Kiev

Hanes dychrynllyd o drist a gafwyd o Wcráin a’i phrifddinas Kiev yr wythnos ddiwethaf.  Lladdwyd oddeutu 100 o bobl yno yng nghanol y protestiadau yn erbyn yr Arlywydd Viktor Yanukovych.  Dechreuodd y protestiadau hynny ym mis Tachwedd y llynedd, a chyrraedd eu penllanw’r dyddiau diwethaf hyn.  Ac er i gytundeb o fath gael ei arwyddo ddydd Gwener rhwng y llywodraeth a’r gwrthwynebwyr, mae’n amlwg nad oedd mwyafrif y protestwyr yn fodlon â hwnnw.  Erbyn ddoe, roeddent wedi meddiannu palas yr Arlywydd yn Kiev a’i orfodi i ffoi i ddinas arall, ac yn dal i alw am ei ymddiswyddiad wrth i’r cyn Brif-weinidog, Yulia Tymoshenko gael ei rhyddhau o gaethiwed mewn ysbyty.

Gobeithio’n fawr y daw heddwch i bobl Wcráin yn fuan, ac y ceir trefn gyfiawn a fydd yn rhoi sefydlogrwydd i’r wlad.

Roedd rhai o’r geiriau a glywyd gan bobl yr eglwysi yn Kiev yn ddigon i’n sobri. Offeiriad Uniongred yw Nikolai Himaylo, a bu’n gweini ar rai o’r bobl a fu farw yn y ddinas ddydd Mercher.  ‘Rwy’n dyst,’ meddai, ‘i’r hyn sydd wedi dod yn wladwriaeth droseddol. Ni ellir maddau i Yanukovych.  Mae’r bechgyn hyn yn marw dros ryddid.’

Ac meddai Alla Gedz, aelod o’r Eglwys Anglicanaidd yn Kiev, ‘Nid wyf yn cael fy nychryn erbyn hyn wrth weld cyrff marw … Rydym yn ddiolchgar iawn am eich gweddïau , oherwydd yng nghanol y chwyldro nid oes gennym heddwch goruwchnaturiol yn ein calonnau.’

Gweddïwn y bydd Duw yn rhoi i bobl Kiev ac Wcráin lonyddwch, ac y caiff cymod a chyfiawnder le amlwg wrth i’r bobl ail adeiladu eu gwlad ar seiliau cadarnach a thecach.

Mae’r geiriau a ddyfynnwyd yn rhoi i ni olwg ar brofiad rhai o Gristnogion y wlad.  Gan fod yr offeiriad Nikolai Himaylo yn credu mai’r Arlywydd ei hun oedd wedi gorchymyn i’w luoedd ymosod ar y protestwyr ni allai feddwl am faddau iddo.  Yn sŵn y bwledi ac yng nghanol y dioddefaint mae’n hawdd deall pam y dywedai’r fath beth, er bod yr Efengyl yn sôn am faddau hyd yn oed i elyn.

Ac mae’n hawdd cydymdeimlo ag Alla Gedz sy’n cyfaddef bod tangnefedd yn y galon yn brin yn y sefyllfa hon.  Er iddi gredu bod Duw gyda hi, realiti pethau yw ei bod yn anodd profi’r  tangnefedd yng ngwres y dydd.

Gall problemau ac anawsterau effeithio arnom.  Ac er i ninnau gredu yn naioni a chariad Duw, nid oes gennym ni chwaith y gallu i wynebu popeth ein hunain.  Ni fedrwn ohonom ein hunain faddau i bobl sy’n gwneud drwg i ni, ac ni ddaw tangnefedd yn rhwydd.  Ni feiddiwn feirniadu’r offeiriad am fethu â maddau, na’r ferch am fod yn brin o dangnefedd, ond cydymdeimlwn â hwy yn eu hymateb gonest i’w dicter a’u poen. Boed i Dduw eu nerthu, a rhoi iddynt y tangnefedd na ddaw ond oddi wrtho ef, a’u galluogi yn y man hyd yn oed i faddau i’w gelynion yn enw Iesu.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 23 Chwefror, 2014

Gadael sylw