Penwythnos Plant 8–12 oed
yn Ngholeg Y Bala
Nos Wener, Mai 16 – Dydd Sul, Mai 18, 2014
Ffurflenni a manylion llawn gan y Gweinidog
Enwau erbyn nos Iau, Mai 8 os gwelwch yn dda
er mwyn gwneud yn siwr o’ch lle
Enwau erbyn nos Iau, Mai 8 os gwelwch yn dda
er mwyn gwneud yn siwr o’ch lle
Gwell hwyr na hwyrach, meddan nhw. A rhyfedd fel y medrwch chi gymryd pethau’n ganiataol am hydoedd. Newydd sylweddoli ydw i nad wyf yn unman wedi egluro pam y rhois i’r enw Gronyn i’r daflen wythnosol hon. Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi gwneud hynny ar y cychwyn, ond o fwrw golwg sydyn dros hen rifynnau, fedraf fi ddim gweld unrhyw gyfeiriad o gwbl at yr enw.
Felly pam y teitl Gronyn? Hyd y gwelaf, yr unig beth a ddywedais ar y cychwyn oedd mai peth bychan ydi gronyn ac mai peth bychan oedd y daflen hon i fod. Fe wyddwn fod gan rai eglwysi gylchgrawn misol neu chwarterol; ond doeddwn i ddim yn bwriadu cyhoeddi cylchgrawn na dim byd uchelgeisiol. Y bwriad oedd cyhoeddi taflen fechan i roi pwt o newyddion a’r gronyn lleiaf o neges Gristnogol bob wythnos.
Ond roedd i’r teitl fwy o arwyddocâd na hynny. Yng nghefn fy meddwl roedd y cyfeiriadau at ‘ronyn’ yn y Testament Newydd sy’n cyfleu’r bywyd a’r tyfiant sy’n rhan o neges yr Efengyl.
Mae Iesu Grist yn cymharu teyrnas Dduw i ‘ronyn o had mwstard’ (Marc 4:31, yr hen gyfieithiad). Mae’n egluro mai’r hedyn hwn yw’r lleiaf o’r holl hadau, ond bod pren cadarn yn tyfu o’r gronyn bychan hwn.
Mae Iesu’n cyfeirio at yr hedyn hwn eto pan ddywed yn Luc 17:6 y gallai ei ddisgyblion ddadwreiddio coeden ‘pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard’.
Ac felly, o gofio’r hyn a ddywedodd Iesu am y gronyn hwn, roedd y gair yn swnio’n addas fel teitl i daflen a allai fod yn ddefnyddiol yng ngwasanaeth Duw a’r Efengyl er gwaetha’r ffaith mai rhywbeth bychan iawn ydoedd. Nid oes rhaid i bethau fod yn fawr er mwyn bod o ddefnydd i’r Arglwydd. Ac mae hynny’n parhau’n gysur, ac yn ysgogiad dros ddal i gyhoeddi Gronyn bob wythnos. Mae cyn lleied heddiw ag ydoedd nôl ym mis Medi 2001 pan ddechreuwyd ei gyhoeddi bob Sul, ond os yw’n offeryn i gyhoeddi cysur a gobaith yr Efengyl mae’n cyflawni ei ddiben.
Ond roedd un adnod arall y tu cefn i’r enw. Wrth drafod yr atgyfodiad dywed Paul ‘A’r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai neu o ryw rawn arall (1 Corinthiaid 15:37). Mae’r gronyn yma’n symbol o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist. Caiff y gronyn gwenith ei roi yn y pridd, ac ohono daw’r cynhaeaf; a defnyddia Paul hynny fel darlun o’r atgyfodiad a’r corff nefol a gaiff y Cristion, er i’w gorff daearol farw a chael ei gladdu. I Paul, roedd y gronyn gwenith a gladdwyd yn addewid o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol yng Nghrist. A’m bwriad innau oedd y byddai Gronyn yn cyflwyno’r gobaith hwnnw. A dyna’r bwriad o hyd wrth gwrs.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 27 Ebrill, 2014
Hynt yr awyren o Malaysia oedd yr un stori fawr o gyfandir Asia a hawliodd ein sylw ers iddi hi a’r 239 o bobl oedd ynddi ddiflannu saith wythnos i ddoe. Ond ers dydd Mercher ychydig o sylw a roddwyd i’r chwilio am yr awyren yng Nghefnfor India gan fod y sylw wedi troi at golli’r llong fferi, Seowl, oddi ar arfordir De Corea. O fewn dim, roedd y llong wedi suddo gan ladd mae’n debyg 302 o’r 476 o bobl oedd arni. Roedd mwyafrif y teithwyr yn ddisgyblion ac athrawon Ysgol Uwchradd Danwon, ac ofnir bod dros 250 ohonynt wedi marw.
Un ychwanegiad trist at y drychineb oedd hunanladdiad ymddangosiadol Kang Min-Kyu, dirprwy-bennaeth yr ysgol. Roedd wedi ei achub o’r llong, ond daethpwyd o hyd iddo ddydd Gwener wedi ei grogi. Credir iddo’i ladd ei hun oherwydd teimlad o euogrwydd iddo ef gael ei achub wrth i gannoedd o’i ddisgyblion farw.
Roedd yn Groglith ddydd Gwener pan ddoed o hyd i gorff Kang Min-Kyu. Yng nghanol digwyddiadau’r diwrnod bythgofiadwy hwnnw y croeshoeliwyd Iesu cafwyd hunanladdiad dyn arall a deimlai euogrwydd mawr. Ei grogi ei hun a wnaeth Jwdas Iscariot hefyd, wedi iddo sylweddoli ei fod wedi ‘bradychu dyn dieuog’ (Mathew 27:4).
Mae’r ddau hunanladdiad yn dangos mor anodd yw byw gydag euogrwydd. Mae hawdd deall euogrwydd Jwdas am fod ei bechod ef yn amlwg. Gwerthodd y disgybl hwn ei gyfaill a’i arweinydd am ddeg darn arian ar hugain. A phan welodd fod Iesu wedi ei gondemnio, roedd yr euogrwydd yn ormod iddo. Euogrwydd gwahanol a deimlai Kang Min-Kyu, ond mae’n gyffredin i lawer sy’n cael eu harbed mewn damweiniau a digwyddiadau eraill sy’n lladd pobl eraill. Nid yw’r bobl hyn o reidrwydd ar fai o gwbl, ond maen nhw’n methu â pheidio teimlo’n euog eu bod nhw wedi byw ac eraill wedi marw.
Mae’n Basg heddiw, a dyma ninnau’n uno gyda Christnogion ym mhob rhan o’r byd i ddathlu atgyfodiad Iesu Grist. Ac wrth i ni gyhoeddi ar Sul y Pasg fod y dyn dieuog a fu farw ar Galfaria wedi dod yn ôl yn fyw, fe gyhoeddwn hefyd mai un peth sy’n dilyn hynny yw bod maddeuant ar gael i bobl sy’n ymdeimlo ag euogrwydd am bob math o bethau. Oherwydd marw a wnaeth Iesu Grist er mwyn sicrhau maddeuant i bobl. Fe gymerodd y bai am ein pechodau ar y groes, ac mae’n barod yn awr i gymryd yr holl euogrwydd oddi arnom. Oes, mae maddeuant am bob bai, a pherffaith ryddhad oddi wrth bob euogrwydd yn Iesu Grist.
Dyna un o fendithion mwyaf Efengyl Crist sy’n ein gwahodd i gydnabod ein beiau a chredu yn yr Iesu. Trueni mwyaf Jwdas oedd nid ei fod wedi bradychu Iesu ond ei fod wedi methu â galw am ei faddeuant. Boed i Efengyl y maddeuant a’r rhyddhad oddi wrth euogrwydd lewyrchu yng nghanol y byd hwn sy’n llawn o boen a gofid.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Sul y Pasg, 20 Ebrill, 2014
Pasg Efe – Ysgol Gynradd Llanrug, Ebrill 14, 2014
Cliciwch =”http://www.gronyn.wordpress.com/croeso/efe/ i weld rhagor o luniau a darllen yr hanes
Beth fyddwch chi’n ei ddarllen – ar wahân i Gronyn wrth gwrs! Papur newydd? Cylchgronau? Nofelau? Llyfrau Taith?
Tybed faint ohonoch sy’n mwynhau hunangofiannau neu gofiannau. Mae yna fynd mawr ar lyfrau felly sy’n rhoi cipolwg i ni ar fywydau gwleidyddion, diddanwyr, athletwyr a phob math o bobl anarferol a chyffredin, diddorol a diflas, hen ac ifanc.
Mae efengylau’r Testament Newydd yn gofnod o fywyd yr Arglwydd Iesu, yn gofiant ar un ystyr. Ac eto, nid cofiant cyffredin mo’r hyn a gawn ni yno. Yn un peth, mae yna ormod o fylchau yn yr hanes. Cawn wybod cryn dipyn am ei enedigaeth, ond ychydig iawn a ddywedir wedyn am ei blentyndod a’i lencyndod. Dim ond un stori a gawn ni mewn gwirionedd, sef yr un amdano’n ddeuddeg oed yn dysgu’r athrawon yn y Deml yn Jerwsalem.
Mae popeth arall a ddywedir amdano’n perthyn i dair blynedd ei weinidogaeth gyhoeddus. Cofiant annigonol iawn fyddai un sy’n canolbwyntio’n llwyr bron ar gyfnod mor fyr ym mywyd y gwrthrych. Ond rhyfeddach fyth fyddai i’r awdur neilltuo bron i chwarter y cofiant i wythnos olaf un y person dan sylw. Nid dyna’r math o gydbwysedd y bydd darllenwyr yn ei ddisgwyl mewn cofiant da. Ond dyna a geir yn yr efengylau; a dyna sy’n eu gwneud yn wahanol iawn i bob cofiant arall a ddarllenoch chi erioed.
Ac fe ddechreuodd yr wythnos olaf honno gyda’r orymdaith i Jerwsalem a gofiwn ni heddiw ar Sul y Blodau. Ymhlith y pethau a ddigwyddodd wedyn ddechrau’r wythnos honno roedd troi’r byrddau arian yn y Deml, a phenderfyniad Jwdas i dderbyn arian am fradychu Iesu. Ond mae’r sylw mwyaf i ddigwyddiadau nos Iau a dydd Gwener yr wythnos fawr honno. A’r ffaith bod cymaint o sylw’n cael ei roi i oriau olaf ac i farwolaeth Iesu sy’n gwneud adroddiadau’r efengylau mor rhyfeddol. A pham y fath sylw? Am fod marwolaeth Iesu Grist yn rhan mor bwysig o’i weinidogaeth. Ond nid arwydd neu symbol o gariad Duw oedd y groes, ond gwaith. Doedd dim rhaid i Iesu gael ei groeshoelio er mwyn dangos ei gariad a’i dosturi at bobl; roedd wedi dangos y pethau hyn ymhell cyn hynny. Ni ofynnodd Duw i’w fab ddioddef ar Galfaria er mwyn dangos ei gariad atom, ond er mwyn gwneud rhywbeth drosom. Gwaith oedd marwolaeth Iesu; gwaith na ellid ei wneud (hyd yn oed gan Iesu ei hun) ond trwy farw. A’r Pasg hwn eto, fe gofiwn yn ddiolchgar y gwaith hwnnw o gymryd y cyfrifoldeb a’r bai am ein pechodau a dioddef y gosb amdanynt. Trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad mae Iesu wedi cymryd ein beiau ni oddi arnom ac wedi mynd â nhw i’r groes, a dioddef cael ei wrthod gan Dduw ei Dad yn ein lle. Dyna ffordd Duw o ddelio â’n pechodau a’i gwneud yn bosibl i ni gael perthynas iawn ag Ef ei hun. Dathlwn a diolchwn am y gwaith hwnnw yr Wythnos Fawr hon.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014
Beth am gwis bach i ddechrau heddiw? Am bwy ydw i’n sôn? Eglwyswraig, a aned yn Wolverhampton ond a fagwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr; addysgwyd yn Ysgol Gyfun Brynteg (yr un ysgol â Carwyn Jones, y Prifweinidog, Nicole Cooke, y bencampwraig Olympaidd, Gavin Henson a sawl chwaraewr rygbi rhyngwladol arall); Aelod Seneddol Basingstoke ers 2005; Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth San Steffan ers 2012; a’r wraig a siaradodd am 32 o eiliadau yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau diwethaf.
Pwy yw hi? Maria Miller. Gorfu iddi ymddiheuro ddydd Iau ‘am ei hagwedd at ymholiadau’r comisiynydd’. Roedd a wnelo’r holl beth ag ymchwiliad i’r costau yr oedd hi wedi eu hawlio fel aelod seneddol. Anghofiwch fanylion yr achos hwnnw am y tro. Nid be wnaeth Mrs Miller, neu be na wnaeth hi sy’n gwneud i mi sôn amdani heddiw ond yr hyn a ddywedwyd ar ddiwedd yr adroddiad amdani ar Newyddion Deg nos Iau. Doedd dim peryg, meddid, iddi golli ei lle yn y cabinet (er bod yr wrthblaid yn galw am hynny). Ond, meddai’r gohebydd, fe allai gael ei ‘symud’. A’r awgrym oedd mai i’r Swyddfa Gymreig y byddai hynny!
Ac roedd rhaid i mi chwerthin! Roedd y peth mor drist. Be wnewch chi ag aelod seneddol sydd wedi gorfod deud sori’n gyhoeddus pan yw’r gwrthwynebwyr yn galw am ei hymddiswyddiad? Wel, ei hanfon i’r Swyddfa Gymreig wrth gwrs. Mae hynny cystal cosb â dim.
Os oedd unrhyw wirionedd yn hyn, mae dirmyg Llywodraeth Llundain at Gymru yn gwbl amlwg. Nid yn erbyn Mrs Miller y mae fy nghwyn, ond yn erbyn pwy bynnag a awgrymodd y byddai Cymru’n lle da i anfon rhywun sy’n dipyn o embaras i’r Llywodraeth ar hyn o bryd.
Ond beth sydd a wnelo hyn oll â’r Ffydd Gristnogol, a pham ei drafod yn Gronyn heddiw? Os yw’n wir, mae’n enghraifft dda o ymddygiad a ddylai fod yn annerbyniol i Gristnogion. Yn gyntaf, gweithredu heb feddwl am deimladau pobl eraill. Yn ail, disgwyl i bobl eraill oddef rhywbeth na fyddech chi eich hun yn ei oddef – mae’n iawn iddyn nhw, ond nid i ni! Ac yn drydydd, methu amddiffyn cydweithiwr pan fo eraill yn galw am ei gwaed. Os yw Mrs Miller yn ddigon da i’r Swyddfa Gymreig fe ddylai fod yn ddigon da i’w swydd bresennol hefyd.
Dyna dair egwyddor a ddylai gael eu parchu gan ddisgyblion Grist: ystyried buddiannau pobl eraill ym mhob peth a wnawn; bod yn anfodlon gweld pobl eraill mewn amgylchiadau na fyddem ni ein hunain yn eu goddef; a gwarchod cyfeillion a chydweithwyr pan fo eraill yn ymosod arnynt, hyd yn oed os ydynt wedi gwneud pethau na allwn ni ein hunain eu cymeradwyo. Yn sicr, maen nhw’n egwyddorion a ddylai gael eu dilyn o fewn cymdeithas yr Eglwys Gristnogol, lle mae parch a chymorth a maddeuant yn teyrnasu, er gogoniant i Dduw.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 06 Ebrill, 2014
Bydd cyfle i blant ysgolion Sul Llanberis a Deiniolen fynd i Goleg y Bala ar ein cwrs penwythnos blynyddol o nos Wener, Mai 16 hyd ddydd Sul, Mai 18.
Bydd hwn ar gyfer plant 8–12 oed (Blwyddyn 3–6).