Yr Wythnos Fawr

Beth fyddwch chi’n ei ddarllen – ar wahân i Gronyn wrth gwrs! Papur newydd? Cylchgronau? Nofelau? Llyfrau Taith?

Tybed faint ohonoch sy’n mwynhau hunangofiannau neu gofiannau. Mae yna fynd mawr ar lyfrau felly sy’n rhoi cipolwg i ni ar fywydau gwleidyddion, diddanwyr, athletwyr a phob math o bobl anarferol a chyffredin, diddorol a diflas, hen ac ifanc.

Mae efengylau’r Testament Newydd yn gofnod o fywyd yr Arglwydd Iesu, yn gofiant ar un ystyr. Ac eto, nid cofiant cyffredin mo’r hyn a gawn ni yno. Yn un peth, mae yna ormod o fylchau yn yr hanes. Cawn wybod cryn dipyn am ei enedigaeth, ond ychydig iawn a ddywedir wedyn am ei blentyndod a’i lencyndod. Dim ond un stori a gawn ni mewn gwirionedd, sef yr un amdano’n ddeuddeg oed yn dysgu’r athrawon yn y Deml yn Jerwsalem.

Mae popeth arall a ddywedir amdano’n perthyn i dair blynedd ei weinidogaeth gyhoeddus. Cofiant annigonol iawn fyddai un sy’n canolbwyntio’n llwyr bron ar gyfnod mor fyr ym mywyd y gwrthrych. Ond rhyfeddach fyth fyddai i’r awdur neilltuo bron i chwarter y cofiant i wythnos olaf un y person dan sylw. Nid dyna’r math o gydbwysedd y bydd darllenwyr yn ei ddisgwyl mewn cofiant da. Ond dyna a geir yn yr efengylau; a dyna sy’n eu gwneud yn wahanol iawn i bob cofiant arall a ddarllenoch chi erioed.

Ac fe ddechreuodd yr wythnos olaf honno gyda’r orymdaith i Jerwsalem a gofiwn ni heddiw ar Sul y Blodau. Ymhlith y pethau a ddigwyddodd wedyn ddechrau’r wythnos honno roedd troi’r byrddau arian yn y Deml, a phenderfyniad Jwdas i dderbyn arian am fradychu Iesu. Ond mae’r sylw mwyaf i ddigwyddiadau nos Iau a dydd Gwener yr wythnos fawr honno. A’r ffaith bod cymaint o sylw’n cael ei roi i oriau olaf ac i farwolaeth Iesu sy’n gwneud adroddiadau’r efengylau mor rhyfeddol. A pham y fath sylw? Am fod marwolaeth Iesu Grist yn rhan mor bwysig o’i weinidogaeth. Ond nid arwydd neu symbol o gariad Duw oedd y groes, ond gwaith. Doedd dim rhaid i Iesu gael ei groeshoelio er mwyn dangos ei gariad a’i dosturi at bobl; roedd wedi dangos y pethau hyn ymhell cyn hynny. Ni ofynnodd Duw i’w fab ddioddef ar Galfaria er mwyn dangos ei gariad atom, ond er mwyn gwneud rhywbeth drosom. Gwaith oedd marwolaeth Iesu; gwaith na ellid ei wneud (hyd yn oed gan Iesu ei hun) ond trwy farw. A’r Pasg hwn eto, fe gofiwn yn ddiolchgar y gwaith hwnnw o gymryd y cyfrifoldeb a’r bai am ein pechodau a dioddef y gosb amdanynt. Trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad mae Iesu wedi cymryd ein beiau ni oddi arnom ac wedi mynd â nhw i’r groes, a dioddef cael ei wrthod gan Dduw ei Dad yn ein lle. Dyna ffordd Duw o ddelio â’n pechodau a’i gwneud yn bosibl i ni gael perthynas iawn ag Ef ei hun. Dathlwn a diolchwn am y gwaith hwnnw yr Wythnos Fawr hon.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: