Clwb Gwyliau Efe

Medi 7, 2013

Yn ystod  wythnos gyntaf gwyliau haf yr ysgolion cynhaliwyd Clwb Gwyliau Cynllun Efe unwaith eto, a bu rhai o blant ein hysgolion Sul yno yn rhan o’r hwyl a’r dysgu.  Trefnwyd y cyfan gan Andrew Settatree, a diolchwn iddo am ei waith ar hyd y flwyddyn.  Mae’n dda cael cyhoeddi rhan o adroddiad Andrew am waith yr wythnos.  Fe welir yr adroddiad llawn ar wefan Cynllun Efe ac yn Y Pedair Tudalen yn y papurau enwadol yr wythnos nesaf.

Cynhaliwyd Clwb Gwyliau Haf Efe yn Ysgol Gynradd Llanrug o ddydd Llun i ddydd Gwener, Gorffennaf 22–26.  Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gynnal y Clwb Haf a’r tro cyntaf yn yr ysgol, a oedd yn lleoliad delfrydol ar gyfer yr holl weithgareddau.  Wedi llawer iawn o baratoi, gweddio a hysbysebu, daeth dydd cyntaf y Clwb a chawsom 11 o blant, efo cyfartaledd o 18 bob dydd.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Dduw am ei ffyddlondeb yn hyn o beth.

Roeddem yn freintiedig nid yn unig o gael tim lleol ardderchog ond hefyd 7 Americanwr oedd yn treulio’r haf yng Nghaernarfon yn rhannu’r newyddion da am Iesu efo plant a phobl ifanc y fro, ac roedden nhw’n boblogaidd iawn.  Thema’r clwb oedd ‘Craig y Pyramid’ sef rhaglen 5 diwrnod gan Undeb y Gair sy’n rhoi trosolwg i’r plant o fywyd Joseff a’i frodyr yng Ngwlad yr Aifft.  I wneud hyn cafwyd thema Eifftiaidd ar gyfer yr wythnos gyfan, efo Neuadd yr ysgol yn troi’n Wlad yr Aifft fach, efo’r Afon Neil yn llifo drwyddi!  Hefyd rhannwyd y blant yn 4 tim oedd wedi eu henwi ar ôl anifeiliaid o wlad yr Aifft, sef tim Cobra, tim Scorpion, tim Camel ac wrth gwrs tim Crocodeil.

Agorai’r diwrnod am 10 o’r gloch efo’r plant yn cyrraedd, cofrestru a chael cyfle i naill ai chwarae gemau allan ar y buarth neu wneud gwaith crefft yn un o ystafelloedd dosbarth yr ysgol am ryw hanner awr. Wedyn ar ôl egwyl fach byddai pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer addoliad o dan ofal Mrs Susan Williams a band. Yn dilyn hyn byddem ni’n cael cwmni Mr. Indiana Jones (Alun Elis) bob dydd, ac roedd o angen help y blant i gyfieithu gair o hieroglyffiau’r Eifftwyr i’r Gymraeg a oedd yn crynhoi dysgeidiaeth y dydd.  Wedi hyn byddai Indiana yn ein cyflwyno ni i un o gymeriadau hanes Joseff a fyddai wedyn yn mynd ymlaen i adrodd yr hanes o’u safbwynt nhw.  Yna byddai yna cwis, cyn gorffen efo dysgu adnod, a chyfle i ninnau grynhoi neges y dydd.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, yn enwedig i Mr Robin Williams eto am ei haelioni wrth adael i ni gael defnydd o’i ysgol am yr wythnos.  Diolch i’r Arglwydd am ei holl ffyddlondeb ac am yr holl bethau a wnaeth ym mywydau’r plant yn ystod yr wythnos.  Ein gweddi yw y bydd Duw yn defnyddio’r wythnos yma er mwyn dod â phlant sy ddim yn adnabod Iesu ato am y tro cyntaf yn ogystal â sicrhau bod y blant sydd eisioes yn ei adnabod yn dod i’w adnabod yn well.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 01 Medi, 2013

Advertisements

Rhedwyr a Bugeiliaid

Medi 7, 2013

Cafwyd diwrnod ardderchog ar gyfer Ras Yr Wyddfa ddoe, a daeth pobl yn eu cannoedd i Lanberis i weld y cystadlu.  Mae’n siwr bod yna rai miloedd o bobl yma, yn cynnwys pawb oedd ar Gae’r Ddôl a’r strydoedd a’r mynydd ei hun.  Roedd yr haul yn grasboeth a phawb i weld yn mwynhau eu hunain yn sgwrsio â ffrindiau a chefnogi’r rhedwyr.  Ond wn i ddim pa mor hapus oedd y rhedwyr efo’r tywydd chwaith.  Mae’n siwr y byddai’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi mwynhau ambell gwmwl a thipyn llai o wres.  Wedi’r cwbl, roedd hi mor boeth nes bod lorïau graeanu’r Cyngor Sir (ie, y rhai welwn ni fel arfer adeg eira a rhew’r gaeaf) yn taenu llwch ar rai o ffyrdd yr ardal i arbed wyneb y lôn rhag toddi yng ngwres yr haul.

Fore ddoe, cyn prif ras y pnawn, cafwyd ras newydd am Gwpan yr Wyddfa, sef ras i gopa’r mynydd yn unig.  Rwy’n ymwybodol iawn o berygl dweud ‘yn unig’ yn y cyswllt hwn gan fod rhedeg i’r copa yn gamp na allaf fi yn sicr ond breuddwydio am ei chyflawni. Breuddwydio, ac edmygu ymroddiad a dycnwch y rhedwyr o feddwl am yr oriau a misoedd o ymarfer caled ym mhob tywydd, haf a gaeaf.  Ac am ddeg o’r gloch neithiwr roeddwn yn dal i edmygu ymroddiad a dycnwch pobl.  Mae’r pentref yn brysur bob noson Ras yr Wyddfa, ac ambell flwyddyn cafwyd cryn dipyn o swn a helynt.  Oherwydd hynny roedd yna fwy o heddlu nag arfer yn Llanberis neithiwr. Ond ar gais yr heddlu, roedd yma hefyd bedwar o Fugeiliaid y Stryd o Fangor, a braf iawn oedd eu cyfarfod a chael sgwrs fer hefo nhw wrth gerdded adref.  Yn eu plith yr oedd  Eleri Jones, a fydd yn arwain yr oedfa yn Neiniolen heno.  Roedden nhw yma am rai oriau neithiwr nes y byddai’r tafarndai’n cau.

Mae Bugeiliaid y Stryd i’w gweld ar strydoedd aml i dref a dinas, bob nos Wener a nos Sadwrn fel arfer.  Cristnogion ydi’r Bugeiliaid hyn sydd  ar y stryd i gynnig help i bobl sydd mewn trafferthion am eu bod o bosibl wedi yfed gormod.  Maen nhw’n cynnig poteli dwr neu fflip-fflops i ferched sydd wedi colli neu dynnu eu hesgidiau ac mewn perygl o frifo trwy sathru cerrig neu ddarnau o wydr.  Mae’r Bugeiliaid yn pwysleisio nad ydyn nhw ar y stryd i bregethu nac i efengylu fel y cyfryw, ond eu bod yn barod i egluro i unrhyw un sy’n eu holi mai yn enw Iesu Grist y maen nhw’n gwneud y gwaith hwn.  Roedden nhw yn Llanberis am y tro cyntaf neithiwr rhag ofn y byddai ar rywrai angen help.  Diolch i Dduw am ymroddiad a dycnwch y Bugeiliaid sydd allan ym mhob tywydd.  Gweddïwch drostynt.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 21  Gorffennaf, 2013


B & B

Medi 7, 2013

Mae’r diwydiant ymwelwyr wedi bod yn bwysig yng Nghymru ers cenedlaethau, ac mae’n dal felly o hyd.  Mae’r patrwm wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd wrth gwrs.  Pan euthum i Abersoch gyntaf roedd yr hen arfer o osod tai yn gyffredin iawn, a theuluoedd yn symud i fyw i fyngalo neu garafan neu hyd yn oed  garej neu sied dros fisoedd yr haf er mwyn gosod eu cartref i’r fisitors.  Wrth i fwy a mwy o dai haf gael eu codi ac i’r fisitors eu hunain ddechrau gosod y tai hynny i fisitors eraill doedd dim cymaint o alw am y tai lleol, ac erbyn hyn mae llai o lawer o deuluoedd yn ‘symud allan’ dros yr haf.  Ac erbyn hyn hefyd does neb yn cadw B&B yn Abersoch gan fod mwy o bwyslais bellach ar ddarparu llety mewn hen  adeiladau fferm ac ati.

Ond os yw’r B&B wedi diflannu o Abersoch a mannau eraill, mae un newydd agor yn Y Drenewydd dan yr enw Be Our Guest.  Ond cyn i chi feddwl ffonio i archebu stafell yno, fe ddylwn egluro na chewch chi na neb arall na gwely na brecwast yno.  Oherwydd arddangosfa yn Oriel Davies y dref honno yw stafelloedd y B&B hwn.

Dwn i ddim pa mor realistig yw stafelloedd yr arddangosfa, ond maent wedi eu bwriadu i roi syniad o’r hyn a ddarparwyd mewn llety o’r fath dros y blynyddoedd.  Aed ati’n fwriadol yn yr oriel i ail greu llety gwely a brecwast, ac mae’n swnio’n lle difyr iawn.  Ond go brin y bydd neb yn meddwl eu bod mewn B&B go iawn.

Ychydig o bobl sy’n mynd ati’n fwriadol i roi’r argraff eu bod yn Gristnogion.  Ond yn anfwriadol, gall pobl wneud Cristnogaeth yn fwy o sioe na dim arall yn eu bywydau.  Mae’n rhaid i bawb ohonom ofalu nad rhywbeth ar y wyneb yn unig yw ein Cristnogaeth.  Tybed ai un rheswm dros gyflwr truenus cymaint o eglwysi Cymru heddiw yw bod gormod o hyn wedi bod dros y blynyddoedd?  A fu llawer o’n Cristnogaeth ar y wyneb yn hytrach nag o’r galon?  A fu defod ac arfer yn bwysicach na Beibl a gweddi?  A fu arfer ac adeilad yn bwysicach na ffydd ac edifeirwch?

Un ffordd o sicrhau bod ein Cristnogaeth yn real ac nid yn ffug yw cofio’n syml mai perthynas fyw â’r Arglwydd Iesu Grist yw dechrau’r bywyd Cristnogol.  Perthynas real â pherson byw, ac nid ufudd-dod i reolau marw yw’r bywyd Cristnogol; a’r berthynas honno yn fater o gariad ac ymddiriediaeth a gwasanaeth llawen a pharod i’r Un sydd wedi ein caru ni hyd yr eithaf trwy ei roi ei hun i farw trosom.  Dyna’r Gristnogaeth a fedr apelio at genhedlaeth newydd yng Nghymru heddiw er clod i Dduw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 14  Gorffennaf, 2013