Tegwch

O na! Does gen i ond dau funud i gyrraedd diwedd y golofn nesaf neu mi fyddaf wedi colli dechrau steddfod fawr flynyddol Ewrop. Ydi, mae’n noson yr ‘Eurovision Song Contest’ unwaith eto. Wn i ddim a wrandawa i ar y canu chwaith, ond rydw i’n edrych ymlaen at weld y marciau’n cael eu cyhoeddi.

Cystadleuaeth od ydi hon erbyn hyn, yn arbennig o safbwynt y cyfryngau Prydeinig sydd erbyn hyn wedi rhoi heibio pob gobaith o weld pwy bynnag sy’n cynrychioli’r gwledydd hyn yn dod i’r brig. Mae cyflwynwyr y BBC yn gwneud sbort o’r cyfan, yn rhannol mae’n debyg, am eu bod yn gwybod na fydd fawr o werthfawrogiad o’r gân Brydeinig.

Un peth sy’n sicr yw y bydd amryw o’r gwledydd yn rhoi’r marciau gorau i’w cymdogion daearyddol a’u cyfeillion gwleidyddol heno eto. Beth bynnag yw safon y gân, gallwch fentro y bydd y marciau llawn yn ddiogel. Hynny sy’n gwneud y canlyniadau ar ddiwedd y noson mor ddifyr, ac eto mor ddiflas hefyd. Mae ambell i gân dda yn siŵr o gael marciau sâl, a mwy nag un wlad yn siŵr o gael cam. A does dim yn sicrach nag y bydd mwy nag un gân wael wedi cael marciau ardderchog. Peth felly yw’r steddfod hon. Fydd yna fawr o degwch heno oherwydd y duedd i ffafrio cymdogion. Mae’n anodd meddwl bod tegwch yn bosib pan fydd rhai perfformwyr yn cael mwy na’u haeddiant ac eraill yn cael llawer llai na’u haeddiant hwy.

Onid ydi tegwch yn golygu bod pawb yn cael ei haeddiant? Ydi, fel arfer, wrth gwrs. Ac eto fel arall y mae hi efo’r Efengyl Gristnogol. Oherwydd neges fawr yr Efengyl yw bod Duw yn estyn maddeuant i bobl sydd ddim yn ei haeddu. Does yr un ohonom yn haeddu cariad Duw, ond fe’i cawn. Does yr un ohonom yn haeddu’r bywyd tragwyddol, ond fe’i cawn yn rhodd gan Dduw. Yr hyn a haeddwn yw cael ein gwrthod ganddo, ond nid dyna a gawn o gwbl os rhoddwn ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu.

Ac er mwyn i ni gael yr hyn nad ydym yn ei haeddu roedd rhaid i Iesu hefyd gael yr hyn nad oedd ef yn ei haeddu. Nid oedd Iesu’n haeddu cael ei wrthod gan Dduw, ond dyna a gafodd er ein mwyn ni. A dyma fawredd a syndod yr Efengyl.

Ond gallech feddwl bod rhywbeth anghyfiawn yn hyn. Ac ar un ystyr, mae yna annhegwch yn y drefn hon. Nid oedd Iesu’n haeddu’r gosb a gafodd; nid oedd yn haeddu bod ar Galfaria. Dyna’r peth olaf yr oedd ef yn ei haeddu. Ond yr hyn sy’n gwneud trefn yr Efengyl yn deg a chyfiawn yw bod Duw o’i gariad yn rhoi ei Fab i farw drosom, a bod Iesu Grist ei hun yn fodlon ar y trefniant hwn. Mae Iesu o’i fodd yn ei roi ei hun yn aberth ar y groes. Mae’n fodlon cael cam. Mae’n fodlon derbyn yr hyn nad yw’n ei haeddu. Ac mae’n wynebu hynny er mwyn i ni gael yr hyn na haeddwn ni o gwbl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 11 Mai, 2014

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: