Pa le mae dy Dduw?

Nid cwestiwn newydd mohono o gwbl.  Fe’i gofynnwyd ar hyd y canrifoedd ac mae yna rai sy’n dal i’w ofyn.  Roedd yna rai yn ei ofyn mor bell yn ôl â dyddiau Salmau’r Hen Destament.  Mae’n bosibl eich bod chithau wedi ei glywed yn cael ei ofyn i chi.  Neu mae’n bosibl hefyd eich bod chi wedi ei ofyn i rywun arall neu hyd yn oed wedi ei ofyn i chi eich hun ambell dro. ‘Ple mae dy Dduw?’

Do, fe ofynnwyd hyn i’r Salmydd fwy nag unwaith.  Onid yw’n dweud yn Salm 42:10 fod yna rai’n gofyn hyn iddo ‘trwy’r dydd’?  Mae’n teimlo bod ei esgyrn yn cael eu malu a bod pob nerth yn cael ei sugno ohono wrth i bobl ei wawdio â’r cwestiwn hwn.

Mae’r cwestiwn yn brifo’r Salmydd am ei fod yn ymosod ar y peth pwysicaf sydd ganddo, sef ei ffydd yn Nuw.  I’r Salmydd, mae Duw yn bopeth: Duw yw ei nerth a’i gysur a’i lawenydd.  Yn Nuw y mae’n ymddiried ac i Dduw y mae’n rhoi’r clod am ei fendithio a’i gynnal.  Duw yw testun ei fawl o hyd, ac i Dduw y mae’n cysegru ei fywyd.  Mae’n ceisio Duw a’i nerth o hyd; mae’n treulio’i ddyddiau yn myfyrio amdano ac yn llunio’i salmau o glod a diolch a chyffes.

Ond doedd bywyd ddim yn fêl i gyd i’r Salmydd, ac yn aml iawn yn yr adegau hynny pan oedd y Salmydd yn cael trafferthion gwahanol byddai ei elynion yn ei herio trwy ofyn yn wawdlyd, ‘Ple mae dy Dduw?’  A gall yr un peth yn union ddigwydd heddiw.  Nid yw Duw wedi addo i’w bobl y bydd popeth bob amser yn mynd o’u plaid ac na fydd raid iddyn nhw wynebu anawsterau yn y byd hwn.  Fe ddywedodd Iesu Grist yn ddigon eglur bod yr haul yn gwenu ar y drwg a’r da a’i bod yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.  Ond nid felly y gwelai’r bobl oedd yn gwawdio’r Salmydd hi.  Ac nid felly y gwêl llawer o bobl heddiw hi chwaith.  Oherwydd y munud y gwelan nhw Gristnogion yn dioddef daw’r cwestiwn herfeiddiol, ‘Ple mae dy Dduw?’  Pam na fyddai wedi dy arbed?  Pam na fyddai wedi dy helpu?  Pam na fyddai wedi dy gadw rhag yr helynt hwn?

Ateb y Salmydd oedd ceisio Duw yn fwy.  A dyna ateb ffydd o hyd gan fod ffydd yn ein sicrhau bod yr Arglwydd Dduw gyda ni bob amser, beth bynnag a wynebwn a pha mor anodd bynnag yw pethau.  Yn ei awr waethaf ar groes Calfaria, roedd rhai’n gwawdio’r Iesu gan fynnu y dylasai Duw ei helpu a’i arbed rhag y dioddefaint mawr.  Ond gwyddai Iesu fod Duw gydag ef trwy’r cyfan a daliodd i ymddiried ynddo.  Ac ymddiried yn naioni a ffyddlondeb Duw a wnawn ninnau gobeithio, er gwaethaf pob gwawd ac er garwed y llwybr ar adegau.

Ple mae dy Dduw yng nghanol y boen, yr unigrwydd, y galar, y gwendid a’r ofn y mae’n rhaid i ti ei wynebu ar brydiau?  Yno’n union yng nghanol y cyfan yn dy gynnal a’th gysuro a’th nerthu yn ei gariad rhyfeddol.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 08 Medi, 2013

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: