Ann Magurie

Un o ddigwyddiadau trist yr wythnos ddiwethaf oedd marwolaeth Mrs Ann Maguire, yr athrawes a laddwyd wrth ei gwaith yn ei hysgol yn Leeds. Mae’n debyg bod y dref honno’n ddigon dieithr i’r mwyafrif ohonom. Hyd y cofiaf, unwaith yn unig y bum i yng nghanol y dref, er i mi fynd heibio iddi ambell dro arall.

Nid yw Leeds mor bell ag yr arferwn i feddwl. Mae hi lai na 150 o filltiroedd o Lanberis. Ond diolch am hynny, mae’r hyn a ddigwyddodd yn yr ysgol yno ddydd Llun diwethaf yn beth dieithr iawn i ni yn y rhan hon o Gymru. Mae Leeds a phentrefi Arfon yn bell iawn oddi wrth ei gilydd yn y cyswllt hwn. Ac eto, nid mor bell â hynny chwaith, gan na fyddai pobl ardal Halton Moor yn Leeds wedi dychmygu y gallai’r fath beth ddigwydd yn eu plith hwy cyn dydd Llun. A’r gwir am drasiediau o’r fath o hyd yw bod pob cymuned sy’n eu dioddef yn dweud na fydden nhw wedi dychmygu y gallai’r pethau erchyll hyn ddigwydd yn eu plith hwy. Y gwir trist yw y gall pethau ddigwydd yn unman gan fod gweithredoedd drwg yn codi o’r gallon ddrwg, ac nid yw’r gallon ddrwg wedi ei chyfyngu i rai mannau.

Ond wrth gydnabod hyn, nid codi braw nac awgrymu bod perygl gwironeddol i rywbeth o’r fath ddigwydd yn nes atom a wneir. Digwyddiad cwbl eithriadol ac anarferol oedd yr hyn a gafwyd yn Leeds. A gallwn ddiolch i Dduw am hynny, wrth gwrs. Gallwn ddiolch bod ein hysgolion yn llefydd diogel, ac ni ddylem orymateb i’r digwyddiad trasig hwn a meddwl bod ein hysgolion wedi troi’n llefydd peryglus dros nos.

A gallwn weddio y bydd pawb yn yr ysgol hon – yn ddisgyblion, athrawon, staff a rhieni – yn cael cymorth a nerth yng nghanol y tristwch a’r braw a’r galar a deimlant ar hyn o bryd. Y mae Duw yno yng nghanol eu dryswch a’u trallod. Mae’n rhwydd iawn dweud hynny, wrth gwrs; ond mae’n wir. Y peryg weithiau yw ein bod yn dweud bod Duw yno pan fo popeth o’n plaid, a’n bod ninnau’n medru diolch am gael ein cadw rhag y pethau drwg hyn. Ond mae Duw yno o hyd. Roedd yno yn Leeds ddydd Llun pan laddwyd Mrs Ann Magurie. Roedd yno’n gweld y cyfan, ac yn caniatau’r cyfan. Am ba reswm, ni allwn ddweud, ddim mwy nag y gallwn ddweud pam ei fod yn caniatau i’r holl bethau drwg eraill ddigwydd i ni. Ond nid yw Duw am i ni ei gyfyngu i’r mannau a’r adegau da yn unig. Nid Duw ydyw sy’n dweud ei fod gyda ni yn unig pan fo popeth yn mynd o’n plaid a phopeth yn rhwydd. Nid Duw ydyw sydd am i ni ddiolch am ei bresenoldeb mewn hawddfyd yn unig, fel pe byddai’n anghofio amdanom pan fo pethau’n galed. Gweddiwn y bydd pobl Leeds, yn cynnwys teulu’r bachgen a gyhuddwyd o lofruddio’r athrawes, yn profi nerth a chysur Duw yn eu poen a’u dryswch. A gweddiwn dros y bachgen ei hun, y bydd yntau hyd yn oed yn profi agosrwydd y Duw sy’n galw ar bawb i edifeirwch.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 04 Mai, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: