Fe rown ni lai o sylw o lawer i’r Sulgwyn nag i’r Nadolig a’r Pasg. Mae mwy nag un rheswm am hynny. Mae i’r ddwy ŵyl arall stori fwy cyfarwydd am eu bod yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd i Iesu Grist. Mae geni a marw yn sicr yn nes at brofiad pobl nag yw’r hyn a ddisgrifir yn Actau 2 am ddyfodiad yr Ysbryd Glân mewn nerth ar y disgyblion.
Chewch chi mo’r enw ‘Sulgwyn’ yn y Beibl gan mai wrth yr enw ‘Pentecost’ y cyfeirir at yr ŵyl yno. A phan soniwn ni am y Pentecost, cyfeirio ydym at dywalltiad yr Ysbryd ar y disgyblion. Ond roedd y Pentecost yn hen ŵyl a ddethlid bob blwyddyn gan yr Iddewon. Dweud mae’r Beibl mai ar y Pentecost y digwyddodd yr hyn a ddarllenwn amdano yn Actau 2. Ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen, mae Gŵyl y Pentecost i’r Cristion yn cyfeirio’n uniongyrchol at y digwyddiad nerthol hwn. Digwyddodd yr un peth yn union gyda’r Pasg wrth gwrs. Cofio’r waredigaeth o’r Aifft a wnâi’r Iddewon ar yr ŵyl honno. Ond wedi i Iesu gael ei groeshoelio ac atgyfodi ar y Pasg, cofio’r digwyddiadau hynny a wna’r Eglwys Gristnogol ar yr ŵyl hon bob blwyddyn.
Ond er bod i’r Pentecost (fel y Pasg felly) arwyddocâd newydd i’r Cristion, ni ddylem anwybyddu’r hen ŵyl yn llwyr. Mae gan honno rywbeth i’w ddweud wrthym hefyd oherwydd nid cyd-ddigwyddiad oedd i’r Ysbryd gael ei anfon ar yr ŵyl honno. Ystyr y gair Pentecost yw pum deg, a defnyddid yr enw ar yr hen ŵyl am fod honno’n cael ei chynnal 50 niwrnod wedi’r Pasg. (Dau enw arall arni oedd ‘Gŵyl y Cynhaeaf’ a ‘Gŵyl yr Wythnosau’, i gan mai gŵyl i ddathlu diwedd y cynhaeaf grawn oedd hi, a’i bod yn cael ei chynnal saith wythnos wedi’r Pasg.
Roedd yn addas iawn mai ar un o hen wyliau’r cynhaeaf y cafwyd cynhaeaf ysbrydol o 3,000 o bobl ar y dydd y tywalltwyd yr Ysbryd ar y disgyblion. Do, daeth cymaint â hynny o bobl i gredu yng Nghrist a dod yn rhan o’r Eglwys Gristnogol ar ddydd y Pentecost.
Mae’n debyg hefyd bod yr Iddewon erbyn dyddiau Iesu Grist yn cysylltu’r Pentecost â chofio Duw’n rhoi’r Ddeddf ar Fynydd Sinai, gan y credid bod y Deg Gorchymyn wedi ei roi 50 diwrnod wedi’r Ecsodus o’r Aifft. Os felly, mae’n bosibl y byddai eto’n addas mai ar yr ŵyl hon y tywalltodd Duw ei Ysbryd ar y disgyblion. Oherwydd fe all yr ŵyl bellach ein hatgoffa mai un o’r pethau y mae Duw yn ei wneud trwy ei Ysbryd Glân yw rhoi ei Gyfraith yng nghalonnau ac ym meddyliau ei bobl. Dathlwn yr ŵyl felly yn llawen ac yn ddisgwylgar.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 19 Mai, 2013 – Y Sulgwyn