Ddechrau mis Gorffennaf y clywsom am Amanda Berry yn dianc o dŷ yn Cleveland, Ohio lle’r oedd hi a dwy wraig arall wedi eu cadw’n gaeth. Roedd hi wedi bod yn y tŷ am ddeng mlynedd a’r ddwy arall am naw ac un mlynedd ar ddeg. Roedd yn anodd credu y gallai’r fath beth ddigwydd mewn tŷ ar stryd ddigon cyffredin yn yr Unol Daleithiau.
Ddeufis yn ddiweddarach, daeth y sôn am gaethiwo pobl yn llawer nes atom pan gyhuddwyd chwech o ddynion o ardal Casnewydd, mewn dau achos gwahanol ddiwedd Medi, o gaethiwo a thrin dynion fel caethweision.
Ac ymhen deufis arall, clywsom yr wythnos ddiwethaf am dair gwraig yn dianc o dŷ yn Lambeth, Llundain, lle’r honnir iddynt gael eu cadw a’u trin fel caethweision am 30 o flynyddoedd. Mae’n ymddangos y gallasai’r fengaf o’r tair bod wedi ei geni hyd yn oed yn y tŷ hwnnw.
Tair enghraifft yn unig yw’r rhain o’r ffordd y caiff miloedd o bobl a phlant eu cam-drin heddiw. Caiff llawer eu herwgipio, eu prynu a’u gwerthu, a’u trin fel caethweision, Yn 2007, rhoed sylw mawr i ddaucanmlwyddiant pasio Deddf Dileu’r Fasnach Gaethweision y bu William Wilberforce yn ymgyrchu mor frwd drosti yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mor drist yw gweld y gamdriniaeth annynol hon yn parhau yn ein cymdeithas honedig waraidd ni. Nid yw bodolaeth deddf yn golygu bod y ddeddf honno’n cael ei pharchu. Mae pob Cristion yn gwybod hynny o’i brofiad ei hunan wrth gwrs. Mae deddf Duw wedi ei rhoi i ni, ond nid yw hynny’n golygu ein bod yn ei chadw fel y dylem.
Mae cyrff fel Cymorth Cristnogol, Y Cynghrair Efengylaidd a Byddin yr Iachawdwriaeth yn codi llais ar ran yr eglwysi yn erbyn y fasnach mewn pobl. Ceir hefyd fudiadau Cristnogol fel ‘Hope for Justice’ a ‘Love 146’ sy’n bodoli er mwyn gwrthwynebu’r fasnach honno. Maent yn gwneud gwaith da ac yn deilwng o’n gweddïau yn eu brwydr yn erbyn y drwg mawr hwn o fewn ein cymdeithas heddiw.
Mae’r hanesion hyn gwaetha’r modd yn ein hatgoffa o ba mor greulon y gall pobl fod at eraill. Mae’n anodd credu y gall pobl fod mor annynol wrth drin ei gilydd. Fedrwn ni ddim dechrau dychmygu’r creulondeb sydd y tu ôl i’r straeon hyn. Pwy fyddai’n dychmygu bod y fath bethau’n gallu digwydd yn ein cymdeithas wâr ni heddiw? Gweddïwn dros bobl sy’n cael eu dal yn gaeth, o olwg y byd, iddynt gael eu rhyddhau. Gweddïwn dros bawb sy’n gweithio er mwyn ceisio rhyddhau eraill, iddynt lwyddo yn eu hymdrech. Gweddïwn dros y rhai sydd wedi eu rhyddhau, iddynt allu ymdopi â’u rhyddid. Gweddïwn hyd yn oed dros y bobl hynny sy’n dal rhai cwbl ddiniwed yn gaeth, iddynt ddod i edifeirwch calon a rhoi heibio’r creulondeb dychrynllyd hwn.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 24 Tachwedd, 2013