Maen nhw’n deud eich bod yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Dowch i mi felly rannu â chi yr hyn a ddysgais i ddoe am y Grawys, y cyfnod o chwe wythnos rhwng Dydd Mercher Lludw a Sul y Pasg. Gwyddoch cystal â mi na roddodd yr eglwysi anghydffurfiol (neu bobl y capel) yr un sylw i’r Grawys ag a roddwyd gan Eglwyswyr. Y rheswm am hynny oedd bod yr anghydffurfwyr o’r cychwyn wedi rhoi mwy o bwys ar bethau fel defosiwn ac ymgysegriad personol nag ar ddefodau a gwyliau traddodiadol yr Eglwys Gristnogol. Ymateb oedden nhw i’r perygl o wneud Cristnogaeth yn fater o drefn ac arferiad yn hytrach na pherthynas fywiol â Duw trwy ei Fab Iesu Grist.
Erbyn hyn, mae llawer o gapeli’n rhoi sylw i’r Grawys, ac mae pob math o lyfrau a myfyrdodau yn ein papurau a’n cylchgronau Cristnogol sy’n ein helpu i wneud hynny. Ac felly, erbyn hyn mae yna lawer o gapelwyr sy’n penderfynu rhoi pethau arbennig heibio dros gyfnod y Grawys. Fel arfer, ymwrthod â bwyta rhyw fwydydd arbennig a wneir, fel cacen neu siocled.
Y cyfnod a dreuliodd Iesu Grist yn yr anialwch yn ymprydio cyn cychwyn ei weinidogaeth gyhoeddus yw sail y Grawys. Am ddeugain niwrnod bu yno’n ymprydio ac yn gweddïo gan geisio nerth Duw. Mae’r Grawys, felly, yn gyfle i Gristnogion ymwadu â’r hunan a cheisio cymorth Duw. Nid troi cefn ar Cadbury a Nestle a Thornton a wneir felly yn ystod yr wythnosau hyn cyn y Pasg ond troi cefn arnom ein hunain, a’n dymuniadau ni, a cheisio Duw a’i ewyllys ef. Fe all ymwadu â’r gacen hufen wneud lles i’r pwysau, ond nid dyna brif nod y Grawys ond dyfnhau’r berthynas â Duw.
Roeddwn i’n gyfarwydd â hyn oll o’r blaen. Ond mi sylweddolais i ddoe nad oeddwn wedi gwneud fy sỳms ynglŷn â’r Grawys, oherwydd mae yna 46 o ddyddiau o ddydd Mercher Lludw hyd Sul y Pasg. Pam 46? Pam nad 40 gan mai deugain niwrnod a dreuliodd Iesu yn yr anialwch?
Mae’r ateb yn syml. Nid yw’r 6 Sul yn ystod y Grawys yn cael eu cyfrif. (Bosib iawn eich bod chi’n gwybod hynny ers talwm, ond doeddwn i ddim.) Dydd o ddathlu yw’r Sul i’r Cristion – dathlu atgyfodiad Iesu Grist. Ac nid yw ymprydio yn gweddu i’r dathlu hwnnw. (Ond rhaid cyfaddef na wn i a yw hynny’n rhoi hawl i chi fwyta darn bach o siocled heddiw er eich bod yn cadw’r Grawys!)
Gyda llaw, mi ddysgais rywbeth arall ddoe am y gair ‘Grawys’ ei hun. Mae’n tarddu o’r gair Lladin quadragesima sy’n golygu ‘deugeinfed’. ‘Carawys’ oedd yr hen ffurf Gymraeg o’r gair ‘Grawys’.
Ond beth bynnag a wnawn ni o’r Grawys, gallwn gydnabod o’r newydd heddiw ein hangen am faddeuant a cheisio gras a chymorth i wir ymwadu â ni ein hunain a dilyn Iesu.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 30 Mawrth, 2014