Chawsom ni mo’n siomi o ran y tywydd nac o ran yr hwyl a’r mwynhad ar drip Ysgol Sul Capel Coch. A diolch am hynny, wnaeth yr un o’r plant gymryd sylw o’r hyn a ddywedwyd wrthynt wedi i ni gyrraedd Sw Caer fore ddoe. Un o’r plant ofynnodd a oedd y bws yn aros yno trwy’r dydd, ac mi ddywedais innau bod y bws yn mynd yn adref ar ei union ac y byddai raid i bawb ohonom ddod ag un o’r anifeiliaid o’r sw ddiwedd y pnawn er mwyn cael reid adref ar ei gefn. Ac mi wnes i addo gwobr i bwy bynnag a fyddai’n dod â’r anifail gorau adref. Rhyddhad mawr yw cael dweud na ddaeth yr un o’r plant ag eliffant na jiraff na llew trwy giatiau’r sw ddiwedd y pnawn a bod y bws yno i ddod â ni adre’n ddiogel. Ond mae’n rhaid i mi gofio fy mod wedi addo gwobr hefyd i bwy bynnag a fyddai’n tynnu’r llun gorau o un o’r anifeiliaid yn ystod y dydd.
Roedd y plant yn deall yn iawn mai tynnu coes oeddwn ac nad oedd rhaid cymryd sylw o’r gorchymyn i ddod ag un o’r anifeiliaid adref. A diolch byth am hynny. Mae gorchmynion Duw’n wahanol iawn, wrth gwrs. Gorchmynion i’w parchu a’u cadw yw’r rheiny gan nad yw Duw’n gwamalu nac yn gorchymyn yn ofer. Gallwn ymddiried yn yr Arglwydd gan wybod mai er ein lles ni a lles ein cymdeithas y mae pob un o’i orchmynion. Nid yw’r Arglwydd yn ein camarwain mewn unrhyw ffordd. Mae’n rhoi ei orchmynion, ac yn disgwyl i ni ufuddhau iddynt. Ac yn yr ufudd-dod hwnnw mae diogelwch a bendith fawr i ni.
Ac mor bwysig fydd cadw’r addewid i wobrwyo’r llun gorau. Weithiau, gallwn addo a pheidio cadw’r addewid hwnnw. Ond nid felly’r Arglwydd. Mae Duw yn addo, ac yn cadw ei addewidion i gyd. Mae’n addo bod gyda ni bob amser; yn addo gwrando gweddiau; yn addo ei gysur a’i gymorth bob dydd.
A dyna’r gwir wrth gwrs ynghylch gorchymyn ac addewid yr Efengyl ei hun. Ynddi, mae Duw’n gorchymyn i ni edifarhau a chredu’r Efengyl. Nid awgrymu y dylem ystyried gwneud hynny y mae Duw, ac nid hyd yn oed ein gwahodd i feddwl am y peth. Mae’n gorchymyn i ni gydnabod ein beiau a cheisio ei faddeuant, a chredu yn yr Arglwydd Iesu. Pethau i’w gwneud mewn ufudd-dod i Dduw yw edifarhau a chredu.
Ac mae addewid yr Efengyl yn sicr a dibynadwy. Credwch, meddai Duw, a chadwedig fyddwch. Nid yw’n torri ei addewid. Mae’n addo maddeuant a bywyd newydd a’r nefoedd hyd byth i bawb sy’n credu yn ei Fab. A gallwn ddibynnu arno i gadw ei addewid.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 07 Gorffennaf, 2013