Sul anodd

Y Sulgwyn ydi un o Suliau anoddaf y flwyddyn, ac nid yw’n mynd damaid haws wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.

Dyma’r Pentecost – Sul cofio tywalltiad yr Ysbryd Glân ar y disgyblion. Mae’n un o’r Suliau anoddaf am ein bod yn ymwneud â rhywbeth sydd mor ddieithr ac anghyfarwydd.

Ond arhoswch funud. Onid ydi gwyliau eraill yr Eglwys Gristnogol yn ymwneud â phethau anghyfarwydd a dieithr? Beth am y Nadolig, a’i sôn am wyryf yn rhoi genedigaeth i blentyn bach, angylion a’u neges, a bugeiliaid a doethion yn cyrchu at breseb lle gorweddai babi bach oedd yn Fab Duw a brenin byd? Go brin y medrwn honni bod pethau felly yn rhan o fywyd pob dydd pobl. Ac eto, rydym yn ddigon cyffyrddus yng nghanol y Nadolig a’i neges.

A dyna’r Pasg wedyn; mae honno hefyd yn sôn am bethau dieithr. Dienyddio dyn da, a hwnnw’n atgyfodi o’r bedd o fewn tridiau. Welwn i mo hynny bob dydd! Ond nid yw hynny’n golygu na fedrwn adrodd yr hanes. Rydym yr un mor gyffyrddus yn sôn am y Groglith a’r Pasg.

Ond mae’r Sulgwyn yn wahanol. Mae gennym lai i’w ddweud am yr wŷl honno. Mae’n wir fod gan y Beibl lai i’w ddweud amdani. Ond mae’r Sulgwyn yn rhan o stori Iesu Grist a stori Eglwys Dduw; ydi, lawn cymaint â’r Nadolig a’r Pasg.

Mae ‘na elfennau dieithr i’r hanes hwn, wrth gwrs – tafodau tân a gwynt nerthol. Ond nid dyna sy’n gwneud y Sulgwyn yn anghyfarwydd i ni heddiw. Ydi gwynt nerthol yn fwy dieithr na’r goleuni llachar a welodd y bugeiliaid yn llenwi’r awyr? Ydi disgyniad tafodau tân yn fwy o ryfeddod na chorff marw yn codi o’r bedd? Nac ydi, siŵr.

Yr hyn sy’n gwneud y Sulgwyn yn ddieithr yw’r ffaith nad yw’n rhan o’n profiad ni. O’r holl wyliau Cristnogol, y Sulgwyn yw’r un sy’n cyflwyno’r hyn sydd i fod yn brofiad uniongyrchol i ni. Mae’r Nadolig yn cyhoeddi bod Duw gyda ni yn nyfodiad Crist i’r byd. Mae’r Pasg yn dweud bod Duw wedi rhoi Crist drosom ni ar Galfaria. Y Sulgwyn sy’n datgan bod Duw ynom ni trwy’r Ysbryd Glân. Yr Ysbryd a dywalltwyd ar y Pentecost yw ein nerth a’n goleuni a’n grym ninnau heddiw. Ond mor brin y gall ein profiad o hyn fod.

Ni fyddem yn mynd mor bell â’r bobl yn Effesus a ddywedodd wrth Paul, ‘Ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân’ (Actau 19:2). Ond mae grym yr Ysbryd yn ddieithr i ni. Nid ein bod yn gwbl amddifad o’r Ysbryd chwaith. Os ydym yn credu yn yr Arglwydd Iesu, trwy gymorth yr Ysbryd y mae hynny. Os ydym yn deall unrhyw beth am yr Efengyl, trwy oleuni’r Ysbryd y mae hynny. Os ydym yn caru Duw ac yn gwasanaethu Iesu Grist o gwbl, trwy nerth yr Ysbryd y mae hynny hefyd.

Ond mae yna fwy, a’r ffaith ein bod yn gwybod hynny, sy’n gwneud y Sulgwyn yn ddychryn. Wyddon ni ddim beth i’w wneud â’r Ŵyl. Mae’r hanes yn Actau 2 yn ein hanesmwytho, fel y mae darllen am dywalltiadau o’r Ysbryd yn hanes yr Eglwys yn medru ein hanesmwyth. Beth wyddom am yr Ysbryd yn symud mewn diwygiad yn ein plith? Faint wyddom am yr Ysbryd yn ein cyffroi i gyhoeddi’r Efengyl yn eofn? Beth wyddom am yr Ysbryd yn cynhesu’n calonnau wrth i ni glywed y gwirionedd am Iesu Grist? Ceisiwn o’r newydd yr Ysbryd a’i oleuni a’i nerth.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Y Sulgwyn, 08 Mehefin, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: