Fûm i ddim yng Nghaerdydd ers tro byd. Hyd y cofiaf, unwaith yn unig y sylwais ar gopi o’r Daily Post ar werth mewn siop yn y Brifddinas, a hynny mewn siop bapur fechan dros y ffordd i’r Castell. Waeth i mi heb â chwilio amdano yn y siop honno na’r un siop arall y tro nesaf y byddaf yno, pryd bynnag fydd hynny. Mae perchnogion y papur wedi penderfynu na chaiff ei werthu yn unman i’r De o Aberystwyth eto. Mae llawer yn poeni y bydd gwleidyddion Y Senedd o’r herwydd yn gwybod llai fyth o hyn allan am ein hanghenion ni yn y Gogledd.
Ond trueni pethau yw mai ychydig a fydd yn gweld ei golli gan nad oes ond oddeutu 80 o gopïau o’r papur yn cael eu gwerthu yn y De, a’r cyfan ohonynt, mae’n debyg, yng Nghaerdydd. Bydd wedi diflannu o siopau’r De heb i’r rhelyw o bobl sylwi. Bydd yn dal ar gael yma yn y Gogledd wrth gwrs. Ond nid felly’r hen Liverpool Daily Post yr arferem ei dderbyn. Fersiwn arbennig o bapur Lerpwl ar gyfer Gogledd Cymru oedd y Daily Post y bu pobl y Gogledd yn ei ddarllen am flynyddoedd, nes iddo ddod yn bapur annibynnol yn 2003. Daliodd papur y Gogledd ei dir ers hynny, ond nid dyna fu hanes papur Lerpwl. Ym mis Ionawr 2012 trodd y Liverpool Daily Post yn Liverpool Post wrth i’r papur dyddiol fynd yn bapur wythnosol. Rwy’n cofio darllen am hynny ar y pryd. Ond wyddwn i ddim bod y papur, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1855, wedi dod i ben pan gyhoeddwyd y rhifyn olaf un ar Ragfyr 19, 2013.
Ond rhyfeddach na bod papur Lerpwl wedi diflannu heb i mi sylwi yw’r ffaith bod cymaint o bethau’n newid o fewn ein heglwysi heb i bobl sylwi arnynt. Mae aml i gapel wedi cau heb i bobl yr ardal sylwi. Ond nid pethau gwael yn unig chwaith, gan fod rhai pethau da’n digwydd heb i ni sylwi arnynt. Clywais rywrai’n rhyfeddu’n ddiweddar o ddeall bod Y Tyst, papur wythnosol yr Annibynwyr, yn dal i gael ei gyhoeddi. Roedden nhw’n credu iddo ddod i ben flynyddoedd yn ôl. Neu beth am yr holl weithgarwch Cristnogol sy’n cyflwyno’r Ffydd i blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw? Mae sawl elusen yn cynnal gwaith o’r fath ar hyd ac ar led y wlad. Mae llawer o weithwyr ifanc yn frwd dros rannu’r newyddion da am Iesu Grist. Mae yna ieuenctid yn cyfarfod yn gyson mewn capeli ac eglwysi. Mae yna doreth o adnoddau newydd yn cael eu darparu ar eu cyfer. Mae yna bobl ifanc sy’n dweud yn agored am eu cariad at yr Arglwydd Iesu. Mae yna gyfrannu hael at waith y Deyrnas. (Gredwch chi fy mod wedi derbyn llythyr ddoe ddiwethaf oddi wrth un teulu o’r tu allan i’r fro i addo £40 y mis at Gynllun Efe?) Oes, mae cymaint o bethau gwych a chalonogol yn digwydd, a ninnau heb sylwi arnynt o gwbl. Ac mae hynny’n drueni gan fod clywed am yr holl bethau da sy’n digwydd yng ngwaith y Deyrnas yn sicr o godi calon a rhoi i ni obaith mawr wrth i ninnau ymdrechu bob dydd yng ngwasanaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 26 Ionawr, 2014