Y Sahara

Beth tybed oedd stori fwyaf yr wythnos ddiwethaf?  Y storm a drawodd rannau o wledydd Prydain?  Dechrau achos llys Rebekah Brooks ac Andy Coulson?  Streic yr ymladdwyr tân?  Addewid David Cameron o ragor o bwerau i Lywodraeth Cymru?  Mwy dirdynnol yn sicr na’r un o’r straeon hyn oedd yr hyn a ddigwyddodd i gant a mwy o bobl yn Anialwch y Sahara yn Niger.  Mae’n debyg mai gadael Niger, un o wledydd tlotaf y byd, er mwyn chwilio am fywyd gwell yn Algeria oedd y bobl hyn.  Ond wedi i’w cerbydau dorri bu farw oddeutu 90 ohonynt yng ngwres yr anialwch, wedi dyddiau yno heb ddŵr.  Er mai’r wythnos hon y daeth y drasiedi fawr hon i’r amlwg, fe ddigwyddodd yn gynnar ym mis Hydref, tua’r un pryd felly â thrasiedi arall pan foddwyd dros gant o ffoaduriaid o Eritrea a Somalia pan suddodd eu cwch oddi ar Ynys Lampedusa yn Yr Eidal.

Mor eithriadol o drist y digwyddiadau hyn.   Ond mwy trist fyth y ffaith nad digwyddiadau anghyffredin mohonynt.  Dywed mudiadau dyngarol bod cymaint ag ugain mil o ffoaduriaid wedi boddi wrth groesi Môr y Canoldir yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf wrth iddynt geisio dianc rhag tlodi affwysol yn eu gwledydd eu hunain.

Y peth mwyaf dirdynnol a glywais am yr hyn a ddigwyddodd yn y Sahara oedd geiriau un o’r ychydig a oroesodd, sef  merch ifanc 14 mlwydd oed o’r enw Shafa.  Roedd ei stori hi’n eithriadol o drist.  Bu farw ei mam a’i dwy chwaer yn yr anialwch. Soniodd Shafa hefyd am filwyr o Algeria yn gwrthod rhoi dŵr i’r ffoaduriaid; am gerbydau yn gyrru heibio iddynt heb gynnig help; a hyd yn oed am un cerbyd yn taro tri ohonynt a’u lladd.  Cafodd ei hachub o’r diwedd gan deithwyr a arhosodd i’w helpu.

Roedd yn amhosib darllen stori Shafa heb gofio’r ddameg a adroddodd Iesu am y Samariad Trugarog.  Ac mae’r ddameg honno bob amser yn ein herio i ystyried y math o gymdogion ydym ninnau i bobl mewn anghenion dyrys iawn o’n cwmpas.

Mae’n amhosibl i ni amgyffred yr hyn a ddigwyddodd yn yng ngwres tanbaid y Sahara.  Rhy hawdd yw condemnio’r bobl am beidio â helpu’r ffoaduriaid.  Fedrwn ni ddim dychmygu eu harswyd o weld y fath ddioddefaint na’u hofn o gael eu gweld yn gwneud rhywbeth anghyfreithlon wrth eu helpu.  Fedrwn ni chwaith ddim bod mor feiddgar â mynnu y byddem ni’n sicr wedi aros i’w helpu.

Yr hyn y gallwn ei wneud yw ceisio nerth a gras i ymateb i’r anghenion a welwn o’n cwmpas yn ein cymdogaeth ein hunain, a gwneud yr hyn a allwn i estyn cymorth i bobl sy’n dioddef mewn rhannau eraill o’r byd trwy’r mudiadau a’r asiantaethau sy’n cynnig cyfle i ni wneud hynny.  Un peth sy’n sicr yw mai trwy nerth a gras Duw, ac nid trwy ein nerth ein hunain, y gallwn estyn y cymorth hwnnw bob amser.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 03 Tachwedd, 2013

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: