Un o’r enwau a fydd yn aros yn y cof am amser hir iawn wedi misoedd yr haf hwn yw James Foley, y gohebydd a’r ffotograffydd a ddienyddwyd yr wythnos ddiwethaf yn enw’r mudiad brawychus a gwaedlyd, Gwladwriaeth Islamaidd (IS). Roedd James Foley wedi ei gaethiwo ers iddo gael ei ddal yng Ngogledd-orllewin Syria ym mis Tachwedd 2012, a doedd neb yn siŵr ym mhle’r oedd nes y cyhoeddwyd fideo barbaraidd ohono’n cael ei ladd ddechrau’r wythnos ddiwethaf. Un peth anodd iawn i’r mwyafrif ohonom ei ddeall am y gŵr deugain oed hwn yw’r ffaith iddo gael ei gaethiwo mewn amgylchiadau tebyg yn Libya am fwy na mis yn 2011 pan oedd yn gohebu yn ystod y Rhyfel Cartref yn y wlad honno. Er gwaetha’r profiad hwnnw, mynnodd ddychwelyd i’w waith a theithio i Syria i adrodd am helyntion a dioddefaint y wlad honno. Ond fel yn hanes aml i ohebydd o’i flaen, fe gostiodd ei awydd i ddod â’r stori i sylw’r byd yn ddrud iawn iddo. Mae dewrder a phenderfyniad pobl o’r fath yn ein synnu a’n rhyfeddu.
Ni allwn ddychmygu poen a galar ei rieni a’i deulu o wybod am y modd y cafodd ei ladd; ond gallwn er hynny edmygu’r consyrn diffuant a fynegwyd ganddynt dros eraill sy’n cael eu dal gan y bobl a laddodd eu mab. Fe’u gwelwyd yn pledio ar y rhai sy’n eu dal i drugarhau wrthynt a’u rhyddhau.
Bob tro y clywn ni am erchyllterau o’r fath teimlwn yn gwbl analluog i wneud dim. Ond roedd clywed rhieni James Foley yn siarad yn ein hatgoffa bod mewn gwirionedd rywbeth y gallwn ei wneud wedi’r cyfan. Wedi sôn am y llaweroedd a fu’n gweddïo’n ddwys dros eu mab ers iddo gael ei ddal, fe ddywedon nhw eu bod nhw fel teulu bellach angen gweddïau pobl yn eu colled a’u galar. A gobeithio y gallwn ymateb i’r gri honno trwy eu cyflwyno yn ein gweddïau i ofal cariadus Duw. Fe sonion nhw hefyd am eu hyder bod eu mab bellach yn rhydd o bob pryder yn y nefoedd. A chyda’r teulu Foley gallwn weddïo dros ohebydd arall, Steven Sotloff, ac eraill sydd o bosib yn wynebu’r un diwedd ag a ddaeth i’w mab dan law giaidd y rhai sy’n eu caethiwo.
Yn ein gweddïau hefyd, cofiwn am y miloedd lawer sy’n dioddef yn enbyd yn Syria, Irac, Gaza a mannau eraill yn y Dwyrain Canol. Gweddïwn dros bawb sy’n byw mewn ofn; y bobl y gorfodwyd iddynt adael eu cartrefi; y bobl a’r plant a anafwyd; y teuluoedd a welodd eu hanwyliaid yn cael eu lladd. Gweddïwn hefyd dros y rhai sy’n gyfrifol am yr erchyllterau, yn wleidyddion ac arweinwyr, yn filwyr a phobl gyffredin, iddynt sylweddoli’r dinistr a’r dioddefaint y maent yn ei achosi trwy eu polisïau a’u rhyfela a’u creulondeb annynol. Mae geiriau’r arweinwyr hynny mor aml dros y dyddiau diwethaf wedi ein digalonni’n llwyr; ond gweddïwn y bydd y Brenin Mawr yn rhoi gras iddynt, ynghyd â chariad at gymod a chyfiawnder.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 24 Awst, 2014