‘Pam bod y fan wen acw yng nghanol y cae?’ meddwn wrth nesáu at y gylchfan rhwng Bethel a Chaernarfon y dydd o’r blaen. Fedrwn i yn fy myw â gweld pam bod y fan wedi ei pharcio yng nghanol y cae, heb ddim na neb o’i chwmpas. Ond wedi croesi’r gylchfan a dod yn nes ati, daeth pethau’n eglur. Ar ochr y fan roedd arwydd ac arno’r geiriau, ‘Os ydych eisiau llogi’r fan hon, ffoniwch …’. Wnes i ddim dal sylw o’r rhif ffôn, ond mae’n debyg y byddwn wedi gwneud mwy o ymdrech i wneud hynny pe byddwn angen llogi fan ar y pryd. Ond un peth y gwnes i sylwi arno oedd bod gosod y fan yng nghanol y cael wedi bod yn dacteg effeithiol. Mae’n debyg nad fi oedd yr unig un i sylwi arni a meddwl pam ei bod yno. Ac mae’n ddigon posibl bod ambell un a’i gwelodd eisiau llogi fan o’r fath, a bod perchennog y fan wedi cael rhywfaint o fusnes.
Wn i ddim a dorrwyd rheolau cynllunio ai peidio wrth osod y fan yn y cae. Wedi’r cwbl, chaiff pobl ddim gosod pob math o arwyddion o gwmpas y lle yn ôl eu mympwy. Ond roedd parcio’r fan yn y cae yn ddigon effeithiol yn yr achos hwn gan ei bod wedi tynnu sylw pobl at y ffaith bod modd ei llogi.
Mae gennym fel eglwysi rywbeth gwell na fan wen i’w gynnig. Mae gennym Waredwr ac Arglwydd bywyd yn Iesu Grist. Nid cynnig i bobl ei gael dros dro yr ydym ond estyn gwahoddiad i bobl ei gael am byth. Ac nid gwahodd pobl i’w gael trwy dalu amdano mewn unrhyw ffordd a wnawn ond cyhoeddi bod y Gwaredwr hwn i’w gael yn rhad ac am ddim i bawb sy’n cydnabod eu hangen amdano.
Oes, mae gennym neges arbennig iawn am y person mwyaf a fu erioed. Mae’n neges sydd, o’i derbyn, yn gallu newid bywydau. Mewn gwirionedd, mae’n neges sydd wedi newid y byd cyn hyn, ac fe all newid y byd yr ydym ninnau’n byw ynddo heddiw. Ond y cwestiwn mawr i’w ofyn yw pa mor effeithiol yw ein hymdrechion ni i gyhoeddi’r neges. Fe allem osod arwydd mawr mewn cae i dynnu sylw ati, fel mae rhai eglwysi yn ei wneud wrth osod adnodau neu neges ar boster y tu allan i’r capel. Mewn rhyw ystyr, mae Gronyn yn gwneud rhywbeth tebyg bob wythnos gan na wyddon yn union pwy sy’n ei weld a’i ddarllen, un ai ar bapur neu ar sgrin cyfrifiadur. Ond beth bynnag yw gwerth y mae hwn o ‘hysbysebu’ neges yr Efengyl, ni allwn fodloni arno gan fod gwir efengylu a chyhoeddi Crist yn golygu dweud y newydd da amdano wrth bobl benodol. Nid cyhoeddi mewn gwagle, yn y gobaith y gall rhywun yn rhywle glywed ein neges, a wnawn ni. Mae angen cyhoeddi Crist wrth gyfeillion a chymdogion; mae angen rhannu’r newyddion da â phawb o’n cwmpas gan weddïo y bydd y bobl sy’n clywed yn cael gras i gredu’r hyn a gyhoeddir am yr Arglwydd Iesu Grist. Mae yna le i hau’r had heb fod gennym y syniad lleiaf ym mhle y bydd yn syrthio. Oes yn sicr. Ond rhaid anelu’r neges hefyd at bobl benodol.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 25 Mai, 2014