Taith un ffordd

Galwch fi’n anwybodus; galwch fi’n amheuwr.  Ond mae’n anodd credu y  bydd yr holl fyd yn sôn am Ryan     MacDonald yn 2025.  Wrth gwrs, mae deuddeng mlynedd cyn hynny a does wybod beth a ddigwydd yn y cyfamser.  Ond ar hyn o bryd, mae Mr MacDonald ei hun yn gobeithio y bydd pawb yn gwybod amdano bryd hynny.

Mae enw Ryan MacDonald ar restr fer o bobl ar gyfer taith i’r blaned Mawrth.  Fe ymatebodd dros 78,000 i hysbyseb prosiect ‘Mars One’ am bobl a fydd ymhlith y teithwyr cyntaf i’r blaned honno.  Roedd Ryan yn un ohonynt.  Ond gan fod mil o bobl ar y rhestr ‘fer’  honno mae ganddo fo a’r 999 arall ffordd hir i’w cherdded cyn y byddan nhw ymhlith y 24 a fydd yn hyfforddi am saith mlynedd ar gyfer y daith.  Ac o’r 24, dim ond 4 a fydd yn gadael y Ddaear fis Ebrill 2024 ac yn glanio ar Fawrth ddechrau 2025.  Ond breuddwyd Ryan yw bod yn un ohonynt gan sicrhau y bydd cenedlaethau o bobl yn gwybod amdano ac yn ei gofio fel un o ymsefydlwyr cyntaf y blaned bell honno.

A’r gair ‘ymsefydlwyr’ sy’n gwneud y stori hon yn gyffrous ac yn drist yr un pryd.  Oherwydd yn wahanol i’r hyn a ddigwyddodd pan deithiodd Neil Armstrong i’r lleuad, ’dyw prosiect ‘Mars One’ ddim yn bwriadu dod â’r teithwyr cyntaf hyn, na’r bobl a fydd yn eu dilyn i blaned Mawrth, yn ôl i’r Ddaear.  Teithiau unffordd fydd ‘Mars One’ yn eu trefnu.

Er gwaethaf hynny, mae’r syniad o wneud y daith yn amlwg yn ddigon cyffrous i apelio at o leiaf 78,000 o bobl.  Mae rhywbeth trist yn y ffaith bod cymaint o bobl yn cael eu denu gan y posibilrwydd o adael y byd a phawb a phopeth sydd ynddo am byth.  Ond byddai’r bobl hynny, a phawb sy’n rhan o ‘Mars One’, yn dadlau mai’r ysbryd anturus hwn a wnaeth i bobl fentro erioed i rannau dieithr a phellennig y ddaear hefyd.

Fedra i ddim deall beth sy’n cymell Ryan MacDonald a’i debyg.  Ac eto, wrth glywed amdano caf f’atgoffa am rai o’r cenhadon a deithiodd o Gymru i bob rhan o’r byd pan oedd cyrraedd y mannau hynny (a dod nôl ohonynt) yn wahanol iawn i’r hyn ydyw heddiw.  Gadawodd rhai ohonynt gartref, teulu a ffrindiau i fynd â’r Efengyl i bobl nad oedd wedi ei chlywed o’r blaen.   Nid oedd ganddynt sicrwydd y deuent yn ôl o’r teithiau hynny, a’r gwir yw na ddaeth llawer ohonynt adref o gwbl.  Dyna, er enghraifft, fu hanes John Davies, a deithiodd o Faldwyn i Tahiti yn 1800 ac aros yno hyd ei farwolaeth yn 1855.  Felly hefyd David Jones o Geredigion, a aeth i Fadagascar yn 1818, yn 22 mlwydd oed. Bu farw ei wraig a’i blentyn, a’i gydweithiwr Thomas Bevan a’i wraig a’i blentyn yntau, o’r malaria wedi cyrraedd yno; ond arhosodd David Jones ar y maes cenhadol hyd ei farwolaeth yn 1841.  A’r cymhelliad dros y teithiau un ffordd hynny oedd cyflwyno Crist yn Arglwydd a Gwaredwr i bobl y byd.

 Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 12 Ionawr, 2014

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: