Pam palmwydd?

Mawrth 27, 2013

Ie, pam palmwydd?  Pam nad rhyw ddail arall a daenwyd ar lawr ac a chwifiwyd y Sul hwnnw yr aeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn? 

‘Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau’r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr Arglwydd eich Duw am saith diwrnod’ (Lefiticus 23:40).  Rhan o’r cyfarwyddiadau ar gyfer dathlu Gŵyl y Pebyll sydd yma, a’r ŵyl ei hun yn goffâd o’r ffordd yr oedd Duw wedi achub pobl Israel o’r Aifft, a hwythau wedi byw mewn pebyll yn yr anialwch.  Ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl, roedd chwifio’r palmwydd yn ffordd o ddangos eu llawenydd wrth gofio’r hyn a wnaeth Duw drostynt.

Ac wrth i Iesu farchogaeth i Jerwsalem roedd yn naturiol i bobl oedd yn gyfarwydd â gwyliau mawr y genedl ddangos eu llawenydd hwythau trwy chwifio canghennau palmwydd.  Wedi’r cwbl, byddai gwneud hynny’n  eu hatgoffa hwy eu hunain a phawb arall o’r llawenydd mawr a deimlent wrth groesawu eu Brenin i’r ddinas.  Ac mae’r ffaith eu bod yn gweiddi ‘Hosanna’ (sef ‘Achub, ’rŵan’) yn dangos eu bod hwythau’n ymwybodol o’r ffaith fod Duw am eu hachub trwy’r Iesu hwn sy’n dod i mewn i’r ddinas.  Mater arall, wrth gwrs, oedd pa fath o achub oedd dan sylw ganddynt.

 Nid yr achubiaeth wleidyddol a milwrol y meddyliai’r dorf amdani fyddai Iesu yn ei dwyn, ond achubiaeth ysbrydol rhag pechod a’i ganlyniadau.  O fewn llai nag wythnos i gynnwrf mawr Sul y Blodau byddai llawer o’r bobl hyn wedi gweiddi ‘Croeshoelier ef’, a’r Iesu wedi ei groeshoelio.  Ond neges glir y Beibl yw mai trwy’r farwolaeth honno y deliodd Iesu Grist â’n pechodau ni.  Fe gymerodd Iesu’r cyfrifoldeb am ein pechodau, a dioddef marwolaeth fel cosb am y pechodau hynny.  Ac am iddo ef wneud hynny, yr ydym ni wedi ein gwneud yn rhydd.  Nid yw Duw’n ein dal ni’n gyfrifol am ein pechodau am fod Iesu wedi derbyn y cyfrifoldeb amdanynt.  Yn lle hynny, mae Duw yn edrych arnom fel petaem heb bechu o gwbl. Mae’n delio â ni fel petaem ni’n bobl gyfiawn a pherffaith.

A thybed nad oes yna arwyddocâd pellach felly i’r palmwydd?  Mae’r coed palmwydd tal, syth a hardd yn symbol o gyfiawnder pobl Dduw i’r Salmydd: ‘Y mae’r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd’ (Salm 92:12).  Heb yn wybod iddi ei hun, o bosibl,  wrth chwifio’r palmwydd a gweiddi ‘Hosanna’ roedd y dyrfa’n cydnabod mai’r gŵr a ddeuai ar gefn yr asyn oedd yr un a fyddai’n cynnig cyfiawnder Duw i bawb a fyddai’n ei wir groesawu trwy ei dderbyn yn frenin ac achubydd.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 24 Mawrth, 2013


Mor amlwg

Mawrth 27, 2013

Am unwaith, diolch am hysbysebion!  Oherwydd, oni bai amdanynt, fyddwn i ddim wedi gweld diwedd darllediad y BBC o’r gêm rygbi fawr ddoe.  Pan drodd S4C at yr hysbysebion ar ôl y gêm, mi drois innau at y BBC.  A dyna beth oedd pictiwr.  Ar y sgrin, o’r chwith i’r dde, dyna John Inverdale, Clive Woodward a Jeremy Guscott, â golwg ddwys, ddifrifol, ddigalon ar wyneb y tri; ond ar ben eithaf y llun, Jonathan Davies yn wên o glust i glust.  Doedd dim rhaid i chi wybod unrhyw beth am rygbi na chyflwynwyr teledu i nabod y Cymro ymhlith y pedwar Sais.  Roedd yn gwbl amlwg i bawb mai’r dyn ar y dde oedd ar ben ei ddigon ar ddiwedd y gêm arbennig hon.  A pha ryfedd o gofio’r sgôr?

Does dim modd, a does dim disgwyl i Gristnogion fod â gwên barhaus ar eu hwynebau.  Mae bywyd yn llawer rhy anodd a chaled i beth felly.  Ond yng nghanol bywyd a’i amrywiol brofiadau gall fod yn amlwg pwy yw dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist.  Nid oherwydd eu gwên lydan, ond oherwydd eu hymddygiad a’u hymateb i bob math o amgylchiadau.  A gallwn adleisio’r hyn a ddywed yr Apostol Paul yn un o’r darnau mwyaf cyfarwydd o’i lythyrau er mwyn egluro hyn.

Fe ddylai ein ffydd ddangos i bawb mai dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist ydym.  Pobl sy’n credu yn y Gwaredwr ac yn tystio iddo yw Cristnogion.  Pobl sy’n ymddiried yn yr Iesu a’i waith ydynt, ac y mae eu parodrwydd i arddel Iesu yng ngŵydd cyfeillion a chymdogion a chydweithwyr yn ei gwneud yn amlwg mai dyna ydynt.

Fe ddylai ein gobaith hefyd ddangos pwy ydym.  Yng nghanol pob math o anawsterau, mae’r Cristion yn aros yn obeithiol oherwydd ei sicrwydd fod Duw yn gymorth ac yn nerth. Yn wyneb angau, mae gobaith y Cristion am fywyd tragwyddol yn ei gynnal.   Ac er pob gwendid, a phob ymdeimlad o’i fethiant a’i bechod, mae’n llawn gobaith y caiff faddeuant trwy Grist am y cyfan.

Ac fe ddylai ein cariad ddangos pwy ydym.  Oherwydd mae cariad at Dduw, at gyd-gristnogion ac at eraill i fod i nodweddu bywyd y Cristion.  O wybod bod Duw wedi ein caru nes iddo roi ei Fab Iesu drosom ar Galfaria, fe ddylem ninnau garu.  Ac mae’r cariad hwnnw’n cael ei ddangos mewn awydd cryf i fyw yn ufudd i orchmynion Duw a gwneud popeth posibl er lles ein gilydd a’r bobl o’n cwmpas.

Nid mater o wyneb yw hi, ond yn hytrach brofi a gweithredu’r ffydd a’r gobaith a’r cariad sydd mor greiddiol i’r bywyd Cristnogol.  Y tri hyn sy’n aros yn brawf amlwg o bwy ydym.

 Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Mawrth, 2013