, diolch am hysbysebion! Oherwydd, oni bai amdanynt, fyddwn i ddim wedi gweld diwedd darllediad y BBC o’r gêm rygbi fawr ddoe. Pan drodd S4C at yr hysbysebion ar ôl y gêm, mi drois innau at y BBC. A dyna beth oedd pictiwr. Ar y sgrin, o’r chwith i’r dde, dyna John Inverdale, Clive Woodward a Jeremy Guscott, â golwg ddwys, ddifrifol, ddigalon ar wyneb y tri; ond ar ben eithaf y llun, Jonathan Davies yn wên o glust i glust. Doedd dim rhaid i chi wybod unrhyw beth am rygbi na chyflwynwyr teledu i nabod y Cymro ymhlith y pedwar Sais. Roedd yn gwbl amlwg i bawb mai’r dyn ar y dde oedd ar ben ei ddigon ar ddiwedd y gêm arbennig hon. A pha ryfedd o gofio’r sgôr?
Does dim modd, a does dim disgwyl i Gristnogion fod â gwên barhaus ar eu hwynebau. Mae bywyd yn llawer rhy anodd a chaled i beth felly. Ond yng nghanol bywyd a’i amrywiol brofiadau gall fod yn amlwg pwy yw dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist. Nid oherwydd eu gwên lydan, ond oherwydd eu hymddygiad a’u hymateb i bob math o amgylchiadau. A gallwn adleisio’r hyn a ddywed yr Apostol Paul yn un o’r darnau mwyaf cyfarwydd o’i lythyrau er mwyn egluro hyn.
Fe ddylai ein ffydd ddangos i bawb mai dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist ydym. Pobl sy’n credu yn y Gwaredwr ac yn tystio iddo yw Cristnogion. Pobl sy’n ymddiried yn yr Iesu a’i waith ydynt, ac y mae eu parodrwydd i arddel Iesu yng ngŵydd cyfeillion a chymdogion a chydweithwyr yn ei gwneud yn amlwg mai dyna ydynt.
Fe ddylai ein gobaith hefyd ddangos pwy ydym. Yng nghanol pob math o anawsterau, mae’r Cristion yn aros yn obeithiol oherwydd ei sicrwydd fod Duw yn gymorth ac yn nerth. Yn wyneb angau, mae gobaith y Cristion am fywyd tragwyddol yn ei gynnal. Ac er pob gwendid, a phob ymdeimlad o’i fethiant a’i bechod, mae’n llawn gobaith y caiff faddeuant trwy Grist am y cyfan.
Ac fe ddylai ein cariad ddangos pwy ydym. Oherwydd mae cariad at Dduw, at gyd-gristnogion ac at eraill i fod i nodweddu bywyd y Cristion. O wybod bod Duw wedi ein caru nes iddo roi ei Fab Iesu drosom ar Galfaria, fe ddylem ninnau garu. Ac mae’r cariad hwnnw’n cael ei ddangos mewn awydd cryf i fyw yn ufudd i orchmynion Duw a gwneud popeth posibl er lles ein gilydd a’r bobl o’n cwmpas.
Nid mater o wyneb yw hi, ond yn hytrach brofi a gweithredu’r ffydd a’r gobaith a’r cariad sydd mor greiddiol i’r bywyd Cristnogol. Y tri hyn sy’n aros yn brawf amlwg o bwy ydym.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Mawrth, 2013
Golau
Rhyfedd fel mae rhywun yn dod i arfer â phethau. Bron na fyddem yn derbyn erbyn hyn fod y goleuadau traffig ar y ffordd o Lanberis i Ben Twnnel yno i aros. Maen nhw yno ers wythnosau lawer, ac mi fyddan nhw yno am sbel eto, mae’n debyg, nes i’r gwaith o drwsio’r waliau ddod i ben.
Am ryw reswm rhyfedd, mae’r goleuadau’n goch yn amlach na heb pan fyddaf fi’n dod atyn nhw (neu felly mae’n ymddangos beth bynnag). Felly, dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi eistedd mewn car llonydd wrth y goleuadau hyn am gryn amser. Ac oherwydd hynny, dyma geisio cael rhyw fudd o’r profiad trwy seilio rhyw fath o neges arno.
Beth, felly, sydd i’w ddweud am oleuadau traffig? Rwy’n ofni mai’r ymateb greddfol yw eu bod yn niwsans. Mae gorfod oedi wrth y goleuadau, weithiau ddwy neu dair gwaith, yn dipyn o niwsans ar ddechrau neu ar ddiwedd siwrnai. Ar un cyfnod yn ddiweddar roedd pump neu chwech set o oleuadau rhwng Llanberis a Wal y Faenol, a byddai angen dwywaith yr amser arferol i gyrraedd Bangor.
Ond niwsans neu beidio, mor bwysig yw cofio bod y goleuadau yno er diogelwch pawb ohonom; y gweithwyr sy’n trwsio’r waliau a ninnau sy’n teithio ar hyd y ffordd. Hebddynt, byddai wedi bod yn beryglus i’r gweithwyr gyda cheir yn gwibio heibio iddyn nhw, ac i’r ceir gyda cherrig a pheiriannau ar fin y ffordd.
Gallwn feddwl am orchmynion y Beibl fel goleuadau traffig er ein diogelwch ni. Mae’n bosibl eu hystyried nhw hefyd yn dipyn o niwsans ar brydiau, a’u gweld fel pethau sy’n ein rhwystro rhag gwneud y pethau yr ydym am ei wneud. Ond gorchmynion a roddwyd er ein lles ydyn nhw, ac o’u cadw bydd llawer o ddiogelwch i ninnau. Mae’r gorchmynion yn gwahardd llawer o bethau, wrth gwrs, ac yn dangos yr hyn sy’n groes i fwriad Duw ar ein cyfer. Dim ond meddwl am y Deg Gorchymyn sydd angen ei wneud i weld rhai o’r gwaharddiadau hynny. Maen nhw hefyd yn cynnwys pethau fel rhybudd Duw i ni beidio â dibynnu ar ein hymdrechion ein hunain i’w garu a’i wasanaethu.
Ond mae Gair Duw hefyd yn llawn o’r golau gwyrdd sy’n ein harwain i’r ffordd ddiogel a chywir. A rhan o’r golau gwyrdd hwnnw yw’r gwahoddiad i bwyso ar Iesu; yr anogaeth i ddilyn ei esiampl; yr addewid o faddeuant a bywyd i bawb sy’n credu ynddo; a’r sicrwydd y cawn gwmni’r Arglwydd Iesu yng nghanol pob math o anawsterau a stormydd a all ddod i’n hwynebu.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 10 Mawrth, 2013
Bert
Nos Sul, Mawrth 3, 2013 bu farw Mr Bert Parry, un o flaenoriaid Capel Coch. Cydymdeimlwn ag Anne, ei briod, a’i ferched, Gwawr a Delyth a’u teuluoedd. Mae colli Bert yn ergyd fawr i bawb ohonom yng Nghapel Coch. Diolchwn i Dduw amdano, ac am ei ffydd yn yr Arglwydd Iesu, ei gariad at waith yr Efengyl, ei wasanaeth i’r eglwys a’i gefnogaeth frwd i Gynllun Efe. Cynhelir ei wasanaeth angladd yn Capel Coch am 11.00 o’r gloch fore Sadwrn, Mawrth 9. Ceir teyrnged lawnach yn Gronyn ddydd Sul.
beibl.net
Doeddech chi na minnau ddim yma bedwar can mlynedd yn ôl. Wel, 425 o flynyddoedd, a bod yn fanwl gywir. Na, doedden ni ddim yma yn 1588, y flwyddyn y cyhoeddwyd y Beibl cyflawn yn Gymraeg am y tro cyntaf. Ond mae cenedlaethau o Gymry wedi clywed am waith mawr yr Esgob William Morgan yn cyfieithu’r Ysgrythurau. Ac ysgrifennwyd cyfrolau am ddylanwad y cyfieithiad hwnnw ar ein hiaith, a’r modd y bu’r Beibl yn gyfrwng i ddiogelu, os nad i achub, y Gymraeg. Ond ynghyd ag achub iaith – ac yn bwysicach na hynny hyd yn oed – bu’r Beibl yn gyfrwng i ddod â miloedd lawer o Gymry i ffydd yn Iesu Grist. A dyna oedd bwriad William Morgan, wrth gwrs; galluogi’r Cymry i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain, er mwyn iddynt ddod at Grist. Am flynyddoedd wedi ei gyhoeddi, dim ond yn yr eglwysi yr oedd Beibl William Morgan i’w gael, am y rheswm syml ei fod yn llyfr mor fawr a chostus. Yn 1620, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o Feibl William Morgan, a wnaed yn bennaf gan ŵr o’r enw John Davies. Ond bu raid disgwyl am ddeng mlynedd arall, a chyhoeddi’r Beibl Bach yn 1630, cyn bod pobl gyffredin yn medru prynu Beibl a’i ddarllen eu hunain. A bu darllen mawr ar yr ‘hen Feibl’ byth ers hynny.
Roedden ni’r oedolion yma pan gyhoeddwyd cyfieithiad newydd o’r Beibl, Y Beibl Cymraeg Newydd, yn 1988. Ac roedd hwnnw ar gael ar unwaith i bwy bynnag oedd am ei brynu. Ydych chi’n cofio archebu ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod gennych gopi ar ddydd y cyhoeddi? Gallem ddewis Beibl clawr caled gyda siaced lwch goch a gwyrdd, neu Feibl clawr meddal oren a llun castell ar y clawr. Ers hynny, cawsom fersiwn diwygiedig o hwn hefyd, Y Beibl Cymraeg Diwygiedig, yn 2004 – yr un clawr coch tywyll (os nad oes gennych gopi lledr du). Mae hwn yn well cyfieithiad o lawer nag un 1988.
Ond bellach, gall pawb ohonom (ar wahân i fabis bach a aned ers ddoe!) ddweud bod cyfieithiad Cymraeg newydd o’r Beibl wedi ei gyhoeddi yn ein hoes ni. Oherwydd, echdoe, Dydd Gŵyl Ddewi, gosodwyd gweddill llyfrau’r Beibl ar wefan beibl.net. Dyma gyfieithiad Cymraeg mewn iaith syml, hawdd ei darllen a’i deall. Nid yw hwn yn rhy ddrud i neb! Ac nid oed rhaid ei archebu na thalu’r un geiniog amdano. Mae ar gael, ar gyfer yr oes newydd dechnolegol hon, ar y we, a gall pobl ei ddarllen hyd yn oed ar eu ffonau symudol. Mae’r iaith yn wahanol; mae’r dull cyhoeddi’n wahanol. Ond yr un yw’r Beibl ei hun ag ydoedd yn 1588. A’r un yw’r nod wrth ei gyhoeddi: galluogi pobl i glywed newydd da’r Beibl yn eu hiaith eu hunain, ac achub eneidiau i Grist.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Mawrth, 2013