Ddim yno!

Hen brofiad chwithig yw cael pobl yn methu cadw oed.  Roeddech wedi aros yn y tŷ trwy’r dydd i ddisgwyl y gweithiwr neu’r cwmni a oedd wedi addo dod yno, a ddaeth neb o gwbl.  Neu roeddech wedi trefnu i weld ffrind yn y dre’ am 10.00 o’r gloch, a doedd dim sôn amdano fo neu hi awr yn ddiweddarach.  Wedi’r holl drefnu ac wedi i chi fynd i’r holl drafferth, y fath siom a fu pan na chyrhaeddodd y person arall. Lle’r oedd hi?  Beth oedd wedi ei rwystro fo?  Ar adegau felly, mae’r siom yn gymysg â dicter; a dryswch yn gymysg â thristwch wrth i ni geisio dyfalu pam na chadwyd yr addewid a’r trefniant.

Doedd Iesu ddim yno pan aeth y gwragedd at y bedd i chwilio amdano fore’r Pasg.  Ond doedd hynny ddim yn golygu ei fod wedi methu cadw oed.  Wedi’r cwbl, doedd o ddim wedi dweud y byddai yno.  Mewn gwirionedd, roedd wedi dweud yn ddigon clir na fyddai yno.  Roedd wedi dweud y byddai’n marw ond y byddai’n dod yn ôl yn fyw ymhen tridiau.  Ond doedd y disgyblion ddim wedi dal gafael yn y geiriau hynny. 

Felly, fore’r Pasg, fe gymeron nhw’n ganiataol mai yn y bedd y byddai Iesu o hyd.  Ac nid nhw yn unig chwaith.  Roedd disgyblion Iesu o’r un farn yn union.  A bod yn deg â’r gwragedd a’r disgyblion, byddai’n ddigon naturiol iddyn nhw feddwl felly – pe na fyddai Iesu wedi dweud yn wahanol.  Ond am ei fod wedi dweud yn eglur iawn am ei atgyfodiad, fe ddylasen nhw wybod yn well.     

Ac felly, am nad oedden nhw wedi dal gafael yng ngeiriau Iesu, fe aethon nhw at y bedd.  Ond doedd Iesu ddim yno.  Roedden nhw mewn dryswch, yn drist, yn ofnus, ac yn amau bod rhyw ddrwg yn y caws.  Roedden nhw’n argyhoeddedig mai yno y byddai, ond roedden nhw’n anghywir gan fod Iesu wedi atgyfodi, yn union fel y dywedodd.

A’r camgymeriad mwyaf y gallwn ninnau ei wneud yw credu mai person o’r gorffennol pell, sydd erbyn hyn yn farw, yw Iesu Grist.  Do, fe droediodd y ddaear ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.  Do, bu farw ar groes.  A Do, fe’i claddwyd yn y bedd hwnnw yr aeth y gwragedd ato dridiau’n ddiweddarach.  Ond daeth o’r bedd; daeth yn fyw drachefn.  Ac mae’n dal yn fyw!  Dyna yw neges fawr y Pasg.  Mae Iesu, ein Harglwydd a’n Gwaredwr, yn fyw, a ninnau’n cael ei adnabod, ei ddilyn, ei garu a’i addoli.  Rhyfeddod mawr ei atgyfodiad oedd llawenydd ac ymffrost a gobaith ei ddilynwyr yn nyddiau cynnar yr Eglwys, a byth ers hynny hefyd.  A dyma, gobeithio, ein llawenydd ninnau o’r newydd ar Ŵyl y Pasg.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 31 Mawrth, 2013

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: