Be’ oedd ar y teledu Noswyl Nadolig 1986? Ymhlith arlwy’r BBC y noson honno roedd Christmas With Val Doonican. A sut wn i hynny? Am fod y rhaglen wedi ei hail ddangos ganol yr wythnos ddiwethaf. Roedd y Gwyddel Val Doonican yn ‘enw’ cyfarwydd ar y pryd, ac mae’n siŵr gen i fod y rhaglen hon yn ddigon poblogaidd y Nadolig hwnnw. Ond oedd hi’n werth ei dangos bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach? Beth bynnag am hynny, roedd yn ddigon difyr. Roedd y gynulleidfa’n sicr werth ei gweld! Coler a thei i’r dynion, a ffrogiau gorau i’r merched! A phawb yn edrych flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw gynulleidfa deledu a gewch chi heddiw.
A gwerth ei weld a’i glywed hefyd oedd datganiad seiloffon a marimba Albanes 20 mlwydd oed o’r enw Evelyn Glennie. Ers hynny, mae hi wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn fel offerynnwr taro proffesiynol. Ond yr hyn sy’n annisgwyl am Evelyn Glennie yw bod ei chlyw wedi dechrau dirywio pan oedd hi’n wyth oed a’i bod yn hollol fyddar ers yn ddeuddeg oed. A’r peth rhyfeddol yw ei bod yn ymwrthod â’r syniad bod hyn yn anfantais iddi fel cerddor, gan fynnu yn hytrach bod ei byddardod wedi gwneud iddi allu gwerthfawrogi cerddoriaeth mewn ffyrdd eraill. Yn hytrach na ‘chlywed’ cerddoriaeth â’r glust, mae Evelyn Glennie yn ‘clywed’ â’r bysedd, â’r llygaid, â’r teimlad, â’r traed ac â’i holl gyneddfau. Yn ferch ifanc, bu’n frwydr fawr iddi gael lle mewn coleg cerdd gan nad oedd neb yn credu y gallai person byddar lwyddo ym myd cerdd. Ond fe’i derbyniwyd oherwydd ei dawn ryfeddol, ac yn sgil hynny fe agorwyd drysau colegau cerdd i bobl â phob math o anableddau eraill.
Ar Ŵyl y Nadolig, diolchwn am Efengyl Goleuni. Y Crist a aned ym Methlehem yw gwir oleuni’r byd. A phan feddyliwn am ‘weld’ y goleuni hwnnw, tybed na fedr Evelyn Glennie ddysgu rhywbeth pwysig i ni? Oherwydd onid newyddion da i’w werthfawrogi â’n holl gyneddfau yw’r Efengyl? Oni allwn glywed a theimlo’r goleuni hwn yn ogystal â’i weld? Nid rhywbeth i’w weld a’i ddeall yn oeraidd yw gwirionedd yr Efengyl. Oni allwn hefyd glywed ei sain beraidd? Ac oni allwn deimlo gwres y cariad a geir yn yr Arglwydd Iesu? Ac onid yw’r cariad hwnnw yn ein cyffroi i fod eisiau byw i garu a chlodfori’r Iesu?
Yn rhy aml, mae’r Efengyl yn cael ei chyfyngu gennym. Fe’i gwnawn yn rhywbeth i’r deall gan bwysleisio’r ffeithiau moel am fywyd a gwaith Iesu Grist. Ond gall gwybodaeth a deall fod yn oeraidd. Neu, fe wnawn ni’r Efengyl yn rhywbeth i’r galon a’r teimladau yn bennaf, heb roi gormod o bwys ar y gwirioneddau a ddatguddir yn Y Beibl am berson a gwaith y Gwaredwr. Ond pethau anwadal iawn yw teimladau sydd heb eu seilio ar ffeithiau pendant am yr Iesu. Neu, fe wnawn yr Efengyl yn fater o ymddygiad a gweithredoedd sy’n fwy o ddyletswydd nag o ymateb gwirfoddol i gariad aberthol Duw tuag atom yn ei Fab.
Dathlwn y Nadolig eleni gan glodfori Duw am Efengyl y medrwn ei gweld a’i chlywed a’i theimlo ac ymateb iddi mewn cariad ac ufudd-dod am fod Duw trwy ei Fab Iesu Grist wedi ein caru a’n gwaredu. Yn ei drugaredd, boed i Dduw ein galluogi i fwynhau’r Efengyl yn llawn â’r llygad a’r glust a’r galon a rhoi iddo Ef glod ein genau .
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 21 Rhagfyr, 2014