Troi’r cloc

Gofioch chi?

Ddwywaith y flwyddyn y byddwn ni’n troi’r cloc, yn y gwanwyn a’r hydref.  O’m rhan fy hun, mae’n well gen i droi’r cloc yn ôl, fel y gwnaed neithiwr, gan fod hynny’n rhoi awr ychwanegol o gwsg i ni.  Ond wedi dweud hynny, mae’n well gen i ganlyniadau’r hyn a wnawn yn y gwanwyn, gan fod  troi’r cloc ymlaen yn golygu ymestyn oriau’r dydd.  Er brafied yr awr ychwanegol yn y gwely, bydd yn chwith iawn gweld y dydd yn cau amdanom yn gynharach a chynharach o hyn hyd droad y rhod. 

Mae yna ddigon o bethau deniadol sy’n dod â chanlyniadau gwael yn eu sgil: pob math o bethau sydd ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn werth eu cael a’u gwneud.   

Roedd hynny’n sicr yn wir am y Mab Afradlon y soniodd Iesu Grist amdano yn un o’i ddamhegion.  Meddyliodd hwnnw bod yna well byd y tu draw i ffiniau ei gartref.  Mynnodd ei siâr o eiddo’i dad a mynd a’i adael ef a gweddill y teulu.  Ond buan y gwariodd bob ceiniog a mynd i drafferthion mawr.  Roedd canlyniadau dychrynllyd o drist i’r hyn oedd yn ymddangos mor ddeniadol ar y cychwyn. 

Ond wrth droi’r cloc ymlaen yn y gwanwyn, er na fydd nemor neb yn   edrych ymlaen at golli awr o gwsg, mor braf fydd gweld y dydd yn ymestyn a’r  nosweithiau golau, braf yn dychwelyd unwaith eto.

Ac mae yna bethau eraill, nad ydyn nhw’n ddeniadol o gwbl, a hyd yn oed brofiadau digon chwerw, sy’n dod â bendithion mawr i ni.  Fyddem ni byth yn croesawu’r pethau hynny.  Ac eto gall profiadau na fyddem ni yn eu dewis o gwbl ddod â’u cysuron a’u llawenydd mewn ffyrdd annisgwyl. 

Dyna hanes y dyn a welir yn un arall o ddamhegion yr Iesu.  Dechrau digon truenus oedd i’r dyn fu mewn helynt ar y ffordd o Jerwsalem i Jericho.  Fe’i curwyd gan ladron a’i adael yn hanner marw ar ymyl y ffordd. Aeth offeiriad a Lefiad heibio heb ei helpu.  Fyddai’r dyn byth wedi dewis dioddef fel hyn.  Ac eto, cafodd garedigrwydd na fyddai wedi ei ddychmygu.  Daeth dyn dieithr o Samaria a thosturio wrtho.  Ac wrth i’r Samariad ei helpu a mynd ag ef i ddiogelwch y llety a thalu i’r lletywr  am ei ymgeleddu, fe brofodd y dyn hwn y cariad y bu Iesu’n sôn cymaint amdano ac yn galw pobl i’w ddangos.  Doedd y dyna a gurwyd ddim yn chwennych y trafferthion, ond daeth bendithion mawr trwy’r cyfan.

Mewn gwaeledd a phrofedigaeth a thrafferthion o bob math mae llu o Gristnogion yn medru tystio iddynt brofi daioni a chariad y Duw Byw sy’n agosáu atynt yng nghanol eu hofnau a’u poen.  Gweddi’r Cristion yn amlwg ddylai fod, ‘Nac arwain ni i brofedigaeth’.  Ond os daw trafferth a phrofedigaeth, trugaredd Duw ei fod yn medru ein cynnal trwy’r cyfan, a’n synnu’r un pryd.

 Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 27 Hydref, 2013

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: