Wrth yr enw

Yn rhifyn diweddaraf Eco’r Wyddfa rwy’n cyfeirio yn y golofn ‘Un funud fach’ at ddylanwad y Ffydd Gristnogol ar enwau cymaint o bentrefi Cymru.  Mae hynny’n wir am bentrefi’r Ofalaeth hon wrth gwrs.  Mae Llanberis a Nant Peris yn gysylltiedig â Sant Peris wrth gwrs.  Capel Ebeneser, wrth gwrs, a roddodd yr hen enw i bentref Deiniolen.    Ond beth am yr enw Deiniolen ei hun?  Mae hwnnw hefyd yn gysylltiedig â’r Ffydd.  Ond sut?

Does ond rhaid meddwl am blwyf ac Eglwys Llanddeiniolen i gael yr ateb, wrth gwrs.  Ac eto, mae’n rhaid i mi gyfaddef f’anwybodaeth gan i mi dybio mai’r sant perthnasol oed Deiniol –  yr un Deiniol ag a gysylltir ag Eglwys Deiniol Sant, y Gadeirlan ym Mangor.  Roedd Deiniol yn byw yn hanner cyntaf y Chweched Ganrif, ac fe sefydlodd  eglwys ym Mangor, lle bu’n abad ar gymuned o fynaich, mae’n debyg.

Ac enw ei fab ef oedd Deiniolen, a roes ei enw, felly, i Landdeiniolen ac yn fwy diweddar i bentref Deiniolen.  Roedd hwn yn byw yn ail hanner y Chweched Ganrif a dechrau’r Seithfed.  Bu hwn yn fynach ym Mangor-is-y-coed cyn iddo ddod i’r ardal hon a sefydlu eglwys yn Llanddeiniolen.  Wyddwn i ddim chwaith mai’r Deiniolen hwn, a elwid hefyd Deiniolfab a Deiniol Fab, yw’r ‘Daniel’ yn Llanddaniel Fab yn Sir Fôn.

Ychydig a ŵyr neb erbyn hyn am y dynion hyn o’r Chweched a’r Seithfed Ganrif a adwaenwn ni fel ‘saint’.  Prin yw’r ffeithiau a’r manylion, ond y peth pwysig, a’r hyn a wyddom, yw mai pobl yr Efengyl a’r Ffydd Gristnogol oedden nhw.  O ddyddiau cynnar iawn yn hanes ein gwlad, felly, gwyddom fod yr Efengyl yn rhan amlwg iawn o’i bywyd.  Roedd Deiniol a Deiniolen ac eraill tebyg iddynt yn crwydro’r wlad yn cyhoeddi’r Efengyl ac yn sefydlu eglwysi.

Tra bydd y pentrefi hyn yn dwyn yr enwau arbennig sydd iddynt, bydd rhyw gyswllt annatod â’r Ffydd.  Ond gweddïwn na ddaw’r dydd y bydd y cyswllt hwnnw yn ddim ond atgof pell am hen, hen seintiau fel Padarn, Peris a Deiniolen neu seintiau mwy diweddar y Ddeunawfed a’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a sefydlodd y capeli a fu’n britho ein pentrefi a’n hardal.

Ond a bod yn greulon o onest, y gwir yw bod hynny eisoes yn wir i lawer o bobl y bröydd hyn.  Rhywbeth sy’n rhan o orffennol ein pentrefi a’n gwlad yw’r Ffydd Gristnogol iddynt hwy.  Mae mor fyw yn eu golwg â’r capeli a gaewyd ac a ddymchwelwyd.  Ac mae hynny’n rhan o drasiedi fawr ein gwlad yn ail hanner y ganrif ddiwethaf a dechrau’r ganrif bresennol.

Ond nid oes rhaid iddi fod felly gan mai’r Duw Byw yw ein Duw ni.  Gweddiwn y bydd yr Arglwydd yn bendithio eglwysi ein hardal heddiw fel y bydd y dystiolaeth i Iesu Grist yn dal yn fyw, a hyd yn oed yn fwy grymus, yfory a phob yfory arall.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 02 Mawrth, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: