On’d ydi pobl yn bathu termau od? Be’ mae ‘gift creep’ yn ei gyfleu i chi? Y weithred o gropian dan y goeden Dolig i sbecian ar yr anrhegion? Rhywun amheus sy’n dod ag anrhegion i ni? Na, cyfeirio mae’r term at y duedd i brynu anrheg ychwanegol i rywun am eich bod yn ofni nad yw’r un a brynoch yn wreiddiol yn ddigon da. Rywsut, mae anrheg arall yn mynnu sleifio i mewn. A thybed, felly, ai’r term Cymraeg am beth felly ydi ‘anrheg sleifio’?
Wn i ddim faint ohonoch sydd wedi cael eich temtio i brynu ‘anrheg sleifio’ eleni? Ŵyr y bobl sy’n gwneud eu siopa Dolig ar y funud olaf ddim am hynny. Erbyn i’r bobl hynny gyrraedd adref Noswyl Nadolig mae’n rhy hwyr i feddwl am anrheg arall hyd yn oed os byddan nhw’n gwbl anfodlon â’r hyn a brynon nhw. Ond am y bobl sy’n gwneud eu siopa wythnosau’n gynnar, faint ohonyn nhw sy’n penderfynu bod rhaid cael rhywbeth arall i ffrind neu berthynas yn ychwanegol at yr hyn a brynwyd yn barod?
Yn ôl un cwmni a holodd 3,000 o’u cwsmeriaid, mae pobl yn gwario £16.79 ar yr ‘anrhegion sleifio’ hyn. Roedd 35% ohonynt yn dweud iddynt wneud hynny am eu bod yn siomedig o weld yr anrhegion gwreiddiol wedi eu lapio, a 23% ohonynt yn dweud eu bod yn ofni y byddent yn derbyn anrheg a gostiodd fwy na’r un yr oedden nhw yn ei roi.
Term newydd ydi ‘anrheg sleifio’ neu ‘gift creep’. Pa mor newydd bynnag yw’r term doedd dim arlliw o’r syniad hwn ynghylch y Nadolig cyntaf. Yn nyfodiad Iesu Grist i’r byd cawsom rodd fwyaf Duw. Roedd Duw yn rhoi ei unig Fab yn Waredwr i’r byd. Dyma rodd ei gariad. Dyma rodd na welodd y byd mo’i thebyg na chynt na wedyn. Rhodd a gynlluniwyd yn ofalus oedd hon ac nid rhodd y penderfynwyd arni’n sydyn. Roedd Duw wedi cynllunio’r rhodd hon ers canrifoedd lawer, ac ers mwy na hynny. Oherwydd rhodd a gynlluniwyd cyn llunio’r byd oedd hon; rhodd y gwyddai Duw y byddai angen amdani hyd yn oed cyn iddo greu’r bobl y byddai ei Fab yn dod i’r byd i’w gwaredu. Ac wedi ei haddo, fe roddodd Duw y rhodd i ni. Fe aned Iesu.
Ac unwaith yr oedd Duw wedi rhoi ei Fab doedd dim modd gwella ar y rhodd fawr honno. Doedd dim perygl i Dduw edrych ar y Mab a ddaeth yn blentyn bach a meddwl ei fod mewn unrhyw fodd yn llai na digon. Byddai’n gwbl amhosibl cael rhodd fwy gwerthfawr na Mab Duw a roddwyd yn frawd ac yn achubwr i bechaduriaid.
A mynnwch olwg ar y rhodd ryfeddol hon y Nadolig hwn. Gwelwch y rhodd yn llawenydd y Geni, wedi ei lapio mewn cadachau yn y preseb. Gwelwch y rhodd yng nghywilydd y gwawd, wedi ei lapio mewn clogyn ysgarlad gan y milwyr brwnt. Gwelwch y rhodd yn nwyster yr aberth, wedi ei lapio mewn lliain glân a’i osod mewn bedd. Trwy drugaredd a chariad Duw mae’r Iesu, yn ei ddarostyngiad, yn brydferthach na’r anrheg drutaf a lapiwyd yn ysblennydd.
A gwelwch y rhodd wedi ei dadlapio, yn Grist yr Atgyfodiad a’r Bywyd. Ac eleni eto, yn nathliadau’r Nadolig boed i bawb ohonom dderbyn o’r newydd y rhodd fwyaf a welodd y byd erioed. O’i derbyn, fe sylweddolwn ninnau bod hon yn rhodd sy’n ein llwyr fodloni, ac yn dwyn i ni lawenydd a gobaith mawr.
Cliciwch yma http://www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 22 Rhagfyr, 2013