Siom

Picture2Picture1Picture2

‘Dechrau newydd’, meddwn wythnos yn ôl wrth sôn yn Gronyn am agoriad canolfan gelfyddydau Pontio ganol y mis hwn. Ond yna ganol yr wythnos fe gyhoeddwyd bod cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Chwalfa’ yn cael ei ohirio am na fydd theatr newydd Pontio’n barod wedi’r cyfan. Mae’n rhaid aros tan y flwyddyn newydd i weld y ddrama hon, ac amser a ddengys a fydd y theatr yn barod ar gyfer Cyngerdd Agoriadol Swyddogol y ganolfan sydd i fod i’w gynnal ym mis Hydref.

Roedd y siom yn amlwg ym Mangor yr wythnos ddiwethaf, ond nid oedd dim y gallai pobl y Brifysgol na staff y Theatr Genedlaethol ei wneud i newid pethau. Nid yw’r theatr wedi ei chwblhau, a dyna ddiwedd ar y mater am y tro. Fel y dywedwyd gan fwy nag un person a holwyd, nid yw oedi o’r fath yn beth anarferol gyda phrosiectau adeiladu mawr o’r math hwn. Fe ddaw pethau i drefn, ychydig yn hwyrach na’r bwriad o bosibl, ond buan iawn y bydd pobl yn anghofio am y gohirio hwn unwaith y bydd y theatr a’r ganolfan gyfan wedi eu cwblhau a’u hagor.

Ond am y tro, mae yna siom, ac mae’n rhaid dygymod â hi. Gwaetha’r modd, mae eglwysi Cymru wedi arfer â siom ers talwm. O brinder cynulleidfaoedd i ddiflaniad capeli, o wendid tystiolaeth i gynnydd troseddau, o fethiant pregethu i lewyrch anffyddiaeth, o ddiffyg ffydd i ymddangosiad pob math o gredoau sy’n elyniaethus i’r Efengyl, mae’r siom yn fawr.

Ond sut fyddwn ni’n ymdopi â siom? Fyddwn ni’n digalonni ac yn cael ein llethu? Fyddwn ni’n anobeithio ac yn cael ein temtio i roi’r ffidil yn y to? Mor hawdd y digwydd hynny pan deimlwn nad oes dim yn newid nac yn gwella, a phan ddechreuwn ni gredu bod popeth yn ein herbyn. Oherwydd trueni pethau i lawer o Gristnogion yw nad siom dros dro a brofant yng ngwaith y Deyrnas. Nid siom un dydd nac un digwyddiad, ond siom parhaol bron wrth i’r blynyddoedd fynd heibio heb fawr o arwydd o newid er gwell. Nid yw llawer ohonom yn disgwyl dim ond siom beunyddiol, ac mae hynny’n beth trist drybeilig.

Ond nid oes rhaid i bethau fod felly gan fod gras Duw yn ein galluogi i ddygymod â’r siomedigaethau mwyaf oll. Ac mae hynny’n beth rhyfeddol. Yr hyn na allwn ei wneud ein hunain y mae gras Duw yn ein galluogi i’w wneud! Mae gras yn ein galluogi i ddal i gredu a gobeithio er gwaetha’r siomedigaethau. Mae’n ein galluogi i ddal i weithio er mwyn yr Efengyl er i ni deimlo bod ein tystiolaeth hyd yma wedi bod yn ddiffrwyth. Mae’n ein galluogi i barhau’r bywyd Cristnogol er i ni deimlo bod hwnnw’n fwy o frwydr galed nag o fendith gyfoethog. Ym mhob siom, gallwn fentro pwyso ar Dduw i’n cysuro a’n calonogi a’n cryfhau, fel y gallwn ddal ati yn ein gwasanaeth iddo. A hyd yn oed pan ddywed y byd nad yw hyn ond siarad gwag, mae ffydd yn mynnu ein sicrhau o wirionedd y fath siarad.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 07 Medi, 2014

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: