Y Gohebydd

Mae ’na gymeriadau ffraeth i’w cael on’d does?  Mi fues i ym Mangor yng nghyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr ddiwedd yr wythnos.  Dros baned wedi’r oedfa echnos mi ofynnais i ffrind i mi sgwennu pwt o erthygl i mi am yr Undeb ar gyfer Y Pedair Tudalen yn y papurau enwadol.  Braidd yn anfodlon oedd o am nad oedd o erioed wedi sgwennu erthygl o’r blaen, ond mi lwyddais i’w berswadio a chael addewid ganddo y byddai’n gwneud y gwaith.  Yna, fore ddoe daeth ataf i chwilio am ‘y bathodyn’ ac i holi lle dylem ni ddynion y wasg eistedd!  Roedd o eisoes, medda fo, yn ei weld ei hun yn dipyn o Gwilym Owen.

Ia, dyna beth yw ffraethineb.  Roedd o’n gwybod yn iawn nad yw un erthygl yn gwneud neb yn ohebydd (yn enwedig ac yntau heb hyd yn oed ddechrau sgwennu’r erthygl honno).  Mewn gwirionedd, dyw llond papur newydd o erthyglau ddim o reidrwydd yn gwneud neb yn ohebydd.  Oherwydd mae mwy i fod yn ohebydd na sgwennu ambell erthygl.  Mae angen trwyn am stori; mae angen crebwyll i weld beth sy’n bwysig ynddi; mae angen gafael ar iaith a dawn i sgwennu’r stori’n ddiddorol.  Byddai rhai’n dadlau bod rhywun yn ohebydd wrth reddf; ond beth bynnag am hynny, mae angen hyfforddiant ac  ymarfer a diogon o brofiad cyn bod rhywun yn dod yn ohebydd go iawn. 

Ac nid yw gwneud ambell beth y mae Cristnogion yn ei wneud yn golygu bod rhywun yn Gristion chwaith.  Gallwn wneud daioni neu weddio neu ddarllen y Beibl neu hyd yn oed sôn am Iesu Grist, ond nid yw gwneud y pethau hynny o reidrwydd yn gwneud Cristnogion ohonom (ddim mwy nag yw sgwennu hanner dwsin o erthyglau yn gwneud gohebydd ohonom).  Ond dyna’r camgymeriad y mae llawer yn ei wneud wrth feddwl mai trwy wneud y pethau hyn yr ydym yn Gristnogion. 

Ydi, mae’r Cristion yn gwneud y pethau hyn.  Ond mae’n gwneud y pethau hyn am ei fod yn Gristion, yn hytrach na’i fod yn Gristion am ei fod yn eu gwneud.  Ac mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn cofio hynny.  Oherwydd nid yw’r bywyd Cristnogol yn cychwyn efo’r pethau da a wnawn ni.  Mae’n cychwyn efo’r berthynas sydd gennym â’r Arglwydd Iesu Grist.  Adnabod Iesu Grist fel Cyfaill a Gwaredwr ac Arglwydd sy’n dod gyntaf, a hynny wedyn yn esgor ar y gwahanol bethau a wnawn yn y bywyd Cristnogol.  Ffydd yng Nghrist sy’n dod gyntaf, ac yna gweithredoedd.

Ffolineb fyddai i’m ffrind ei alw’i hun yn ohebydd am ei fod yn bwriadu sgwennu un erthygl.  Ffolineb hefyd fyddai meddwl ein bod yn Gristnogion am ein bod yn gwneud rhai pethau y mae Cristnogion yn eu gwneud.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23 Mehefin, 2013

 

Y Cynulliad a’r Capel

Ddoe ddiwetha, darllenais ddwy erthygl mewn dau gylchgrawn: y naill am Gynulliad Sul yn Llundain a’r llall am Gapel Gras sy’n cael ei sefydlu yn Ninbych.  Petawn i’n deud wrthych mai Jones ac Evans a Cunningham yw enwau arweinyddion y naill a’r llall, byddech yn siwr o feddwl bod Jones ac Evans ynglyn â’r gwaith yn nhref Dinbych.  Ond fel arall y mae hi.  Sanderson Jones a Pippa Evans sy’n arwain y Cynulliad Sul a Dafydd Cunningham sy’n arwain y Capel Gras.

 Mae yna bethau sy’n gyffredin i’r Cynulliad a’r Capel.  Gwaith newydd yw’r ddau: dechreuwyd y Cynulliad fis Ionawr eleni ac mae’r Capel wedi ei gynnal unwaith y mis ers y Pasg gyda’r bwriad o gyfarfod yn wythnosol o dymor yr hydref ymlaen.  Mwyaf rhyfedd, o gofio’r enw Capel Gras, mewn neuaddau yn hytrach na chapel neu eglwys y mae’r ddau’n cael eu cynnal.  Ac mae arweinyddion y naill a’r llall yn dweud eu bod yn darparu ar gyfer pobl sydd ddim yn mynd i eglwys. 

Ond os oes tebygrwydd rhwng y ddau, mae’r gwahaniaethau’n fwy o lawer.  Sefydlwyd y Cynulliad Sul gan anffyddwyr er mwyn cynnig cymdeithas debyg i’r hyn a geir mewn eglwys i anghredinwyr.  Mae’r gynulleidfa’n canu, gwrando ar straeon a geiriau doeth o gyngor, a chael cyfle i fyfyrio’n dawel.  Ond does dim emynau na gweddiau na Beibl nac unrhyw sôn am Dduw.  Arwyddair y Cynulliad yw ‘Byw’n well, helpu’n aml, rhyfeddu mwy’.  Mae’n cynnig rhai elfennau o fywyd eglwys, fel y syniad o gymdeithas gynnes a phobl yn dysgu gyda’i gilydd.  Ond math o ‘eglwys’ yw hon heb y prif bethau sy’n gwneud ‘eglwys’ yn eglwys.

Mae’n siwr gen i fod arwyddair Capel Gras Dinbych yn yr enw!  Ac er mai ceisio denu ‘pobl sydd ddim yn mynd i eglwys’ yw’r bwriad yno, bydd emyn a gweddi a Beibl ac addoliad yn ganolog i’r gwaith hwn.  Oherwydd y nod fydd cyhoeddi Gras Duw yn Iesu Grist er mwyn i lawer o bobl sydd ar hyn o bryd heb wybod dim am yr Efengyl ddod at Grist mewn ffydd.  Fel y Cynulliad Sul, bydd Capel Gras yn awyddus i bobl ddod at ei gilydd mewn cymdeithas gynnes.  Ond nid geiriau doeth dynion ac anogaeth i bobl geisio bod yn fwy caredig a hael fydd yma ond Efengyl sy’n cynnig maddeuant i’r euog a gras a nerth i’r gwan, a’r cyfan trwy Grist, Fab Duw. 

Gellid dweud mai math o ‘eglwys’ heb Dduw na chrefydd ar ei chyfyl yw’r Cynulliad Sul.  Fe gewch yno’r gân a’r gwmniaeth a’r gwersi, ond heb y Gair na’r Gras na’r Gwaredwr y mae pob gwir eglwys yn eu cynnig.  Cynulliad ynteu Capel sy’n eich denu chi?        

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 16 Mehefin, 2013

 

Chwalu’r polyn

Diolch byth nad ydw i’n byw yn Nhregarth!  Nid bod unrhyw beth yn bod ar Dregarth wrth gwrs.  Mae o’n lle digon dymunol iawn, ac mae ’na bobl dda wedi dod ohono ac yn dal i fyw yno.  Does gen i ddim byd yn erbyn Tregarth na dim cwyn amdano, ar wahân i’r gwyn sydd gan rai o drigolion y pentref y dyddiau hyn.  Ond yn ôl y sôn mae rhai o bobl Tregarth wedi bod heb ffôn na rhyngrwyd ers mis wedi i lori fawr ddifrodi polyn a gariai’r gwifrau ffôn ar gyrion y pentref.  Dal i ddisgwyl i’r polyn gael ei ailosod y mae pobl Tregarth, a hyd nes digwydd hynny mae’n debyg y byddan nhw’n parhau heb allu ffonio na defnyddio’r rhyngrwyd.  Gyda mwy a mwy o bobl a busnesau’n dibynnu ar gysylltiadau ffôn a rhyngrwyd i wneud eu gwaith, heb sôn am yr holl bobl sy’n dibynnu ar y ffôn er mwyn siarad â theulu a ffrindiau neu’n cael pleser o ddefnyddio’r rhyngrwyd, does ryfedd bod yna gwyno yn Nhregarth.

Rwy’n cydymdeimlo â nhw am fod rhaid i mi gyfaddef y byddwn i fy hun ar goll heb y cyfleusterau hyn.  Rydan ni wedi cyfarwyddo â’r ddibyniaeth ar y ffôn ers blynyddoedd wrth gwrs.  Ond rhywbeth cymharol ddiweddar yw’r defnydd a wnawn o’r rhyngrwyd.  Fe glywyd llawer y dyddiau diwethaf yma am beryglon y rhyngrwyd, gyda llawer o bobl yn sgil carchariad y llofrudd Mark Bridger yn galw ar gwmnïau fel Google i wneud mwy i rwystro pobl rhag edrych ar luniau cwbl anweddus a dychrynllyd.  Y mae’n sicr yn rhy rwydd  i wneud defnydd drwg o’r rhyngrwyd, a gobeithio y gwelir y cwmnïau yn gwneud popeth posibl i rwystro’r fath ddefnydd.  Ond mae yna ddefnydd da i’r rhyngrwyd hefyd wrth gwrs, fel y gwyr pawb ohonoch sydd wedi mentro i’r byd newydd hwn.  Trwy’r cyfrifiadur erbyn hyn y caf y rhan fwyaf o’r llythyrau a’r negeseuon y bydd pobl yn eu hanfon ataf.  Ac mae arnaf ofn y byddai mis heb e-bost i’w agor yn fis hir iawn. 

Mae stori Tregarth yn ein hatgoffa mor fregus yw’r cyfleusterau hyn.  Mae hefyd yn gwneud i mi feddwl am y cysylltiad sydd gennym â’r Brenin Mawr.  Nid yw’n dibynnu ar na gwifren na pholyn na pheiriant o fath yn y byd.  Nid oes arnom angen yr un cyfryngwr chwaith ar wahan i Iesu Grist.  Gallwn siarad â Duw unrhyw bryd, unrhyw le, heb fod angen neb arall i’n cynrychioli neu i siarad drosom.  Trwy weddi mae gennym gysylltiad uniongyrchol â Duw yn enw ei Fab Iesu.  Ond wrth ddiolch am hyn, gofalwn nad ydym ni ein hunain fel petai’n chwalu’r polyn a thorri’r cysylltiad trwy esgeuluso troi at Dduw bob dydd i gydnabod ei ddaioni a’i gariad a galw arno am gymorth, gras a nerth.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 09 Mehefin, 2013

Y llinell

‘Dyma linell orau’r gystadleuaeth gyfan’, meddai’r beirniad wrth draddodi beirniadaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf.  Ddeallais i ddim ai yn y ddrama fuddugol ynteu yn un o ddramâu eraill y gystadleuaeth oedd y llinell honno.  Ond mae’n amlwg iddi wneud argraff ar y beirniad.  Does gen i ddim syniad beth yw cyd-destun y geiriau o fewn y ddrama.  Pa gymeriad sy’n dweud y geiriau tybed, a pham?  Mae’n sicr yn llinell drawiadol.  Mae’n dangos ôl meddwl.  Mae’n dweud llawer mewn byr eiriau.  Mae yna grefft i’r dweud.  Ac mae yna ddigon o bobl yn cytuno â’r dweud hwnnw.  Nid wyf na dramodydd na beirniad, ond mentraf ddweud mai nonsens llwyr yw’r llinell a gafodd y fath ganmoliaeth.

A beth oedd y llinell honno? ‘Ffrind dychmygol i oedolion ydi Duw.’  Canmolwch y dweud os mynnwch.  Dotiwch at y ddawn o gyfleu cymaint mewn dim ond chwe gair.  Ond lol a chelwydd yw’r geiriau.  Wrth gwrs, mae’n bosibl y byddai’r dramodydd yn cytuno â mi.  Wedi’r cwbl, llinell mewn drama ydyw, ac ni fyddai’n amhosibl i’r ddrama fynd ymlaen i ddangos gwagedd y geiriau.  Heb ddarllen y ddrama, a gweld y llinell yn ei chyd-destun priodol, fedrwn ni ddweud dim am farn na diwinyddiaeth y dramodydd hwn. 

Ond gan fod y beirniad wedi cydio yn y llinell a’i hysgaru o’r cyd-destun hwnnw, a’i chanmol, dyma finnau’n ei thrafod yn yr un modd.  A mynnaf ddweud eto mai nonsens yw’r hyn a ddywedir.  Mae’r syniad o ffrind dychmygol yn ddigon cyfarwydd, gydag aml i blentyn yn siarad a chwarae efo rhyw ffrind nad yw’n bod ond yn ei ddychymyg byw ei hun.  Wrth i’r plentyn dyfu bydd y ffrind dychmygol yn diflannu.

Ergyd y llinell yw mai peth felly yw Duw ac mai rhywbeth yr ydym wedi ei ddychmygu a’i ddyfeisio er ein cysur pan fo pethau’n anodd ydyw, ond nad oes yna ddim mwy o sail iddo nag i’r ffrindiau dychmygol y bydd plant yn siarad â nhw.  Gall pobl ddweud hynny os mynnant.  Ond mae Cristnogion yn sicr mai’r Duw byw yw ein Duw ni; Duw real sydd wir yn ein cynnal a’n nerthu a’n cysuro.  Credu a wnawn yn y Duw sydd wedi ei ddatguddio ei hun i ni, ac nid mewn Duw yr ydym ni ein hunain wedi ei greu.  Mewn gwirionedd, petai Duw yn ffrwyth ein dychymyg gallech fentro y byddai pobl wedi sicrhau bod y Duw hwnnw’n haws o lawer i’w ddeall, a’i bod yn rhwyddach o lawer nag ydyw i ddirnad ei ffyrdd.  Mae’r cwestiynau sydd gennym am Dduw, a’r dirgelion sy’n parhau’n ddryswch i ni yn profi nad ffrwyth dychymyg neb ohonom yw’r gwir a’r bywiol Dduw.   

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 02 Mehefin, 2013

OS

Welsoch chi’r gair ‘OS’ (neu ‘IF’) ar bosteri a baneri neu mewn hysbysebion papur newydd dros y misoedd diwethaf?  Enw yw hwn ar ymgyrch a drefnwyd dros y misoedd diwethaf gan fwy na 200 o elusennau, yn cynnwys mudiadau Cristnogol fel Tearfund, Cymorth Cristnogol a Cafod, er mwyn pwyso ar lywodraethau i wneud eu rhan er sicrhau ‘Digon o Fwyd i Bawb’. 

Mae pawb sy’n gyfarwydd â’r ymgyrch wedi clywed llawer am alwad OS i’r G8 weithredu dros yr 1 mewn 8.  Ond beth yw’r G8 a beth yw’r 1 mewn 8?  Y G8 yw fforwm yr 8 gwlad gyfoethocaf yn y byd (Yr Almaen, Canada, Ffrainc, Japan, Rwsia, Y Deyrnas Unedig, Yr Eidal a’r Unol Daleithiau).  Bydd y fforwm yn cyfarfod nesaf yng Ngogledd Iwerddon ganol mis Mehefin.  Mae Ymgyrch OS yn galw ar arweinwyr a llywodraethau’r G8 i weithredu dros yr 1 mewn 8.

Ond pwy yw’r 1 mewn 8?  Dywed ymgyrch OS ‘y bydd 1 o bob 8 o bobl y byd yn mynd i’r gwely’n newynog heno’.  Galwad sydd gan yr ymgyrch felly ar wledydd cyfoethog y byd i weithredu er sicrhau digon o fwyd i’r bobl hyn.

Ond pam ‘OS’ fel enw i’r ymgyrch?  Neges fawr yr ymgyrch hon yw y bydd yna ddigon o fwyd i bawb OS bydd llywodraethau a gwledydd cyfoethog y bydd yn gofalu am 4 peth.  Bydd digon o fwyd i bawb

1. Os caiff arian cymorth ei wario yn y llefydd iawn

2. OS bydd gan bobl y tir sydd ei angen arnynt i dyfu cnydau

3. OS bydd cwmnïau a llywodraethau yn gweithredu’n agored a gonest

4. OS bydd llywodraethau’r byd yn derbyn y trethi sy’n ddyledus iddynt.

Dyma’r pedwar peth y mae’r ymgyrch wedi bod yn tynnu sylw atynt ac yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan a’r G8 i fynd i’r afael â hwy’r mis nesaf er mwyn yr 1 o bob 8.

Mae pob un o’r elusennau wedi bod yn pwyso ar eu cefnogwyr i fod yn rhan o’r ymgyrch trwy weithredu, gan bwyso er enghraifft ar eu haelodau seneddol i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud ei rhan.  Mae Tearfund yn un o’r mudiadau Cristnogol sy’n annog ei gefnogwyr hefyd i weddïo dros yr ymgyrch, dros drafodaethau’r G8 yng Ngogledd Iwerddon a’u hymateb wedi hynny, a thros yr 1 o bob 8 o bobl y byd sy’n dioddef newyn ac yn byw bob dydd â chanlyniadau’r newyn hwnnw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 26 Mai, 2013