Heddwch

untiaxman

Daeth 25 mlynedd o gyflwyno rhaglen deledu nosweithiol i ben i Jeremy Paxman nos Fercher ddiwethaf gyda’i ymddangosiad olaf ar Newsnight ar BBC2.

Dwi’n dal i geisio dyfalu pam y clywyd ‘I’d like to teach the world to sing’ ar ddiwedd y rhaglen. Cân o ddechrau’r saithdegau yw hon, a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer un o hysbysebion Coca-Cola gyda’r geiriau, ‘I’d like to buy the world a Coke’, cyn dod yn gân bop lwyddiannus gyda geiriau newydd gan y New Seekers (er iddi gael ei chanu gan grŵp arall cyn hynny).

‘I’d like to build the world a home

And furnish it with love …

 

‘I’d like to teach the world to sing

In perfect harmony …

 

I’d like to see the world for once

All standing hand in hand

And hear them echo through the hills

Ah, peace throughout the land.’

 

Dros y chwarter canrif, bu Jeremy Paxman yn cyflwyno newyddion am bob math o anghydfod ym mhob rhan o’r byd. Rhyfeloedd, terfysgoedd, sgandalau, etholiadau, problemau o bob math – bu Paxman yn trafod y cyfan gan holi a herio gwleidyddion o bob lliw a llun. Roedd yn enwog am ei holi treiddgar ac am finiogrwydd ei dafod, ac yn amlach na heb roedd stiwdio Newsnight yn bopeth ond pobl law yn llaw mewn harmoni a hedd.

Pam y gân hon felly? Eironi o bosibl. Neu goegni. Neu tybed oedd dewis y gân yn fynegiant o ddymuniad gonest a diffuant Paxman ei hun (neu aelodau tîm cynhyrchu’r rhaglen) i weld y byd, er gwaetha’r holl anghyfiawnderau a’r anghydfod y bu’n eu trafod mor   ddeheuig dros chwarter canrif, yn byw mewn cariad a chymod a heddwch am unwaith?

Nôl yn 1989 pan ddechreuodd Paxman gyflwyno Newsnight, saethwyd dwy o awyrennau rhyfel Libya gan awyrlu’r America; cyhoeddodd yr Ayotolla Khomeini y dylid lladd Salman Rushdie; lladdwyd miloedd yn Sgwâr Tiananmen yn Beijing; a chwympodd Wal Berlin. Mae’r enwau a’r llefydd yn wahanol erbyn hyn, ond yr un math o broblemau sy’n wynebu’r byd wrth i Paxman orffen cyflwyno’r rhaglen. A’r gwir amdani yw bod angen mwy na breuddwyd a siarad hiraethus er mwyn sicrhau hedd a harmoni. Roedd ‘I’d like to teach the world to sing’ yn gân hynod o boblogaidd yn ei dydd. Ond mae angen mwy na chân i gael pobl i fyw’n gytûn.

Rhyfeddod yr Efengyl yw ei bod yn cyhoeddi mai Iesu Grist yw’r gwir a’r unig ffordd i gymodi pobl â Duw ac â’i gilydd. Yng Nghrist y daw pobl yn un. Yng Nghrist y caiff hen elynion eu cymodi â’i gilydd. Yng Nghrist y mae pobl yn gallu caru a maddau. Ac mae’r cyfan yn bosibl am fod Duw yng Nghrist wedi’n caru, ac wedi maddau i ni, ac wedi ein cymodi ni ag ef ei hun.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 22 Mehefin, 2014

Eiddo’r buddugol

14

Hen dduwies Roegaidd oedd Nike. A hon, duwies buddugoliaeth, a gynrychiolid yn dal cwpan uwch ei phen ar dlws enwog ‘Jules Rimet’, a gynlluniwyd gan Ffrancwr o’r enw Abel Lafleur, ac a gyflwynwyd i enillwyr Cwpan Y Byd o ddechrau’r gystadleuaeth yn 1930. Ond nid y tlws hwnnw a gyflwynir i’r enillwyr ym Mrasil eleni. Enillodd Brasil Gwpan y Byd am y trydydd tro yn 1970, a daeth y tlws enwog yn eiddo iddyn nhw am byth gan fod Rimet, Llywydd FIFA yn 1930, wedi datgan y byddai’r wlad gyntaf i ennill y gystadleuaeth deirgwaith yn cael cadw’r tlws. Ers 1974, mae’r timau’n ymgiprys am dlws a gynlluniwyd gan Eidalwr o’r enw Silvio Gazzaniga sy’n darlunio dau athletwr buddugol iaethus yn dal y byd uwch eu pennau. Un peth sy’n sicr yw na ddaw’r tlws aur hwn yn eiddo parhaol i’r un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan eleni gan fod hynny wedi ei wneud yn glir pan gafodd ei gyflwyno gyntaf.

Wn i ddim faint ohonom ni Gristnogion sy’n athletwyr gosgeiddig neu dduwiesau hardd! Yr ydym fodd bynnag yn debyg i’r tlysau. Mae enwau’r gwledydd sydd wedi ennill y tlws presennol wedi eu hysgythru oddi tano. Ac mae enw’r Gwaredwr a’n prynodd ac a’n henillodd ni trwy ei fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad arnom ninnau. Pobl Iesu Grist ydym, ac fel Cristnogion fe’n gelwir wrth ei enw. Ein hymffrost yw ein bod yn eiddo i’r un a’n henillodd.

Ac o’r ddau dlws, rydym yn debycach i dduwies Lafleur nag i athletwyr Gazzaniga. Sbaen yw deiliaid presennol Cwpan y Byd, ond mae tlws Gazzaniga eisoes wedi ei ddychwelyd i FIFA. Dim ond dros dro, am bedair blynedd, y bu’n ‘eiddo’ i Sbaen. Ond daeth duwies Lafleur yn eiddo parhaol i Brasil. Ac yr ydym ninnau’n eiddo parhaol i Grist. Trwy ffydd, fe ddeuwn yn eiddo iddo, nid dros dro, nid am gyfnod o’n bywyd yn unig, ond am byth. Ein hymffrost yw ein bod yn eiddo parhaol i’r un buddugol.

Ac eto, dydyn ni ddim byd tebyg i’r dduwies, wedi’r cyfan! Ewch i Brasil heddiw, a welwch chi mo honno. Oherwydd ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yn 1983 fe gafodd y tlws ei ladrata o Bencadlys Cymdeithas Bêl Droed Brasil yn Rio de Janeiro, a welodd neb mohono ers hynny. Ond does dim peryg i ni gael ein colli o afael Iesu Grist. Unwaith y deuwn i ffydd ynddo, yr ydym yn ddiogel am byth. ‘Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt,’ meddai’r Bugail Da am ei ddefaid, ‘… ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i’. Ein hymffrost yw ein bod yn gwbl ddiogel am byth yng ngafael y Crist buddugol sydd wedi’n cymryd yn eiddo iddo’i hun.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 15 Mehefin, 2014

 

Wedi’r Pentecost

Cofio a dathlu’r Sulgwyn a wnawn ni, er bod y sylw a roddwn i’r Ŵyl ac i’r digwyddiadau mawr yn Jerwsalem pan dywalltwyd yr Ysbryd ar ddisgyblion yr Arglwydd Iesu Grist yn amrywio’n fawr o flwyddyn i flwyddyn. Mater arall yn llwyr yw profi unrhyw beth tebyg i’r hyn a brofwyd gan Simon Pedr a’r lleill.

‘Beth wyddom am yr Ysbryd yn symud mewn diwygiad yn ein plith? Faint wyddom am yr Ysbryd yn ein cyffroi i gyhoeddi’r Efengyl yn eofn? Beth wyddom am yr Ysbryd yn cynhesu’n calonnau wrth i ni glywed y gwirionedd am Iesu Grist? Ceisiwn o’r newydd yr Ysbryd a’i oleuni a’i nerth.’ Dyna a ofynnwyd ar ddiwedd yr erthygl yn Gronyn y Sul diwethaf, ac mae’n rhaid i mi ateb y cwestiwn yn onest a dweud mai ychydig iawn a wn i am y pethau hyn.

Gwelwyd pethau mawr ar Ddydd y Pentecost. (Ie, Pentecost, sylwch ac nid Petecost fel y gwelwyd ar dudalen flaen Gronyn y Sul diwethaf – camgymeriad oedd hwnnw, wedi i mi gopïo’r llun heb sbïo’n ddigon manwl arno). Tafodau tân, sŵn fel gwynt nerthol yn rhuo a phobl yn siarad ieithoedd nad oedden nhw i fod i’w gwybod: dyna rai o’r pethau anghyffredin hynny. Ond nid dyna’r pethau yr ydym ni i’w ceisio wrth feddwl am y Sulgwyn a’r hyn a’i dilynodd. Fe esgorodd digwyddiadau mawr y Sulgwyn ar ddau beth ym mhrofiad y disgyblion hyn: cyhoeddi Efengyl Iesu Grist a bywyd newydd mewn cymdeithas â’i gilydd fel Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist. A gwell o lawer na chynnwrf tafodau tân a gwynt nerthol i ni heddiw fyddai gweld y ddau beth hyn yn dod yn amlwg yn ein plith. Ie, ceisiwn o’r newydd yr Ysbryd a’i oleuni a’i nerth, er mwyn iddo ein defnyddio i rannu’r newydd da am Iesu Grist yn glir ac yn ffyddlon, ac er mwyn i’r Ysbryd ein bywhau fel cymdeithas ei bobl. Mae’n werth edrych ar y darlun o’r Eglwys Gristnogol ifanc yn Actau 2:43-47 a 4:32-37, er enghraifft.

Ceir yma ddisgrifiadau o’r Eglwys fel cymdeithas o gredinwyr sydd wedi eu huno mewn cariad yn eu haddoliad a’u gwasanaeth i’r Arglwydd Iesu ac i’w gilydd, wedi iddyn nhw ymateb mewn ffydd i’r Efengyl. Mae’n ddarlun byw a phrydferth o’r hyn y gall yr Eglwys fod ym mhob cyfnod. Wrth geisio’r Ysbryd, yr ydym yn ceisio’r Un sy’n medru ein nerthu i gyhoeddi Efengyl Iesu Grist yn ei grym, a’r Un sy’n medru troi criw o bobl yn gymdeithas fyw ei Eglwys.

Gwaith yr Ysbryd yw’r ddau beth: grymuso ein pregethu a bywhau ein heglwysi. A’r peth mwyaf cyffrous i mi am y dyddiau’n dilyn y Pentecost yw’r hyn a welwn yn Actau 2:47, lle dywedir wrthym fod ‘yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub’. Os mai dyna sy’n dilyn pregethu grymus ac eglwys fyw, gweddïwn am i’r Ysbryd weithio’n nerthol yn ein plith.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 15 Mehefin, 2014

Sul anodd

Y Sulgwyn ydi un o Suliau anoddaf y flwyddyn, ac nid yw’n mynd damaid haws wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.

Dyma’r Pentecost – Sul cofio tywalltiad yr Ysbryd Glân ar y disgyblion. Mae’n un o’r Suliau anoddaf am ein bod yn ymwneud â rhywbeth sydd mor ddieithr ac anghyfarwydd.

Ond arhoswch funud. Onid ydi gwyliau eraill yr Eglwys Gristnogol yn ymwneud â phethau anghyfarwydd a dieithr? Beth am y Nadolig, a’i sôn am wyryf yn rhoi genedigaeth i blentyn bach, angylion a’u neges, a bugeiliaid a doethion yn cyrchu at breseb lle gorweddai babi bach oedd yn Fab Duw a brenin byd? Go brin y medrwn honni bod pethau felly yn rhan o fywyd pob dydd pobl. Ac eto, rydym yn ddigon cyffyrddus yng nghanol y Nadolig a’i neges.

A dyna’r Pasg wedyn; mae honno hefyd yn sôn am bethau dieithr. Dienyddio dyn da, a hwnnw’n atgyfodi o’r bedd o fewn tridiau. Welwn i mo hynny bob dydd! Ond nid yw hynny’n golygu na fedrwn adrodd yr hanes. Rydym yr un mor gyffyrddus yn sôn am y Groglith a’r Pasg.

Ond mae’r Sulgwyn yn wahanol. Mae gennym lai i’w ddweud am yr wŷl honno. Mae’n wir fod gan y Beibl lai i’w ddweud amdani. Ond mae’r Sulgwyn yn rhan o stori Iesu Grist a stori Eglwys Dduw; ydi, lawn cymaint â’r Nadolig a’r Pasg.

Mae ‘na elfennau dieithr i’r hanes hwn, wrth gwrs – tafodau tân a gwynt nerthol. Ond nid dyna sy’n gwneud y Sulgwyn yn anghyfarwydd i ni heddiw. Ydi gwynt nerthol yn fwy dieithr na’r goleuni llachar a welodd y bugeiliaid yn llenwi’r awyr? Ydi disgyniad tafodau tân yn fwy o ryfeddod na chorff marw yn codi o’r bedd? Nac ydi, siŵr.

Yr hyn sy’n gwneud y Sulgwyn yn ddieithr yw’r ffaith nad yw’n rhan o’n profiad ni. O’r holl wyliau Cristnogol, y Sulgwyn yw’r un sy’n cyflwyno’r hyn sydd i fod yn brofiad uniongyrchol i ni. Mae’r Nadolig yn cyhoeddi bod Duw gyda ni yn nyfodiad Crist i’r byd. Mae’r Pasg yn dweud bod Duw wedi rhoi Crist drosom ni ar Galfaria. Y Sulgwyn sy’n datgan bod Duw ynom ni trwy’r Ysbryd Glân. Yr Ysbryd a dywalltwyd ar y Pentecost yw ein nerth a’n goleuni a’n grym ninnau heddiw. Ond mor brin y gall ein profiad o hyn fod.

Ni fyddem yn mynd mor bell â’r bobl yn Effesus a ddywedodd wrth Paul, ‘Ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân’ (Actau 19:2). Ond mae grym yr Ysbryd yn ddieithr i ni. Nid ein bod yn gwbl amddifad o’r Ysbryd chwaith. Os ydym yn credu yn yr Arglwydd Iesu, trwy gymorth yr Ysbryd y mae hynny. Os ydym yn deall unrhyw beth am yr Efengyl, trwy oleuni’r Ysbryd y mae hynny. Os ydym yn caru Duw ac yn gwasanaethu Iesu Grist o gwbl, trwy nerth yr Ysbryd y mae hynny hefyd.

Ond mae yna fwy, a’r ffaith ein bod yn gwybod hynny, sy’n gwneud y Sulgwyn yn ddychryn. Wyddon ni ddim beth i’w wneud â’r Ŵyl. Mae’r hanes yn Actau 2 yn ein hanesmwytho, fel y mae darllen am dywalltiadau o’r Ysbryd yn hanes yr Eglwys yn medru ein hanesmwyth. Beth wyddom am yr Ysbryd yn symud mewn diwygiad yn ein plith? Faint wyddom am yr Ysbryd yn ein cyffroi i gyhoeddi’r Efengyl yn eofn? Beth wyddom am yr Ysbryd yn cynhesu’n calonnau wrth i ni glywed y gwirionedd am Iesu Grist? Ceisiwn o’r newydd yr Ysbryd a’i oleuni a’i nerth.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Y Sulgwyn, 08 Mehefin, 2014

Deall hwn?

Byddaf yn derbyn copïau o’r tri phapur enwadol wythnosol trwy’r cyfrifiadur. A bod yn gwbl onest, mae’n well gen i ddarllen y papurau ‘go iawn’. Ond gan fod y fersiynau electroneg yn cyrraedd o flaen y rhai papur, mi fyddaf yn gwybod beth sydd ynddyn nhw cyn i mi gael y fersiynau ‘print’ yn fy llaw.

Ond nid felly rifyn diweddaraf Y Tyst a welwch uchod ac ar flaen Gronyn heddiw. Ar wahân i’r teitl a’r lluniau, ni allaf wneud pen na chynffon ohono. Ydi o wedi ei gyhoeddi mewn iaith dramor er mwyn cynyddu’r cylchrediad? Ond o edrych yn fwy manwl, tybed ydi o mewn iaith gwbl estron ar gyfer rhyw greaduriaid o blaned arall? Neu ydi o wedi ei sgwennu mewn cod am fod ynddo gyfrinachau mawr am waith yr Annibynwyr nad yw pawb i fod i’w gwybod?

Mae’n amlwg bod rhywbeth wedi mynd o’i le rhwng y Wasg a’m cyfrifiadur i. Mae pethau o’r fath yn medru digwydd o bryd i’w gilydd: ambell i do bach neu farc cwestiwn, er enghraifft, yn mynd ar goll neu’n cael eu newid i symbol neu lythyren arall. Ond welis i erioed o’r blaen ddim tebyg i’r hyn a ddigwyddodd i’r Tyst hwn. (Gobeithio’n fawr mai yn y fersiwn electroneg yn unig y mae’r camgymeriad. Byddai’n embaras mawr pe byddai’r un peth wedi digwydd i’r fersiwn wedi ei argraffu a hwnnw wedi ei anfon i’r siopau.)

Er mor od yw’r Tyst a anfonwyd ataf, mae’n siŵr gen i y byddai rhywun efo ychydig o wybodaeth gyfrifiadurol yn medru datrys y broblem a throi’r holl symbolau a llythrennau a rhifau’n ôl yn destun Cymraeg darllenadwy. A bosib y gallai pobl sy’n medru datrys posau wneud hynny o gael digon o amser, gan ei bod yn debygol i bob a, b, ac c gael eu newid i’r un symbol bob tro.

Roedd Iesu Grist yn cuddio’r newyddion da yr oedd yn ei gyhoeddi oddi wrth rai pobl. Roedd hynny’n ymddangos yn od i’r disgyblion, ond mynnai Iesu mai dyna pam yr oedd yn eu dysgu trwy ddamhegion. Tueddwn ni i feddwl mai straeon hawdd i’w deall yw damhegion Iesu, ond fel arall y mae hi yn ei ôl ef. Un rheswm dros gyflwyno’r gwirionedd trwy’r straeon hyn yw bod Iesu eisiau sicrhau bod pobl yn chwilio am yr ystyr. Mae’r ffaith eu bod yn ymgodymu â’r neges a ‘guddiwyd’ yn y ddameg yn dangos eu bod wir eisiau deall a dysgu a derbyn oddi wrth yr Arglwydd Iesu.

Nid yw Iesu’n gor-gymhlethu’r neges nac yn ei wneud yn amhosibl i’w ddeall. Mae’n ddigon rhwydd canfod y neges, ond i ni fod eisiau ei weld a’i dderbyn. Y sawl sy’n chwilio am Iesu a ddaw o hyd iddo; y sawl sy’n awyddus i’w adnabod a ddaw i’w adnabod yn Geidwad ac yn frawd; y sawl sy’n dyheu am ddeall yr Efengyl a’i gwerthfawrogi a ddaw i ffydd ac i ryfeddu at yr hyn a ddywed Iesu.

Dweud y mae Iesu y bydd ei Efengyl yn aros yn ddirgelwch i bob un ohonom na fydd yn ei geisio ef nac yn ymateb i’w neges a’i wahoddiad i gredu ynddo. Mi fydd y newyddion da yn ddirgelwch; mi fydd yn neges na fydd yn gwneud math o synnwyr i ni os na fyddwn yn ystyried o ddifrif beth mae’n ei ddweud wrthym ac yn ei gynnig i ni. Ond mi fydd yn gwbl eglur i bawb sy’n ceisio cymorth a gras Duw i’w deall. Oherwydd Duw sy’n datguddio’r newyddion da yw ein Duw ni, a’r Un sy’n rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn ganddo.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 01 Mehefin25 Mai, 2014