Rhedeg y ras

av Llongyfarchiadau mawr iawn i Alun Vaughan ar ennill Marathon Eryri ddoe. Mor braf yw gweld gŵr lleol a fagwyd yn Llanberis yn ennill y ras hon sy’n denu rhedwyr o bell ac agos, a phell iawn! Mae’r rhai ohonom na fu erioed yn agos i linell gychwyn yr un ras yn gorfod edmygu dawn a dewrder y rhai sy’n mentro rhedeg y fath bellter. Ond nid dawn a dewrder yn unig sy’n cyfrif mewn marathon ond dycnwch a dyfalbarhad, ac mae pawb sy’n nabod Alun yn gwybod mai blynyddoedd o ymarfer ac o ddal ati sy’n gyfrifol am y llwyddiant a’r buddugoliaethau a gaiff . Mi biciais draw i Goleg Y Bala bnawn ddoe (yn y car, nid ar droed!) i gael blas ar rywbeth a oedd – yn ddigon priodol o gofio’r Marathon – yn cael ei alw ‘Rhedeg y Ras’. Doedd yno fawr o redeg chwaith (os na wnaed hynny cyn i mi gyrraedd). Ar gyfer pobl ifanc oedd y diwrnod, ac o gofio’r teitl, nid syndod oedd clywed y geiriau hyn o’r Llythyr at yr Hebreaid: ‘Am hynny … gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a’r pechod sy’n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu’ (Heb. 12:1–2). Un peth a welsom ni’n glir iawn oedd mai ras hir fel marathon – ras oes, mewn gwirionedd – ydi’r ras y mae’r Llythyr at yr Hebreaid yn sôn amdani. Darlun o’r bywyd Cristnogol ydi’r ‘ras’ y mae’r Beibl yn sôn amdani wrth gwrs. Y peth pwysig am unrhyw ras yw bod y rhedwyr yn dal ati, hyd yn oed pan fydd pethau yn anodd, er mwyn medru cyrraedd y llinell derfyn a gorffen y ras. Dangoswyd i ni bod rhedeg y ras yn llwyddiannus yn gofyn am ymarfer, ac am ddycnwch i ddal ati hyd yn oed pan yw pethau yn anodd a chaled. Mae gwerth mawr i redeg gyda phobl eraill. Mae’n haws rhedeg yng nghanol tyrfa nag ar ein pen ein hunain am fod pobl eraill yn medru ein hannog a’n helpu. Ac mae’r un peth yn wir am y bywyd Cristnogol: mae’n haws dyfalbarhau yn hwnnw yng nghwmni pobl eraill, ac mae Cristnogion yn medru annog ei gilydd a helpu ei gilydd i fyw’r bywyd glân a ffyddlon er mwyn Iesu Grist. Mae cyfarfodydd fel y rhai a gafwyd yn Y Bala ddoe yn amlwg yn help i bobl ifanc i ddilyn Iesu. Nid yw’n hawdd i’r un ohonom i ddilyn Iesu a thystio iddo heddiw, yng nghanol pobl sy’n aml iawn yn wrthwynebus i bob dim a gredwn am Dduw a’r Iesu. Mae’n fwy anodd fyth i bobl ifanc, mae’n debyg. A dyna pam ei bod mor braf gweld cymaint ohonynt yn Y Bala ddoe i gael help i redeg y ras yn llwyddiannus. Dowch i ni weddïo dros Gristnogion ifanc ein gwlad, iddynt fedru rhedeg y ras arbennig hon yn llawen a hyderus er mwyn Iesu Grist. Mor braf oedd gweld pobl ifanc yn mwynhau addoli a thrafod eu ffydd. Y piti mawr yw na fyddai mwy o hen bobl fel fi yno i weld peth mor rhyfeddol.

(Diolch i Gwynfor James, Deiniolen – SportspicturesCymru – am y llun.)

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 26 Hydref, 2014

Cwterydd llawn

Picture1

Nid yn Gronyn ond yn ‘Gair neu ddau’ yn Y Pedair Tudalen y soniais ddiwedd Ebrill eleni am y gwaith oedd yn cael ei wneud ar y pryd ar ochr y lôn rhwng ‘Pen Twnnal’ a gwesty Gwêl y Llyn. Ar y pryd, methu’n glir â deall oeddwn beth oedd pwrpas yr holl goncrid oedd yn cael ei osod yn lle’r gwair ar yr ochr chwith wrth fynd tua Chwm-y-glo, ac roeddwn yn ofni y byddai’r concrid yn golygu y byddai llifogydd gwaeth fyth ar y troadau peryglus mewn tywydd mawr. Ond roedd hynny cyn i’r cwteri gael eu gosod yn y concrid ac iddi ddod yn amlwg mai bwriad y gwaith a’r holl wario a wnaed oedd sicrhau bod y dŵr glaw yn llifo ymaith i’r cwteri hyn. Y gobaith oedd y byddai’r llifogydd yn llai o broblem ar y darn hwn o’r lôn.

Mae wedi glawio’n drwm ers diwrnod neu ddau, ac roedd cryn dipyn o ddŵr yn sefyll ar y lôn fore ddoe. Wedi’r holl wario, does dim gwahaniaeth o gwbl. Ac eto, fedr neb ddeud bod y misoedd o waith wedi bod yn ofer chwaith. Fwy na thebyg nad oes dim o’i le ar y cynllun na’r gwaith a wnaed ond bod ceg y cwterydd yn llawn o ddail yr hydref fel nad oes modd i’r dŵr wneud dim ond gorlifo i’r lôn. Mae angen clirio’r cwterydd er mwyn i’r dŵr lifo’n rhydd.

Tybed pa sianelau neu gwterydd sydd angen eu clirio yn ein bywydau ni? Pa sianelau, er enghraifft, sydd angen eu clirio er mwyn i ddŵr bendithion Duw lifo? Pa anghrediniaeth sydd raid ei symud er mwyn i geisio cymorth Duw? Pa amheuaeth sydd raid ei dileu er mwyn i ni dderbyn ei faddeuant? Pa galedwch sydd raid ei orchfygu er mwyn i ni brofi cymdeithas felys â’r Arglwydd? Mae dyfroedd bendithion Duw yn llifo atom, ond mae sianelau llawn o’r fath bethau yn gallu ein rhwystro rhag eu mwynhau.

Neu, a newid y ddelwedd am ychydig (gan mai sôn am lifogydd yr oeddwn) pa gwterydd sydd angen eu clirio a pha ddail a baw sydd angen eu symud rhag i’n bywydau ninnau fod yn llanast? Beth am yr amheuon sy’n ein rhwystro rhag edrych mewn ffydd ar Iesu Grist? Beth am yr hunan gyfiawnder sy’n ein cadw rhag cyfaddef ein beiau? Beth am yr oerni calon sy’n peri i ni beidio â charu Duw? Beth am y mudandod sy’n ein rhwystro rhag diolch i Dduw am ei drugaredd?

Oes, mae angen clirio’r cwterydd, a gobeithio y caiff y gwaith ei wneud yn fuan cyn i’r gaeaf ddod (neu nid mater o ddwr lawr draen ond arian lawr draen fydd o).  A bydd angen eu clirio’n gyson er mwyn iddynt fod yn effeithiol. Ac yn yr un ffordd, mae angen gwaith cyson, dyddiol hyd yn oed, yn ein bywydau ni er mwyn i’r sianelau fod yn glir. Mae’r gwaith hwnnw yn llaw Duw ei hun, gan ei fod trwy’r Ysbryd Glân yn ein sancteiddio a’n puro. Gweddïwn ninnau eiriau’r emyn:

   Ysbryd y tragwyddol Dduw,

   disgyn arnom ni …

   Plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:

   Ysbryd y tragwyddol Dduw,

   disgyn arnom ni.

 Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 19 Hydref, 2014

 

Pa fath newydd?

imagesXOINA2PW

Nid Caitlin Moran yw’r cyntaf i ddweud nad oes dim ond newyddion drwg ar y teledu bob dydd. Clywais ddweud yr un peth gan bobl eraill dros y blynyddoedd. Rhyfeloedd, trosedd, trais, llofruddiaethau a phob math o drychinebau a dioddefaint sy’n llenwi pob bwletin. Os nad yw’n newydd drwg, nid yw’n newydd o gwbl.

Mewn erthygl hynod o ddiddorol yn un o atodiadau papur newydd y Times yr wythnos ddiwethaf roedd Ms Moran yn apelio am newyddion mwy dyrchafol a chalonogol. Cwyno oedd hi’n benodol am y sylw mawr a roddir i chwaraeon ar derfyn pob bwletin. Beth sydd mor arbennig am chwaraeon, meddai. Pam fod chwaraeon yn hawlio’u lle bob tro. Pam mai chwaraeon, yn hytrach na’r celfyddydau er enghraifft, sy’n cael y sylw? Pam na roddir sylw, meddai Ms Moran, i ddoniau creadigol pobl neu i’r datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Er bod gen i ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, ac er fy mod i wedi derbyn yn ddi-gwestiwn bod hynt a helynt pêl droed, rygbi, criced, tenis, beicio a champau eraill yn rhan o’r bwletinau, mae’n rhaid cydnabod bod dadl Ms Moran yn ddigon teg. Aeth ymlaen i alw am fwletinau newyddion ‘gwahanol’ sy’n rhoi sylw yn unig i’r pethau creadigol a dyrchafol mewn pob math o feysydd. Galwai am fwy o sylw i’r ymdrechion i wella bywyd ac i annog pobl i wella’u cymdeithas ac i gydfyw yn heddychlon. Awgrymai y byddai rhoi mwy o sylw i ymdrechion pobl i ddatrys problemau yn golygu y byddai llawer o anawsterau’n cael eu hosgoi hyd yn oed.

Roedd yn erthygl ddifyr iawn. Roedd yn ein hatgoffa o’r angen i beidio â rhoi’r holl sylw i newyddion drwg ond i feddwl o ddifrif beth yn union sy’n werth sôn amdano. A gall Cristnogion yn sicr hawlio bod ganddynt newydd da i’w gyhoeddi. Doedd Caitlin Moran ddim yn sôn am Gristnogaeth, na’r un grefydd arall o ran hynny, ymhlith y pethau dyrchfaol. Ond fe wyddom mai newyddion da yw’r Efengyl sy’n haeddu ei chyhoeddi’n eglur i bawb. Newydd da ydyw am gariad Duw tuag atom; y cariad nad ydym ni yn ei haeddu o gwbl. Newydd da am fywyd gwell sy’n cael ei gynnig i bawb, pwy bynnag y bo. Newydd da am un a fu’n fodlon i ddioddef dros eraill, gan ei gynnig ei hun yn aberth drostynt. Newyddion da am ffordd newydd o fyw, ac am lawenydd a gobaith sy’n cyfoethogi bywydau pobl. Newyddion da am Geidwad sy’n medru dod â phobl at ei gilydd mewn cymod ac yn eu galluogi i garu ac i gynnal ei gilydd.

Mae’n siwr bod Caitlin Moran wedi adnabod un o anghenion dyfnaf pobl, sef yr angen am gysur a gobaith a gwell na’r gwael a’r gwachul sydd mor amlwg yn ein byd. Braint yr Eglwys o hyd yw cynnig yr Arglwydd Iesu Grist i bobl fel yr un sy’n medru diwallu’r anghenion hyn yn llawn. Cyhoeddwn y newydd da bob dydd.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 12 Hydref, 2014

 

Bod yn gywir

llansan

Glywsoch chi erioed y fath ddadlau am un llythyren fechan? Dydd Mawrth, fe benderfynodd Cyngor Sir Powys newid enw pentref Llansanffraid-ym-mechain i Llansantffraid-ym-mechain trwy roi’r llythyren ‘t’ yng nghanol yr enw. (Wedi meddwl am y peth, bu mwy o ddadlau ynghylch yr enw Cricieth; ai un ‘c’ ynteu dwy sydd yng nghanol yr enw hwnnw?) Dadl y Cyngor oedd mai ‘Sant Ffraid’ sydd yng nghanol yr enw, ac felly bod angen y ‘t’. Roedd eraill yn dadlau nad oedd angen y ‘t’ gan mai merch oedd Ffraid, ac felly mai santes, ac nid sant, oedd hi, a bod ‘Sant Ffraid’ yn anghywir. Yn ôl y farn hon, Llansanffraid sydd gywir, a dyna oedd yr enw am genedlaethau nes i’r ‘t’ gael ei hychwanegu wrth i’r ardal gael ei Seisnigeiddio. Roedd y camgymeriad hwn wedi ei gywiro, meddir, yn 2008 pan benderfynwyd adfer yr hen enw a pheidio â chynnwys y ’t’. Ond yr wythnos ddiwethaf fe benderfynwyd newid unwaith eto; ac o hyn allan bydd ‘t’ yng nghanol yr enw. Rwy’n cydymdeimlo â’r bobl sy’n dadlau bod y penderfyniad anghywir wedi ei wneud.

Fe welwch y tu mewn i’r rhifyn hwn mai enw’r Ofalaeth hon o fis Ionawr fydd ‘Gofalaeth Bro’r Llechen Las’. Ond beth sydd gywir? ‘Bro’r Llechen’ ynteu ‘Bro’r Lechen’? Dyna ni eto! Un llythyren fechan yn codi cwestiwn mawr! Ydi’r gair llechen yn treiglo yma ai peidio? Byddai llawer yn dweud mai hollti blew ydi trafod peth mor fanwl â hynny, ond waeth i ni fod yn gywir ddim! Felly, ‘Bro’r Llechen Las’ amdani – heb dreiglad!

Mae manylion o’r fath yn bwysig i mi. Ond i lawer o bobl, maen nhw’n ddiflas a ddim gwerth poeni amdanyn nhw. A dwi’n deall hynny’n iawn, oherwydd yn y pen draw dydi’r manylion hyn ddim o bwys tragwyddol. Ond yr hyn sy’n drist ydi bod llawer o bobl yn dweud yr un peth am rai o wirioneddau mawr y Ffydd Gristnogol. Yng ngolwg rhai pobl, manylion dibwys nad oes angen gwastraffu amser yn meddwl amdanyn nhw yw’r hyn a ddywed y Beibl am berson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. I’r bobl hyn, mae trafod dwyfoldeb Iesu Grist, a’i fywyd perffaith, a’i farwolaeth ar Groes Calfaria, a’i atgyfodiad corfforol o’r bedd lawn cymaint o hollti blew â thrafod y manylion gramadegol uchod. Ac mae peth felly yn drist iawn, iawn. Oherwydd yn wahanol i’r ‘t’ a’r ‘c’ a’r ‘ll’, y mae’r gwirioneddau hyn am yr Arglwydd Iesu o dragwyddol bwys. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwybod y gwirioneddau amdano, ac yn eu credu.

Peidiwch â chael eich camarwain yn y pethau hyn gan neb, hyd yn oed gan weinidogion neu bregethwyr. Mae credu’r pethau cywir am Iesu Grist – y pethau y mae’r Beibl yn ei ddweud amdano – o’r pwys mwyaf i bob un ohonom. Nid hollti blew, er enghraifft, yw mynnu bod Iesu, y dyn o Nasareth, yn wir Fab Duw hefyd. Yn yr hyn a gredwn amdano y mae ein gobaith.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 05 Hydref, 2014