Hen, hen stori

Dair blynedd ar ddeg yn ôl daeth Cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr  i Gaernarfon, a gofynnwyd i mi baratoi’r Llawlyfr a oedd yn rhoi rhywfaint o hanes eglwysi Annibynnol Arfon a oedd yn croesawu’r Undeb.  Yr haf hwn daw cyfle i groesawu’r Undeb eto, ond bod holl eglwysi Cyfundeb Gogledd Arfon yn gwneud hynny’r tro hwn.  Rwyf wedi bod ynglŷn â pharatoi’r Llawlyfr eleni eto.

Ond ni fu’n waith rhwydd.  Mae bron i ddeugain o eglwysi yn y Cyfundeb, ac ni allwn ond dweud rhywbeth bach am gyflwr yr eglwysi heddiw.  Y tristwch mawr yw bod cyn lleied i’w ddweud am gynifer ohonynt.  Ac mae’r ychydig sydd i’w ddweud am amryw ohonynt mor debyg ac mor eithriadol o drist.  Bron na fedrwn ni arbed amser trwy ailadrodd yr un geiriau am gynifer o’r eglwysi gan fod llawer ohonynt yn eglwysi bychain gyda llond dwrn o aelodau’n gwneud eu gorau i gynnal oedfa neu ddwy’r mis gan ofni nad oes dim o’u blaenau ond cau’r drws yn derfynol cyn hir.  Gwelwyd cryn newid hyd yn oed ers i’r Undeb gael ei gynnal yma ddiwethaf.

Oes modd bod yn obeithiol yn wyneb y dirywiad amlwg heddiw? Nac oes, os mynnwn bwyso ar ein gallu ein hunain i wneud unrhyw beth i newid y sefyllfa hon.  Ond oes yn sicr os edrychwn ar Dduw a cheisio ei gymorth.

Hen, hen lyfr yw Drws y Society Profiad.  Pantycelyn yr emynydd mawr a’i sgwennodd.  Ac er mwyn cynnig gobaith heddiw rwy’n bwriadu tynnu sylw yn y Llawlyfr at rywbeth a ddywedir yn gynnar yn y llyfr hwnnw.  Mae Pantycelyn yn darlunio eglwysi sydd ‘bron a digalonni dyfod at ein gilydd byth mwy’ ac yn ofni’r gwaethaf.  Roedd pethau mor ddrwg nes, ‘darfu i ni resolfo rhoi i fyny ein cyfarfod neillduol’.  Darlun o eglwys ar ddarfod amdani yw hwn; eglwys yn penderfynu cynnal yr oedfa olaf un.  Ond yna meddir, ‘Yng nghanol ein cyfyngder, ar fin anobaith, pan oedd pob gobaith o lwyddiant wedi ei gau i fyny, daeth Duw ei Hunan i mewn i’r canol, a gwawriodd golau dydd arnom o’r uchelder’.

Ceisiwch edrych heibio i’r iaith hynafol er mwyn sylweddoli bod Pantycelyn yn darlunio beth all ddigwydd, a beth a welodd ef yn y ddeunawfed ganrif.  Y peth mawr i’w gofio yw mai’r un yw Duw, ac nad oes dim i’w rwystro rhag adfywio’i waith yn ein cyfnod ninnau.  Nid rhywbeth sy’n perthyn i’n gorffennol yn unig yw gallu Duw i drugarhau.  Gall yr Arglwydd fywhau ei waith heddiw os myn.  Galwn arno i wneud hynny.  Mae wedi bod yn anodd, yn dlawd ac yn anobeithiol cyn hyn; ond mae Duw wedi gweithredu mewn grym.  Gall wneud hynny eto.      

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 21 Ebrill, 2013

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: