Tair blynedd ar ddeg. Dyna faint sydd ers i mi ddechrau cyhoeddi Gronyn bob Sul. Ar un ystyr, dydi hynny ddim yn hir iawn er bod cymaint o bethau wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond tristwch pethau yw ei fod yn hen ddigon o amser i’r Llywodraeth yn San Steffan benderfynu mynd i ryfel dair gwaith. Hydref 2001, Affganistan; Mawrth 2003, Irac; a rŵan, Medi 2014, Y Wladwriaeth Islamaidd (IS, neu ISIS neu ISIL). Galwyd aelodau seneddol i ddadl arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin echdoe, ac fe benderfynwyd y bydd awyrennau Prydeinig yn ymuno â’r cyrch bomio yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac. Ac felly, unwaith eto, mae lluoedd y gwledydd hyn yn rhyfela yn y Dwyrain Canol.
Anghofier yr Alban; mae rhyfel yn galw. Anghofier y wasgfa ariannol a’r angen am arbedion; mae rhyfel yn galw. Anghofier y dinistr a achoswyd gan flynyddoedd o ryfela yn y Dwyrain Canol; mae rhyfel arall yn galw. Ac o fewn diwrnod i’r bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin roedd awyrennau Prydeinig yn hedfan dros dir Irac.
Daw’r penderfyniad hwn â phryder ac ansicrwydd ac ansefydlogrwydd i’w ganlyn. Ac mae’n debyg y bydd perygl ychwanegol i bobl y gwledydd hyn. Mae’r Llywodraeth hon eto’n gwrthod ystyried y posibilrwydd y gallem ni fod dan fygythiad o du’r ‘terfysgwyr’ o ganlyniad uniongyrchol i’r ffordd yr ydym yn cyfrannu at y dinistr a’r lladd mewn rhannau eraill o’r byd.
Yr union ddiwrnod y cyhoeddodd David Cameron ei fwriad i ymuno â’r bomio, roedd yn datgan ei falchder o allu cefnogi ymgyrch Help For Heroes un papur newydd i helpu’r milwyr a anafwyd ar faes y gad. Oni fyddai’n beth od iawn iddo ddeud yn wahanol ac yntau ar gychwyn anturiaeth sydd bron yn sicr o arwain at anafu a lladd mwy o filwyr Prydeinig, beth bynnag a ddywedir ar hyn o bryd am beidio â bomio dros dir Syria neu anfon milwyr troed i’r un o’r ddwy wlad.
£3 biliwn o bunnoedd; ymgyrch a fydd (yn ôl y darogan) yn para o leiaf ddwy neu dair blynedd; posibilrwydd cryf y bydd rhaid anfon milwyr troed yn hwyr neu hwyrach; a phwy a ŵyr faint o bobl fydd wedi eu lladd tra bydd hyn oll yn digwydd. A’r gwir dristwch yw methiant llwyr i chwilio am ffyrdd o fynd i’r afael ag anghyfiawnderau ac anghydfod trwy wrando a thrafod gyda gwir ddymuniad i sicrhau cyfiawnder a thegwch a heddwch. Ond cyhyd â bod amharodrwydd i gydnabod y gallai’r hyn a wnaed gennym ni cyn hyn fod yn rhan fawr o’r broblem, pa obaith sydd am ymateb doeth a synhwyrol?
Un peth sy’n dangos ynfydrwydd y rhyfela hwn yw’r cymhlethdod sy’n golygu bod y ’gelyn’ yn newid o hyd. Mor aml y mae gelynion ddoe yn troi yn gyfeillion heddiw. Parhad yw hyn o ‘Ryfel yn erbyn terfysgaeth’ Blair a Bush, wrth gwrs, ond tristwch pethau yw nad oes gobaith ennill hwnnw trwy na rhyfel na therfysgaeth.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 28 Medi, 2014