Mae pŵer y cyfryngau yn fawr, grym cyfalafiaeth yn enfawr, a dylanwad yr Unol Daleithiau’n ddiderfyn. Rhowch y tri pheth efo’i gilydd, a’r hyn a gewch chi ydi Black Friday.
O weld y sylw a roddwyd i’r diwrnod hwn echdoe gallech dybio ei fod cyn hyned â Dydd Nadolig a hyd yn oed mor Gymreig â Dydd Gŵyl Ddewi. Roedd gweld lluniau pobl yn rhuthro i fachu nwyddau fel setiau teledu rhad mewn archfarchnadoedd yn ddifyr a thrist yr un pryd.
Ond y gwir dristwch yw’r ffordd yr hyrwyddwyd y diwrnod hwn fel petai pobl Cymru a gwledydd Prydain wedi bod yn ei ddathlu ers cenedlaethau. Arferiad Americanaidd yw’r Black Friday hwn, sef y diwrnod ar ôl Gŵyl Ddiolchgarwch y wlad honno (y ‘Thanksgiving’ sy’n cael ei ddathlu ar bedwerydd dydd Iau mis Tachwedd). Mae Black Friday yn ddiwrnod siopa o bwys yn America. Caiff ei ystyried yn ddechrau cyfnod siopa’r Nadolig ac yn ddydd o fargeinion mawr yn y siopau.
Does a wnelo fo ddim â Chymru na gwledydd Prydain. Ond ers blwyddyn neu ddwy mae’r siopau mawr wedi ei fabwysiadu, ac mae’r cyfryngau wedi ei hyrwyddo. A thrwy eu hymdrechion mae arferiad newydd wedi ei eni, a phobl yn sôn am Black Friday fel petai yn hen gyfaill. (Gallaf gydymdeimlo â phobl sy’n mynnu na ddylid hyd yn oed gyfieithu’r enw i’r Gymraeg am ei fod yn arferiad mor estron, er bod y term ‘Dydd Gwener y Gwario’ wedi ei glywed fwy nag unwaith echdoe.)
Ond os yw’r ffordd y llwyddir i greu arferion newydd yn ddychryn i ni, mae’r ffordd y collir arferion eraill yr un mor rhwydd yn fwy o ddychryn. Ac ymhlith y pethau a gollwyd gan gynifer o bobl heddiw y mae arferion Cristnogol fel mynychu oedfa ac Ysgol Sul, darllen y Beibl a gweddïo.
Mae gennym lawer iawn o arferion gwerthfawr. Ond nid yw pob arferiad yn dda, ac mae Black Friday yn sicr yn un y byddai’n dda i ni hebddo os yw’r hyn a welwyd mewn sawl man echdoe yn debygol o ddod yn beth cyffredin.
Un peth y medrwn ddweud yn bendant yw bod arnom angen rhywbeth gwell nag arferion. Mae arferion yn medru bod yn bethau bregus. Gallwn greu arferion yn rhwydd, ond gallwn eu rhoi heibio hefyd yr un mor rhwydd. Ac er bod yna lawer o arferion da yn deillio o’r Ffydd Gristnogol, mor bwysig yw deall bod y Ffydd honno yn llawer mwy nag arferion. Bywyd, yn hytrach nag arferion yw Cristnogaeth, bywyd o ffydd yn Iesu Grist; bywyd o adnabod Iesu a’i ddilyn; bywyd o dderbyn ei gariad ac o ddangos ei gariad.
Ac nid bywyd sydd wedi ei greu gan bobl – yn America nac unman arall – yw hwnnw, ond bywyd a luniwyd ar ein cyfer gan Dduw ac a roddwyd i ni trwy ei Ysbryd Glân. Ac oherwydd hynny, mae’n fywyd sy’n para byth. Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 30 Tachwedd, 2014