Gofioch chi?
Ddwywaith y flwyddyn y byddwn ni’n troi’r cloc, yn y gwanwyn a’r hydref. O’m rhan fy hun, mae’n well gen i droi’r cloc yn ôl, fel y gwnaed neithiwr, gan fod hynny’n rhoi awr ychwanegol o gwsg i ni. Ond wedi dweud hynny, mae’n well gen i ganlyniadau’r hyn a wnawn yn y gwanwyn, gan fod troi’r cloc ymlaen yn golygu ymestyn oriau’r dydd. Er brafied yr awr ychwanegol yn y gwely, bydd yn chwith iawn gweld y dydd yn cau amdanom yn gynharach a chynharach o hyn hyd droad y rhod.
Mae yna ddigon o bethau deniadol sy’n dod â chanlyniadau gwael yn eu sgil: pob math o bethau sydd ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn werth eu cael a’u gwneud.
Roedd hynny’n sicr yn wir am y Mab Afradlon y soniodd Iesu Grist amdano yn un o’i ddamhegion. Meddyliodd hwnnw bod yna well byd y tu draw i ffiniau ei gartref. Mynnodd ei siâr o eiddo’i dad a mynd a’i adael ef a gweddill y teulu. Ond buan y gwariodd bob ceiniog a mynd i drafferthion mawr. Roedd canlyniadau dychrynllyd o drist i’r hyn oedd yn ymddangos mor ddeniadol ar y cychwyn.
Ond wrth droi’r cloc ymlaen yn y gwanwyn, er na fydd nemor neb yn edrych ymlaen at golli awr o gwsg, mor braf fydd gweld y dydd yn ymestyn a’r nosweithiau golau, braf yn dychwelyd unwaith eto.
Ac mae yna bethau eraill, nad ydyn nhw’n ddeniadol o gwbl, a hyd yn oed brofiadau digon chwerw, sy’n dod â bendithion mawr i ni. Fyddem ni byth yn croesawu’r pethau hynny. Ac eto gall profiadau na fyddem ni yn eu dewis o gwbl ddod â’u cysuron a’u llawenydd mewn ffyrdd annisgwyl.
Dyna hanes y dyn a welir yn un arall o ddamhegion yr Iesu. Dechrau digon truenus oedd i’r dyn fu mewn helynt ar y ffordd o Jerwsalem i Jericho. Fe’i curwyd gan ladron a’i adael yn hanner marw ar ymyl y ffordd. Aeth offeiriad a Lefiad heibio heb ei helpu. Fyddai’r dyn byth wedi dewis dioddef fel hyn. Ac eto, cafodd garedigrwydd na fyddai wedi ei ddychmygu. Daeth dyn dieithr o Samaria a thosturio wrtho. Ac wrth i’r Samariad ei helpu a mynd ag ef i ddiogelwch y llety a thalu i’r lletywr am ei ymgeleddu, fe brofodd y dyn hwn y cariad y bu Iesu’n sôn cymaint amdano ac yn galw pobl i’w ddangos. Doedd y dyna a gurwyd ddim yn chwennych y trafferthion, ond daeth bendithion mawr trwy’r cyfan.
Mewn gwaeledd a phrofedigaeth a thrafferthion o bob math mae llu o Gristnogion yn medru tystio iddynt brofi daioni a chariad y Duw Byw sy’n agosáu atynt yng nghanol eu hofnau a’u poen. Gweddi’r Cristion yn amlwg ddylai fod, ‘Nac arwain ni i brofedigaeth’. Ond os daw trafferth a phrofedigaeth, trugaredd Duw ei fod yn medru ein cynnal trwy’r cyfan, a’n synnu’r un pryd.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 27 Hydref, 2013