Gwinwydden

Beth ddaw o’r holl goed a syrthiodd ers dechrau’r flwyddyn?  Lle bynnag yr ewch chi, mae yna goed a chwythwyd drosodd gan wyntoedd cryfion y gaeaf, ac amryw ohonynt yn amlwg wedi eu rhwygo o’r gwraidd gan rym y gwynt.  Fwy na thebyg y bydd y rhan fwyaf yn cael eu torri’n goed tân, a bydd galw mawr amdano gan fod gan fwy a mwy o bobl stofiau llosgi coed erbyn hyn.  Ond siawns y bydd modd gwneud defnydd gwell o rywfaint o’r coed hyn gan fod y pren yn rhy dda i’w losgi.  Tybed a ddefnyddir peth ohono, er enghraifft, i wneud dodrefn cain?

Sonnir am amrywiaeth mawr o goed yn Y Beibl, a hwnnw’n cael ei ddefnyddio i wahanol bwrpas.  Defnyddid coed cyprys i wneud Arch Noa, er enghraifft; coed cedrwydd ar gyfer Teml Solomon; coed ffynidwydd a phinwydd ar gyfer cychod ac adeiladau; a choed derw i wneud rhwyfau.

Ond dywed Y Beibl nad yw pob pren yn ddefnyddiol.  Rhan o neges Eseciel y proffwyd oedd y geiriau hyn a lefarodd Duw am y winwydden, ‘A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?’  Fedrwch chi wneud dim â phren y winwydden; ddim hyd yn oed hoelen i hongian rhywbeth arno – ddim hyd yn oed beg dillad!  Yr unig beth y gellir ei wneud ag ef, medd Duw, yw  ei losgi.  A thrwy’r darlun hwn, mae Duw’n rhybuddio cenedl Israel y bydd hi fel y winwydden, yn cael ei ’difa’ pan fydd ef yn ei barnu am ei hanffyddlondeb a’i hanufudd-dod iddo ef (Eseciel 15).

Ond os nad oes modd gwneud dim â’r pren, y mae i’r winwydden hithau ei gwerth wrth gwrs.  Os na ellir gwneud dodrefnyn, na hyd yn oed beg dillad ohoni, y mae’n rhoi grawnwin!  Y mae’n dwyn ffrwyth.  A dyna’n union yw ei phwrpas.

A’r syniad o ddwyn ffrwyth a wnaeth i Iesu Grist ei ddisgrifio ei hun fel ‘y wir winwydden’ a’i ddisgyblion fel canghennau’r winwydden honno.  Trwy eu perthynas ag ef y mae ei ddisgyblion i ddwyn ffrwyth, sef pob math o weithredoedd da.  Os nad yw’r canghennau’n dwyn ffrwyth, does dim i’w wneud ond eu taflu a’u llosgi.

Fel disgyblion i Iesu Grist, pwrpas mawr ein bywyd yw dwyn ffrwyth er clod i Dduw; gweithredu mewn cariad ac ufudd-dod iddo ef.  Ac os ydym yn dwyn y ffrwyth hwn, gallwn fod yn fodlon ein bod yn cyflawni bwriadau Duw ar ein cyfer.

Mae’r cyfan yn dibynnu ar y berthynas â Iesu.  Defnyddiodd Iesu ddarlun y winwydden am fod cenedl Israel wedi meddwl amdani ei hun fel gwinwydden yr Arglwydd.  ‘O Dduw’r  lluoedd,’ medd y Salmydd (yn Salm 80)  ‘gofala am y winwydden hon, y planhigyn a blennaist â’th ddeheulaw’ (80:14–15). Ond roedd rhaid i’r pren hwnnw ddwyn ffrwyth, fel y dangosodd Duw wrth rybuddio’r genedl trwy Eseciel.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 09 Mawrth, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: