Diddorol yw’r ymateb i ddwy stori’n ymwneud â cheir yn ddiweddar, y naill o wledydd Prydain a’r llall o Ffrainc.
Fe ddylai ceir tramor gael eu cofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi iddyn nhw fod yng ngwledydd Prydain am 6 mis, ond mae miloedd o geir yn osgoi’r dreth ffordd bob blwyddyn am nad yw eu perchnogion yn eu cofrestru. Mae llawer o gwyno am hynny am fod y Llywodraeth yn colli oddeutu 3 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn. A chlywyd llawer yn canmol yr ymdrech i orfodi’r ‘twyllwyr’ i dalu’r dreth fel pawb arall.
Yn Ffrainc, mae’r heddlu wedi dechrau rhoi dirwyon i yrwyr tramor sy’n cael eu dal yn goryrru. Ac mae’n rhaid talu mewn arian parod yn y fan a’r lle. Os nad oes gan y gyrwyr arian parod mae’r heddlu’n mynd â nhw i’r banc i nôl arian. Os nad yw hynny’n bosibl, caiff y car ei gadw hyd nes y llwyddir i gael yr arian. Cymysg fu’r ymateb i’r stori hon yng ngwledydd Prydain, a llawer yn gweld y ddeddfwriaeth yn eithriadol o lym ac yn debyg o beri anhwylustod i ymwelwyr â Ffrainc.
Mae’n ymddangos bod pawb o blaid gweithredu’r ddeddf, ond mae’n haws cefnogi hynny pan nad yw’n effeithio arnom ni. Dylai ceir tramor gael eu cofrestru er mwyn i bawb dalu’r dreth ffordd. Mae’r ddeddf hon yn ddigon rhesymol. Ond pam aros chwe mis? Pam na ellir eu trethu wedi iddyn nhw fod yma am ddeufis neu dri? Mi fyddwn i, beth bynnag, o blaid hynny. Ond mae’r hyn sy’n digwydd yn Ffrainc yn fater arall. Beth pe bawn i’n mynd yno ar wyliau? Beth pe bawn i’n cael fy nal yn goryrru? Beth pe na fyddai gen i arian parod? Beth pe na fyddai banc wrth law? Beth pe byddai’r heddlu’n cadw fy nghar nes y byddwn wedi cael yr arian? Mae’r ddeddf honno’n swnio’n afresymol iawn, mwya’ sydyn!
Mae hynny wastad yn beryg gyda deddfau Duw hefyd. Y deddfau sy’n peri trafferth i ni yw’r deddfau sydd yn ein tyb ni’n effeithio’n uniongyrchol arnom. Rydym yn ddigon hapus efo’r deddfau y credwn ein bod yn eu cadw. Y rhai y gwyddom ein bod yn eu torri sy’n peri trafferth i ni. Ystyriwn y gorchymyn i beidio â lladd yn berffaith resymol, a derbyniwn fod pawb sy’n ei dorri’n pechu’n fawr yn erbyn Duw. Ond tueddwn i feddwl bod pethau fel cenfigen a chymryd enw Duw yn ofer yn llai difrifol – oherwydd ein tuedd i wneud y pethau hyn. Ond yng ngolwg Duw mae’r cyfan yr un mor ddifrifol.
Salm 19 sy’n dweud: ‘Y mae cyfraith yr Arglwydd yn berffaith, yn adfywio’r enaid; y mae tystiolaeth yr Arglwydd yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; y mae deddfau’r Arglwydd yn gywir, yn llawenhau’r galon; y mae gorchymyn yr Arglwydd yn bur, yn goleuo’r llygaid; y mae ofn yr Arglwydd yn lân, yn para am byth; y mae barnau’r Arglwydd yn wir, yn gyfiawn bob un’ (adnodau 7–9).
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 13 Gorffennaf, 2014